Ganwyd Annie Jane Davies ar 5 Ebrill 1873 yng Nghwrt Mawr, Llangeitho, Ceredigion, y chweched o ddeg o blant Robert Joseph Davies (1839-1892) a'i wraig Frances (g. Humphreys, 1836-1918), tirfeddianwyr. Roedd ganddi dair chwaer, Sara Maria (1864-1939), Mary (1869-1918) ac Eliza ('Lily', 1876-1939), a chwe brawd, Robert Brian ('Bertie', 1865-1879), David Charles (1866-1928), Edward (1867-1869), John Humphreys Davies (1871-1926), Walter Ernest Llewelyn (1874-1941), a George (g. a b.f. 1877).
Derbyniodd beth o'i haddysg fel plentyn yn ysgol Llangeitho, ac yna mewn gwahanol ysgolion am gyfnodau yn Aberystwyth, Llundain a Chaer. Ymaelododd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1892, gan dreulio tair blynedd yno, ond heb fwriad i weithio ar gyfer gradd. Ym 1895, aeth i Lundain i gadw tŷ i'w brodyr John a Walter, oedd yn fyfyrwyr yno; mae'n amlwg iddi gael blas ar fywyd Cymraeg y brifddinas, er y byddai'n rhannu ei hamser rhwng Llundain ac Aberystwyth, fel y gwnâi weddill ei hoes. Trwy ei brawd John y cyfarfu â Thomas Edward Ellis, Aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Feirionnydd, a bu'r ddau'n gohebu o 1897 hyd nes iddynt briodi ym 1898. Mae ei lythyrau ef ati hi wedi goroesi, ond yn dilyn marwolaeth ei gŵr, dinistriodd Annie ei llythyrau hi ato ef.
Y bwriad gwreiddiol oedd priodi ym Mai 1898, ond bu'n rhaid gohirio'r dyddiad oherwydd marwolaeth Gladstone, a Tom Ellis yn Brif Chwip y Llywodraeth, a chynhaliwyd y briodas ym Mehefin 1898. Prin ddeng mis o fywyd priodasol a gafodd y ddau. Ni fu Tom Ellis yn dda ei iechyd ddiwedd 1898, ac nid oedd wedi gwella'n iawn y flwyddyn ganlynol, er na laciodd ddim ar ei waith seneddol na llenyddol, felly yr oedd gwahoddiad i dreulio gwyliau'r Pasg yn hinsawdd gynnes Cannes yn ne Ffrainc yn ymddangos fel cyfle i ymlacio ac ymgryfhau. Ond nid felly y bu, gan iddo gael ei daro'n wael, a bu farw yno ddechrau Ebrill 1899.
Ganwyd eu mab, Thomas Iorwerth Ellis, ar 19 Rhagfyr 1899, gyda meddyg y Frenhines, Syr John Williams, yn cael ei alw o Balas Buckingham i ofalu am Annie yn ei gwewyr esgor. Mae hanes teuluol yn dweud iddo gyfarwyddo'r fydwraig, wedi'r geni 'Rhowch slap ar ei ben-ôl e, iddi gael ei glywed e'n llefen'.
Byddai ei galw yn 'fam sengl' gyda holl gynodiadau cyfoes hynny yn gamarweiniol. Roedd ganddi gefnogaeth ei theulu, a chanddi hefyd fodd, a chysylltiadau, yn Llundain ac yng Nghymru. Roedd yn adnabyddus fel gwraig gyhoeddus yng Nghymru ac yn Llundain fel ei gilydd: yng Nghymru oherwydd ei hymwneud â Choleg y Brifysgol, Aberystwyth, ac â'r Llyfrgell Genedlaethol, ac yn Llundain, nid yn unig am gysylltiadau Seneddol Tom Ellis, ond hefyd am ei hymlyniad at ei henwad, yng Nghapel Cymraeg Charing Cross, lle'r oedd yn aelod, ac yn gwneud llawer â merched ifainc o Gymry oedd yn gweithio yn y brifddinas. Ym 1916, daeth y Parchedig Peter Hughes Griffiths, gweinidog Capel Charing Cross, yn ail ŵr iddi.
Bu'n weithgar gyda Chynghrair y Cenhedloedd (rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig), ac erbyn 1923, hi oedd Llywydd Cyngor Cenedlaethol Cymru o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd. Pan gafwyd y syniad o gael deiseb heddwch gan fenywod Cymru, dewiswyd Annie Hughes Griffiths yn un o'r trysoryddion mygedol.
Mae hanes casglu'r enwau ar y ddeiseb heddwch yn dyst i'r teimlad nerthol oedd ar droed o blaid heddwch yn dilyn galanastra'r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn sgîl cynadleddau yn Llandrindod ac yna yn Aberystwyth ym Mai 1923, merched oedd yn cynnig, eilio ac yn cefnogi'r alwad i ferched ledled Cymru gydweithio i anfon apêl at ferched America i ofyn iddynt ddwyn perswâd ar yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.
Nifer fechan o ymgyrchwyr a roddodd gychwyn ar y gwaith o gasglu'r enwau, trwy benodi trefnyddion i ledaenu'r neges ac i roi'r gwaith ar droed. Llwyddwyd i gasglu'r nifer ryfeddol o 390,296 o lofnodion, trwy ymdrechion dygn y pwyllgorau lleol, y cyfarfodydd a gynhaliwyd i esbonio pwrpas y ddeiseb a'r gwirfoddolwyr a aeth yn llythrennol o dŷ i dŷ i gasglu'r enwau. Pan benderfynwyd bod angen dirprwyaeth i fynd â'r ddeiseb i America, roedd Annie Hughes Griffiths yn ddewis amlwg i arwain y ddirprwyaeth.
Pedair gwraig a hwyliodd am America ar y llong Cedric gyda'r gist a ddaliai'r ddeiseb; gydag Annie roedd Mary Ellis, un o Arolygwyr Ysgolion Ei Fawrhydi, Elined Prys, gweithwraig gymdeithasol, a Gladys Thomas a aethai yn gwmni i Annie ar y fordaith. Glaniwyd yn harbwr Efrog Newydd ar 11 Chwefror 1924.
Bu gwragedd dylanwadol yn America wrthi'n brysur yn gwneud trefniadau i roi cyhoeddusrwydd i'r ddirprwyaeth, ac uchafbwynt yr ymweliad oedd cinio mawreddog mewn gwesty yn Efrog Newydd, lle'r ymgynullodd dros bedwar cant o wragedd i weld cyflwyno'r ddeiseb. Cynrychiolwyr oedd y rhain o ddegau o gymdeithasau a mudiadau, yn cynrychioli gyda'i gilydd filiynau o aelodau. Prawf o ddoethineb dewis Annie i arwain y ddirprwyaeth oedd y derbyniad a gafodd ei hanerchiad i'r dorf: anerchiad a draddododd sawl gwaith i wahanol gymdeithasau yn ystod y daith, oherwydd nid Efrog Newydd oedd yr unig gyrchfan, gan y trefnwyd i'r gwragedd deithio wedyn i Washington, ac i'r Tŷ Gwyn, i gyfarfod â'r Arlywydd Calvin Coolidge. Dylid pwysleisio mai prif bwrpas y daith a'r ddeiseb oedd cysylltu menywod Cymru â menywod America. Naws anffurfiol oedd i'r cyfarfyddiad â'r Arlywydd, ac yr oedd y trefnwyr yn awyddus i bwysleisio mai digwyddiad anwleidyddol ac amhleidiol ydoedd, yn enwedig o gofio'r teimlad cryf dros ymynysiaeth yn yr Unol Daleithiau ar y pryd.
Cadwodd Annie ddyddiadur o'r cyfnod yn America, ynghyd â nodiadau ar gyfer ei hareithiau yno. Mae cyfweliadau a roddodd i bapurau newydd yn America ei hun ac yn ôl yng Nghymru wedi iddi ddychwelyd, yn dangos yn glir ei balchder at yr ymateb a gafodd y ddeiseb, a'i gobeithion y byddai ymdrechion y menywod yn dwyn ffrwyth. Ar waetha'r siom o weld na wnaeth yr Unol Daleithiau yn y pen draw ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, ni phylodd ei brwdfrydedd dros heddwch ac achosion dyngarol, a wreiddiwyd yn ei magwraeth Fethodistaidd.
Bu farw Annie Hughes Griffiths yn Neuadd Wen, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth ar 7 Hydref 1942, a'r Ail Ryfel Byd erbyn hynny yn ei anterth. Fe'i claddwyd ym Mynwent Gwynfil, Llangeitho, gyda'i brawd, J. H. Davies. Mae'r bedd yn un amlwg iawn, gyda chroes Geltaidd fawr, sy'n adlais o'r un ar fedd ei gŵr cyntaf yng Nghefnddwysarn. Y geiriad ar y garreg yw 'hefyd ei chwaer', ei henw a'i dyddiadau. Dim mwy.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-10-24
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.