Ganwyd yn y Cwrt Mawr, Llangeitho, 15 Ebrill 1871, trydydd mab R. J. Davies a Frances ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol y pentref, yn Ysgol Lewis, Pengam, Ysgol Coleg y Brifysgol, Llundain, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg Lincoln, Rhydychen. Yn ddiweddarach galwyd ef yn fargyfreithiwr gan Lincoln's Inn. Ymdaflodd i'r bywyd cyhoeddus yn ŵr ieuanc iawn; daeth yn ynad heddwch dros Sir Aberteifi ac yn drysorydd cymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd cyn cyrraedd ei 30 oed.
Dyfnhawyd ei ddiddordeb ym mywyd a llenyddiaeth Cymru drwy ei gyfathrach yn Rhydychen ag O. M. Edwards ac wedi hynny â T. E. Ellis, ei frawd-yng-nghyfraith. Yn 1905 penodwyd ef yn gofrestrydd Coleg Prifysgol Cymru, ac yn 1919 yn brifathro; daliodd y swydd honno hyd ei farw. Gyda Syr John Williams ac eraill yr oedd yn un o'r phrif weithwyr yn y mudiad er sicrhau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn un o'i phrif gynheiliaid ar ôl ei sefydlu. Y mae ei gasgliad (Cwrtmawr) o lyfrau a llawysgrifau yn awr yn Ll.G.C. Codwyd ef yn 1908 yn aelod o'r Comisiwn ar yr Eglwys yng Nghymru : yr oedd yn uchel siryf Ceredigion yn 1911 ac yn gadeirydd ei chyngor sir yn 1917. Gwasnaethodd ar Fwrdd Canol Cymru am flynyddoedd lawer, a bu'n is-gadeirydd ei bwyllgor gwaith.
Un o'i brif ddiddordebau oedd casglu llyfrau a llawysgrifau Cymraeg, ac yn y maes hwn ef oedd y prif awdurdod yng Nghymru. Ymhlith ei aml gyhoeddiadau ceir Hen Ddewiniaid Cymru , 1901, A Bibliography of Welsh Ballads, 1911, a Rhestr o Lyfrau gan y Parch. William Williams, Pantycelyn, 1918. Golygodd The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris, of Anglesey, (cyf. I , 1907), (cyf. II , 1909), ail gyfrol Gweithiau Morgan Llwyd, 1908 - golygasid y gyfrol gyntaf gan T. E. Ellis - a The Autobiography of Robert Roberts ('Y Sgolor Mawr'), 1923, a The Letters of Goronwy Owen, 1924. Yr oedd ganddo wybodaeth ddi-ail am fywyd Cymru yn ystod chwarter cyntaf yr 20fed ganrif, ac ychydig oedd yr agweddau ar y bywyd hwnnw na chyffyrddodd ef â hwynt a'u haddurno. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cylchgrawn Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, ac ymddengys yn hwnnw lawer o'i gyfraniadau; am 10 mlynedd (1910-20) ef oedd golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Lyfryddol Cymru . Yn ystod ei dymor fel cofrestrydd bu ganddo gysylltiad agos â'r gweithgarwch addysgol yn siroedd rhanbarth y coleg; pan ddaeth yn brifathro llwyddodd, drwy ei nodweddion personol arbennig ac amrywiaeth ei brofiad, i ddwyn y coleg a'r brifysgol yn nes at y genedl Gymreig.
Bu farw yng Nghwm Cynfelyn, ger Aberystwyth, 10 Awst, a'i gladdu yn Llangeitho.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.