Mab Thomas Ellis ac Elizabeth ei wraig. Ganwyd yn Cynlas, Cefnddwysarn, ger y Bala, 16 Chwefror 1859. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd Llandderfel ac ysgol ramadeg y Bala; ymhlith ei gyfoedion yno yr oedd D. R. Daniel, O. M. Edwards, a J. Puleston Jones. Yn Ionawr 1875 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac aros yno hyd 1879. Yn Hydref 1880, ar ôl blwyddyn yn Rhydychen fel efrydydd di-goleg, derbyniwyd ef i'r Coleg Newydd; daeth yn aelod o 'Essay Society' y coleg hwnnw, a chymerodd ran flaenllaw mewn gweithgareddau cymdeithasol a gwleidyddol; bu'n aelod o bwyllgor sefydlog yr 'Oxford Union Society.' Graddiodd mewn hanes yn yr ail ddosbarth yn 1884, daeth yn B.A. yn 1885, ac yn M.A. yn 1897. Ar ôl blwyddyn fel athro priod yn nheulu John Cory, Llaneurwg, daeth yn ysgrifennydd i (Syr) John Tomlinson Brunner, diwydiannwr ac aelod seneddol Rhyddfrydol dros yr Heledd Ddu, a dechrau newyddiadura'n achlysurol.
Ym mis Gorffennaf 1886 dewiswyd ef yn ymgeisydd Rhyddfrydol ym Meirionnydd, ac etholwyd ef i'r Senedd. Ymdreuliodd dros fuddiannau Cymru'n ddiarbed, a daeth yn fuan yn arweinydd yn y bywyd Cymreig; cymerodd ran helaeth yn yr ymgyrch a sicrhaodd basic Deddf Addysg Ganolradd a Thechnegol (Cymru) yn 1889. Y gaeaf hwnnw aeth i'r Aifft, a thrawyd ef yn bur wael gan dwymyn; pan ddychwelodd yn 1890 rhoddwyd iddo dysteb genedlaethol gan bobl Cymru. Yn ei araith yn y Bala, Medi 1890, pan dderbyniodd y dysteb, cyhoeddodd ei efengyl wleidyddol, a gofyn am gymanfa ddeddfwriaethol i Gymru yn angen pennaf. Ond prin oedd yr ymateb; ac yn 1892, pan ffurfiodd W. E. Gladstone ei weinyddiaeth, derbyniodd Ellis swydd yr ail chwip. Yn y swydd hon bu ef yn anad neb yn foddion i sicrhau penodi comisiwn brenhinol i ystyried Pwnc y Tir yng Nghymru a Mynwy, ac i hyrwyddo mesurau er datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru. Yn 1894 penodwyd ef yn brif chwip. Rhoddes lawer o'i amser i weinyddiad addysg yng Nghymru; bu'n aelod o gydbwyllgor addysg Meirionnydd dan Ddeddf 1889 (uchod), o Lys Prifysgol Cymru, ac o'r Bwrdd Canol Cymreig. Yr oedd yn un o arloeswyr y mudiad er sicrhau llyfrgell genedlaethol i Gymru; cychwynnodd ef Gymdeithas Hen Fyfyrwyr Coleg Aberystwyth, a bu'n llywydd arni hyd ei farw; bu hefyd yn warden Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Golygodd gyfrol gyntaf Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd, a gorffennwyd ei waith gan ei frawd-yng-nghyfraith, J. H. Davies.
Priododd Annie, merch R. J. Davies o'r Cwrt Mawr, Llangeitho, a bu iddynt fab, Thomas Iorwerth Ellis. Bu farw yn Cannes, Ffrainc, 5 Ebrill 1899, a'i gladdu yng Nghefnddwysarn. Mae cofgolofn iddo ar stryd y Bala ac un arall yng nghyntedd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyhoeddwyd cyfrol o'i weithiau yn 1912.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.