Mab ieuengaf David Davies, crwynwr, a Jonett, merch Robert Jones o Aberllefenni. Ganwyd Robert Davies ym Machynlleth a symudodd wedyn i Aberystwyth. Gydag Owen Jones ei gefnder yr oedd yn un o sylfaenwyr ysgol Sul Trefechan, Aberystwyth, dan nawdd capel y Tabernacl, ac ef oedd ei harolygwr parhaol. Yn ei dŷ ef yn yr Heol Fawr, Aberystwyth, y paratowyd Cyffes Ffydd y Methodistiaid Calfinaidd. Priododd Eliza, merch y Parch. David Charles (I), yn Eglwys Bedr, Caerfyrddin, 8 Mehefin 1825. Bu farw 17 Mai 1841 a'i gladdu yn Aberystwyth.
O'i feibion, ganwyd yr ieuengaf, ROBERT JOSEPH DAVIES (1839 - 1892), rhydd-ddeiliad, yn Llanbadarn Fawr, 2 Awst 1839. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, a'r Coleg Amaethyddol Brenhinol, Cirencester. Priododd, 1863, Frances, merch y Parch. David Humphreys, Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin, a gorŵyres y Parch. Peter Williams, a threuliodd weddill ei oes yn y Cwrt Mawr, Llangeitho. Gwnaethpwyd ef yn ynad heddwch dros Sir Aberteifi yn 1870, ac yn drysorydd cymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn 1873. Rhoddodd lawer o'i amser at wasanaeth ei gyfundeb. Bu farw 6 Mai 1892, a'i gladdu yn Llangeitho.
O'i blant, priododd yr hynaf, SARA MARIA (1864 - 1939) â'r Parch. J. M. Saunders; ysgrifennodd hi nifer o lithiau byrion yn disgrifio'r bywyd crefyddol a chymdeithasol Cymreig. Bu DAVID CHARLES DAVIES (1866 - 1928) yn gyfarwyddwr Amgueddfa Filofyddol Field yn Chicago, U.D.A.; daeth John Humphreys Davies yn brifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth; priododd ANNIE JANE (1873 - 1942) yn gyntaf â T. E. Ellis ac yn ail â'r Parch. Peter Hughes Griffiths; roedd WALTER ERNEST LLEWELLYN (1874 - 1941) yn feddyg; a phriododd ELIZA (Lily) Charles (1876 - 1939) a J. E. Hughes.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.