Ganwyd yn ôl pob tebyg yn Frankfurt-ar-Main yn yr Almaen. Daeth i Brydain gyda'i frawd, MOSES; o Lundain daethant i Hwlffordd yn Sir Benfro. Cawsant garedigrwydd yno gan ŵr o'r enw Phillips a chymerasant ei enw. Bedyddiwyd y ddau yn eglwys Fair, Hwlffordd (Moses ar 23 Mehefin 1755). Yr oedd Samuel yn un o sylfaenwyr banc Hwlffordd a banc Milffwrd. Priododd yn gyntaf Dorothy Hood, a bu iddynt blant. O'r rhain, daeth Philip yn daid i Hugh Price Hughes, a phriododd Sarah (1757 - 1817) â David Charles (I). Priododd Eliza (1798 - 1876), eu merch hwy, â Robert Davies.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.