MORGAN, DAVID (1814 - 1883), diwygiwr crefyddol

Enw: David Morgan
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1883
Priod: Jane Morgan (née Evans)
Plentyn: John James Morgan
Rhiant: Catherine Morgans
Rhiant: Dafydd Morgans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwygiwr crefyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gildas Tibbott

Ganwyd yn 1814 ym Melin Fodcoll, rhwng Pontarfynach a Chwmystwyth, Sir Aberteifi, y trydydd o naw plentyn Dafydd Morgans, melinydd a saer, a Catherine ei wraig. Symudodd y teulu deirgwaith cyn ymsefydlu ym Melin y Lefel (a adeiladwyd gan ei dad) yn ardal Ysbyty Ystwyth, ac yno y bu'n byw hyd ei briodas. Dysgodd grefft saer yng ngweithdy ei dad. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1842 ac ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Trefin ar 20 Mai 1857. Yn y flwyddyn ganlynol daeth i gysylltiad â Humphrey R. Jones, a oedd newydd ddychwelyd o Unol Daleithiau'r America yn ddwfn o dan ddylanwad diwygiad crefyddol yno, ac a enynasai eisoes fflam diwygiad yng ngogledd Aberteifi. Ymunodd Morgan ag ef, a than ddylanwad y ddau efengylwr ar y dechrau, a Morgan ei hunan ar ôl hynny, wedi i iechyd corff a meddwl Jones dorri i lawr, ymledodd ' Diwygiad '59,' fel y'i gelwir, trwy Gymru oll a thu hwnt. Yn ystod 1859-60 teithiodd David Morgan trwy bob rhan o Gymru, gan gynnal yn fynych dair neu bedair oedfa mewn diwrnod. Wedi i wres y diwygiad oeri dychwelodd at ei ddyletswyddau gweinidogaethol yn Ysbyty, ac ym Mawrth 1868 galwyd ef yn ffurfiol i fugeilio'r eglwys yno, sef Capel Maes-glas y Methodistiaid Calfinaidd. Rhoes yr un gwasanaeth hefyd i gapel Methodistaidd Swyddffynnon.

Yn 1865 priododd Jane, ferch ieuengaf y Parch. Evan Evans, Aberffrwd, a symud i Glynberws, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu iddynt saith o blant. Bu farw 27 Hydref a'i gladdu yn Ysbyty Ystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.