SAUNDERS, SARA MARIA ('S.M.S.') (1864 - 1939), efengylydd ac awdur

Enw: Sara Maria Saunders
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1939
Priod: John Maurice Saunders
Plentyn: Mair Saunders
Plentyn: Olwen Saunders
Rhiant: Robert Joseph Davies
Rhiant: Frances Davies (née Humphreys)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: efengylydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Rosanne Reeves

Ganwyd Sara Maria Saunders ym mis Mawrth 1864 yng Nghwrt Mawr, Llangeitho, Ceredigion, yr hynaf o ddeg o blant Robert Joseph Davies (1839-1892) a'i wraig Frances (g. Humphreys, 1836-1918), tirfeddianwyr. Roedd ganddi dair chwaer, Mary (1869-1918), Annie Jane (1873-1942) a fu'n ymgyrchydd dros heddwch rhyngwladol, ac Eliza ('Lily', 1876-1939), a chwe brawd, Bertie (1865-1879), David Charles (1866-1928), Edward (1867-69), John Humphreys Davies (1871-1926) a ddaeth yn Brifathro Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, Walter Ernest Llewelyn (1874-1941), a George (1877-1877). Ar ochr ei thad roedd S.M.S. yn or-orwyres i David Charles, brawd Thomas Charles o'r Bala, ac ar ochr ei mam yn or-orwyres i'r esboniwr Beiblaidd Peter Williams. Yng nghartref ei thad-cu a'i mam-gu, Robert Davies ac Eliza (g. Charles) yn Stryd Fawr, Aberystwyth, y lluniwyd Cyfansoddiad a Chyffes Ffydd y Methodistiaid yn 1823.

Plasty bychan ar gyrion pentre Llangeitho oedd Cwrt Mawr. Pan ddaeth ei thad a'i mam yn dirfeddianwyr, Cymraeg eu hiaith, cwbl ymroddedig i Fethodistiaeth Galfinaidd, hwy oedd arweinwyr eu cymuned, yn bennaf drwy weithgareddau Capel Gwynfil, ei thad yn ben-blaenor ac yn ustus heddwch a'i mam-gu, pan aeth yn ffaeledig, yn arolygu dosbarthiadau'r Ysgol Sul ar aelwyd Cwrt Mawr. O dan ddylanwad ei theulu, yn arbennig ei mam a'i mam-gu a oedd yn bresenoldebau crefyddol allblyg eu natur, ei haddysg mewn ysgol fonedd Fethodistaidd yn Lerpwl a'i phlentyndod ym mhentre Daniel Rowland yn sŵn atgofion y trigolion am Ddiwygiad Dafydd Morgan Ysbyty Ystwyth (1859), profodd Sara dröedigaeth Gristnogol yn ferch ifanc. Yn dilyn ei phriodas yn 1887 â John Maurice Saunders (1863-1919), aelod o deulu Methodistaidd amlwg arall oedd yn byw yn Lerpwl (mab i'r Dr D. D. Saunders), ymrwymodd Sara weddill ei hoes i'w galwedigaeth fel efengylydd ac awdur.

Ordeiniwyd John Saunders yng nghapel Bwlchgwynt, Tregaron yn 1890, ac ar ôl cyfnod byr yn Llanymddyfri aethant i fyw i Benarth ar yr union adeg y sefydlwyd Y Symudiad Ymosodol gan John Pugh yn 1891, sef braich genhadol Methodistiaeth yn y de diwydiannol. Yn awr daeth diddordeb arbennig S.M.S. yn nhynged merched a menywod i'r amlwg, ei hymwybyddiaeth o'r anawsterau a wynebwyd ganddynt a'i ffydd yn eu potensial. Trwy ei hymdrechion hi ac aelodau benywaidd eraill, yn 1903 sefydlwyd Adran Merched y Symudiad Ymosodol yn Llandrindod. Yn yr un flwyddyn cychwynnodd S.M.S. gangen i Ferched Abertawe, lle'r oedd hi a'i gŵr yn byw erbyn hyn gyda mam John Saunders (chwaer i'r Deon Howell, Tyddewi), a oedd yn wraig weddw. Yno yn 1901 a 1903 y ganwyd eu dwy ferch, Mair ac Olwen.

Yn 1908 llwyddwyd i sefydlu lloches barhaol i'r Symudiad Ymosodol yng Nghaerdydd. 'Mainly through the efforts of some of the women of our Movement, led by Mrs J. M. Saunders', meddir yn y Monthly Treasury, 'we decided to purchase more commodious premises at Kingswood, Canton, where we might carry on Rescue as well as Preventive Work'. I'r perwyl hwn nodir yn y Torch: 'Mrs J. M. Saunders collected £750 to meet Mr John Cory's offer of £250' ac yn dilyn hyn sefydlwyd urdd o fenywod, 'Chwiorydd y Bobl', i redeg y lloches.

Uchelgais S.M.S. a'i chyd-efengylwyr oedd hyrwyddo diwygiad arall. Felly, ochr yn ochr â'i gwaith ymarferol dros Y Symudiad Ymosodol, aeth ati yn awr i ddefnyddio'i thalent gynhenid i adrodd stori fel dull pwerus o achub eneidiau. Nodir gan ei chwaer Annie fel yr arferai swyno'i chwiorydd a'i brodyr iau drwy ei hanesion difyr. Ac meddai ei merch Mair, genhedlaeth yn ddiweddarach, 'Mother was a marvellous raconteur and could really hold audiences of children or adults quite spellbound.'

Rhwng 1893 a 1896, cyhoeddodd ei chyfres gyntaf o storïau yn Y Drysorfa , misolyn Methodistiaid Calfinaidd Cymru (yr awdur benywaidd cyntaf i gyhoeddi ffuglen yn y cylchgrawn hwnnw). Yn unol â'i nod o ail-gynnau fflam diwygiadau'r gorffennol, hanesion yw'r rhain am y bendithion a brofwyd gan drigolion Llanestyn (pentref seiliedig ar Langeitho) yn ystod Diwygiad 1859, 'y bobl' meddai 'ymhlith pa rai y cefais y fraint o dreulio blynyddau cyntaf fy mywyd'. Gymaint eu poblogrwydd fel y bu iddynt gael eu casglu a'u cyhoeddi o dan y teitl Llon a Lleddf (Treffynnon, 1897).

Roedd S.M.S. yn hyderus y byddai ei dyhead yn cael ei wireddu. Meddai yn y Traethodydd yn 1903, t.459 , 'Gwn fod llawer o bobl dda yn credu na welwn ni byth mwyach ddiwygiadau mawr megys cynt... Anhawdd iawn ydyw derbyn yr athrawiaeth hon ar ôl gweled effeithiau grymus gweinidogaeth Gipsy Smith'. Ac ymhen blwyddyn, gwireddwyd ei breuddwyd pan gyrhaeddodd Diwygiad 1904-05, yn ei geiriau hi, 'fel storom o fellt a tharanau'.

Dyblodd S.M.S. ei hymdrechion llenyddol yn awr mewn ymgais i gynnal y momentwm. Ymddangosodd cyfres yn Yr Ymwelydd Misol yn 1906-7, a gyhoeddwyd o dan y teitl Y Diwygiad ym Mhentre Alun (Gwrecsam, 1908), i'w dilyn gan gyfres arall i'r Yr Ymwelydd Misol yn 1908, sef Llithiau o Bentre Alun (Gwrecsam, 1908). Tra'r oedd ei chyfres gyntaf yn atgofion o lawenydd y gorffennol, roedd y ddau deitl hyn yn ddathliad gorfoleddus o'r presennol. Yn dilyn eu llwyddiant ysgubol ymhlith ei darllenwyr gofynnwyd iddi gyfrannu cyfres arall o hanesion am 'Hen Bobl Llanestyn' i'r Yr Ymwelydd Misol yn 1914. Er na chyhoeddwyd rhagor o'i ffuglen ar ffurf teitlau unigol, ymddangosodd ei chyfraniadau Cymraeg, ffuglen a ffaith, yn Y Gymraes , Y Drysorfa , Y Traethodydd , Yr Efengylydd , a Cymru: Heddyw ac Yforu hyd y flwyddyn 1930.

Denwyd sylw golygyddion cylchgronau Saesneg hefyd at ei dawn, a gan fod S.M.S., gellid dadlau, yn poeni llawn cymaint, os nad mwy, am lwyddiant Methodistiaeth nag am ddyfodol y Gymraeg, rhwng 1892 a 1929 cyhoeddwyd erthyglau a ffuglen o'i heiddo yn y Christian Standard , Monthly Treasury , Young Wales , The Torch a The Treasury , rhai ohonynt yn torri tir newydd drwy fod yn addasiadau o'i hanesion i'r cylchronau Cymraeg.

Daeth saib ar ei hysgrifennu i gylchgronau Cymru am gyfnod pan symudodd y teulu yn 1912 i Seland Newydd am chwe mlynedd, pan wahoddwyd John Saunders i fod yn weinidog eglwys Bresbyteraidd St David's yn Auckland. Drwy ymdrechion personol S.M.S., erbyn 1914, roedd y swm a gasglwyd yn flynyddol gan St David's i'r genhadaeth dramor wedi neidio o £198 i £441. O dan ei gofal, cynyddodd y nifer o ferched a fynychai'r dosbarth Beiblaidd i hanner cant, ac yn y cylchgrawn The Harvest Field Presbyterian Women's Missionary Union, a'r Outlook, cyhoeddiad Presbyteriaid Seland Newydd, cyfeirir yn gyson at ei chyfraniad fel areithwraig, cadeirydd neu drefnydd. Yn ei bennod am John Saunders yn ei lyfr The Story of St Davids' Presbyterian Church, Auckland 1874-1921 meddai'r awdur D. J. Albert am S.M.S. '… [she] was highly educated, splendidly gifted and deeply consecrated... if he [Mr Saunders] needed a scholarly advocate with a silver tongue, then Mrs Saunders was perhaps the most convincing and charming speaker in Auckland'. Cyn hir ymddangosodd cyfresi o'i heiddo yn yr Outlook, a nifer o'r storïau hyn hefyd yn fersiynau o'r hanesion Cymraeg am gymeriadau Llanestyn. Oherwydd salwch John Saunders, gadawsant Seland Newydd yn 1918 a symud i fyw i Dde Califfornia. Yno bu farw John Saunders yn 1919.

Gyda'i chyfrifoldebau fel gwraig y mans wedi dod i ben, trosglwyddodd S.M.S. ei hasbri efengylyddol i weithgareddau'r Genhadaeth Dramor. Ni chafodd hi ei hunan y cyfle i fod yn genhades fel merch ifanc, gan ei bod yn briod cyn i ferched sengl gael caniatâd eu henwad i fynd i'r India i weithio. Ond amlygwyd ei diddordeb brwd, ei gwybodaeth a'i gwaith dros yr achos dro ar ôl tro. Dywedodd D. J. Albert amdani '[she] possessed a large library of Foreign Mission books, and was conversant with every detail of the subject,' datganiad a ategid yn y Cenhadwr yn 1924, lle dywedir, 'Ganddi hi, ond odid, y mae'r llyfrgell genhadol oreu yng Nghymru.' Fel un â'r holl wybodaeth ar flaen ei bysedd, cyhoeddodd S.M.S. A Bird's Eye View of Our Foreign Fields (Caernarvon: Calvinistic Methodist Book Agency, 1919) ac fe'i cyfieithwyd gan W. T. Ellis, a'i gyhoeddi o dan y teitl Rhamant Ein Cenhadaeth Dramor, (Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1924).

Ar ôl cyfnod yn ôl yng Nghymru, yng Nghaerdydd, yn 1920 aeth gyda'i merched i fyw yn Lerpwl lle'r oedd pencadlys gweithgareddau cenadesau Methodistiaid Cymru. Tan ddiwedd ei hoes, gweithiodd yn ddiflino dros y merched 'a aeth allan'. Ysgwyddodd gyfrifoldebau cenhades go iawn wedi dod adre ar gyfnod 'ffyrlo' gan dreulio wythnos o bob mis yn teithio a darlithio. Yn ei chyfres olaf un i The Treasury yn 1929, 'The Autobiography of Angharad' - yr unig gyfres o'i heiddo ag iddi naws led-hunangofiannol - gellir synhwyro rhyw hiraeth a thristwch personol. Trwy ganiatáu i Angharad fentro i'r India fel cenhades ifanc, frwdfrydig a phenderfynol, gellid dadlau fod y stori hon yn rhyw fath o gatharsis a helpodd S.M.S. i ddod i delerau yn ei henaint â'r cyfle a gollwyd iddi hi.

Bu Sara Maria Saunders farw yn Lerpwl yn Ionawr 1939, ac fe'i claddwyd ym mynwent Allerton. Heblaw am un cyfeiriad byr yn y Cambrian News nid ymddangosodd, hyd y gwyddys, unrhyw deyrnged yng nghyhoeddiadau'r enwad y cyfranodd tuag at ei lesiant a'i ddatblygiad drwy gydol ei hoes. Drwy ei hysgrifennu hynod ddarllenadwy, ei delweddau o Gymraesau capeli cefn gwlad Cymru, ei harddull fywiog, ei ffraethineb a'i defnydd o dafodiaith a throadau ymadrodd cymeriadau lliwgar Llangeitho yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gadawodd ar gof a chadw i ni heddiw dystiolaeth o'r modd y llwyddodd i symud llenyddiaeth y Gymraes Gymraeg gam mawr ymlaen.

Fel canlyniad i'r adnewyddiad diweddar yn niddordeb beirniaid llenyddol yn llenyddiaeth merched caiff S.M.S. ei chyfrif heddiw fel un o famau llenyddol y genhedlaeth a ddaeth ar ei hôl. Dadansoddwyd ei gwaith gan Jane Aaron, Katie Gramich a Ceridwen Lloyd-Morgan, ac ym marn E. Wyn James, Y Diwygiad ym Mhentre Alun yw'r 'cynnyrch ffuglennol Cymraeg pwysicaf i ddeillio o Ddiwygiad 1904-05'. Ail-argraffwyd casgliad o'i hanesion mwyaf difyr gan Honno, Gwasg Menywod Cymru, yn 2012 o dan y teitl Llon a Lleddf a Storïau Eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-08-18

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.