mab John Hughes, llawfeddyg, Caerfyrddin, ac Anne ei wraig (ŵyres Samuel Levi Phillips); ganed yn y dref honno 8 Chwefror. O du ei fam perthynai i David Charles (I a II). Bu mewn ysgolion yng Nghaerfyrddin ac Abertawe, ac yna aeth i Goleg Richmond, Llundain. Graddiodd B.A. ym Mhrifysgol Llundain yn 1869, ac M.A. yn 1884. Yn Dover yr oedd ei ofalaeth gyntaf, ac ar ôl gweinidogaethu yn Brighton, Tottenham, Dulwich, a Rhydychen, daeth i Lundain yn 1884. Yn 1886 cychwynodd genhadaeth gorllewin Llundain, a'i pharhau hyd ddiwedd ei oes. Bu'n olygydd ar y Methodist Times, a chyhoeddi nifer o bamffledi crefyddol. Yn 1898 bu'n llywydd y gymanfa Fethodistaidd, ac yn ei flynyddoedd olaf cyfrifid ef yn un o arweinwyr bywyd crefyddol y wlad ac yn un o gynheiliaid cryfaf y gydwybod ymneilltuol. Priododd Mary Katherine Howard, merch y Parch. Alfred Barrett, o Goleg Richmond, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu farw yn Llundain, 17 Tachwedd 1902.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.