GRIFFITHS, PETER HUGHES (1871 - 1937), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur

Enw: Peter Hughes Griffiths
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1937
Priod: Annie Jane Ellis (née Davies)
Priod: Mary Griffiths (née Howell)
Rhiant: Anna Griffiths
Rhiant: John Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 6 Awst 1871 yn Ffynnon Ynyd, Glanyfferi, Sir Gaerfyrddin, mab y Parch. John Griffiths ac Anna ei briod. Cafodd ei addysg ym Mharcyfelfed, Caerfyrddin, a bu mewn siop yn Aberpennar, Morgannwg. Dechreuodd bregethu yno a chafodd addysg bellach yn ysgol y Gwynfryn a Choleg Trefeca. Bu'n weinidog cynorthwyol yn eglwys Bresbyteraidd Saesneg Waterloo, Lerpwl, cyn ei ordeinio yn sasiwn Cwmbwrla, 1900. Bugeiliodd eglwys y Crug Glas, Abertawe, am ddwy flynedd; symudodd i Charing Cross, Llundain, yn 1902, ac yno y bu weddill ei oes. Pregethai'n wreiddiol, a nodweddid ei weinidogaeth gan asbri ysbrydol.

Priododd (1) Mary Howell o Ben-coed, (2) Annie Jane, gweddw T. E. Ellis, A.S. Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau Cymraeg, a cheir detholiad o'i ysgrifau yn Llais o Lundain 1912. Golygodd Gweithiau Gwilym Teilo (d.d.), ac ymddangosodd Cofiant W. E. Prytherch yn 1937, ar ôl ei farw.

Bu farw 1 Ionawr 1937, a'i gladdu ym mynwent Salem, Pencoed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.