Ganwyd 11 Hydref 1762 ym Mhant-dwfn, Llanfihangel Abercywyn, Sir Gaerfyrddin, mab Rees a Jael Charles. Yr oedd yn frawd i Thomas Charles. Prentisiwyd ef yn driniwr llin a gwneuthurwr rhaffau yng Nghaerfyrddin, a bu am dymor yn ymberffeithio'i grefft ym Mryste. Dysgodd Night Thoughts Edward Young ar ei gof yn gynnar, ac argyhoeddwyd ef trwy ddarllen pregethau Ralph Erskine. Dychwelodd i Gaerfyrddin i ddilyn ei alwedigaeth, a phriododd Sarah, merch Samuel Levi Phillips, bancer o Iddew Cristnogol, Hwlffordd. Ymunodd â chynulleidfa'r Methodistiaid yn Heol-y-dwr, ac etholwyd ef yn flaenor yno. Daeth yn arweinydd yn fuan ymhlith Methodistiaid y De, a chymerodd ran flaenllaw yn sefydlu'r genhadaeth gartref a llunio'r Gyffes Ffydd. Dechreuodd bregethu yn 1808, a gweinyddai'r ordinhad o fedydd cyn ei ordeinio yn 1811 yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr. Yr oedd yn un o wrthwynebwyr pennaf llywodraeth Nathaniel Rowland yn y corff Methodistaidd. Cafodd ergyd o'r parlys yn 1828, a bu'n ddiymadferth weddill ei oes. Bu farw 2 Medi 1834, a'i gladdu yn Llangynnor.
Ystyrid ef yn feddyliwr gloyw ac yn ddiwinydd craff. Dengys ei bregethau cyhoeddedig fod ganddo arddull epigramaidd a gwead clos i'w feddyliau. Cyhoeddodd Hugh Hughes, ei fab-yng-nghyfraith, Deg a Thri Ugain o Bregethau, ynghyd ag Ychydig Emynau (Caerlleon) yn 1840; cyfrol o Sermons, etc. (London), yn 1846; a Pregethau, etc. (Wrecsam) drachefn yn 1860. Ymddangosodd Detholion o sgrifeniadau (Wrecsam) yn 1879. Cyhoeddwyd ei emynau yng nghasgliadau bychain y cyfnod, megis Anthem y Saint … gan Evan Dafydd (Caerfyrddin), 1807; Hymnau ar Amrywiol Achosion (Caerfyrddin), 1823, etc. Y mae ei safle fel emynydd yn sicr, a cheir ' Mae ffrydiau 'ngorfoledd yn tarddu,' ' Rhagluniaeth fawr y nef,' etc., yn y prif gasgliadau Cymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.