Cywiriadau

JONES, HUMPHREY ROWLAND (1832 - 1895), diwygiwr

Enw: Humphrey Rowland Jones
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1895
Rhiant: Elizabeth Jones
Rhiant: Hugh Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwygiwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd yn Gwarcwm Bach, Llancynfelyn, 11 Hydref 1832, mab Hugh Jones ac Elisabeth, merch Huw Rowlands, Tre'rddol. Yn 1847 aethai ei rieni i America gan adael Humphrey yng ngofal ei fodryb yn Nhre'rddol. Yn 15 oed dechreuodd bregethu gyda'r Wesleaid, ac yn 1854, wedi methu fel ymgeisydd am y weinidogaeth, aeth yntau i U.D.A. a phregethodd yno o dan nawdd y Trefnyddion Esgobol. Bu'n ddiwygiwr nerthol ymhlith y Cymry am ddwy flynedd, ac yno y cafodd ei enwi yn ' Humphrey Jones, y Diwygiwr.' Yn 1858, dychwelodd i Dre'rddol a dyna ddechrau diwygiad '59 a ymledodd dros Gymru. Ym Mhontrhydygroes, yn 1858, cyfarfu â'r Parch. David Morgan, Ysbyty, a chydlafuriodd y ddau am ysbaid; eithr yng ngwanwyn 1859 llethwyd Humphrey Jones, a bu'n glaf gorff a meddwl am flynyddoedd. Yn 1871, cyrchwyd ef at ei deulu yn America. Bu'n glaf a diallu yno am bedair blynedd, ac yna ail-ddechrau pregethu a chymryd gofal eglwysi Cymreig yn Cambria a South Bend. Bu farw yn Chilton, Wisconsin, 8 Mai 1895, a'i gladdu yn Brant, Wisconsin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

JONES, HUMPHREY ROWLAND (1832 - 1895)

Hugh Jones oedd enw ei dad. Nid 'yn Gwarcwm Bach y ganwyd ef, ond yng nghofrestr y plwy cofnodir ei fedyddio ar 10 Tachwedd yn fab i Hugh ac Elizabeth Jones, ' Trerddol alias Yniscapel '. Fe'i ganwyd naill ai yng nghartref rhieni ei fam, yr Half-way Inn, Tre'r-ddôl, neu yng nghartref rhieni ei dad, ffermdy Ynyscapel. Yr oedd y plentyn rywle rhwng 4 a 6 oed pan symudodd y teulu i Warcwm Bach, rhwng 1836 ac 1838.

Awdur

  • Evan David Jones, (1903 - 1987)

    Ffynonellau

  • Papur Pawb, Rhif 80, Mehefin 1982, 6
  • Ychwaneger Eifion Evans, Humphrey Jones a Diwygiad 1859 (1980) at y llyfryddiaeth

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.