Ganwyd ym Mhwll-y-gwichiaid, Llandudno (bedyddiwyd 20 Chwefror 1790), yn fab i Thomas a Jane Hughes. Addysgwyd ef gan ei daid, Hugh Williams, a gadwai ysgol yn y Meddiant, Llansantffraid Glan Conwy. Bu farw ei fam yn 1802, a'i dad yn fuan wedyn yn Lerpwl. Yno y dysgodd Hugh Hughes gerfio, a darlunio mewn olew; y gwaith cyntaf sydd gennym o'i law yw'r darlun hysbys o John Evans o'r Bala sydd yn y Drysorfa, 1812. Teithiodd Gymru yn 1819-21 i dynnu lluniau; argraffwyd y rhannau Saesneg (1819-20) o hanes ei deithiau yn Wales (O.M.E.), iii, a'r rhannau Cymraeg (1820-1) yn Cymru (O.M.E.), viii. Yn 1823, cyhoeddodd ei waith mwyaf adnabyddus, The Beauties of Cambria, 60 o ddarluniau. Yn y Meddiant y bu wrthi'n paratoi'r gwaith hwn, ond yr oedd eisoes yn gyfarwydd â David Charles (1762 - 1834), a dechreuodd gyhoeddi llyfrau a chylchgronau yng Nghaerfyrddin; Yr Hynafion Cymreig, 1823-4, Yr Adolygydd, 1823-4, a Brut y Cymry (un rhifyn), 1824. Ar 20 Chwefror 1827, priododd Sarah, merch David Charles, ac aethant i fyw i Lundain (yn Soho); ond yn 1828 daeth yn storm ar Hugh Hughes am iddo (gyda 'Caerfallwch' ac eraill) arwyddo deiseb yn ffafr rhyddfreinio'r Pabyddion. Mynnodd John Elias gan eglwys Methodistiaid Calfinaidd Jewin ddiarddel y deisebwyr, a chadarnhawyd hynny gan sasiynau'r Gogledd a'r Deheudir. Yr oedd Hugh Hughes eisoes yn Rhyddfrydwr, ond troes hyn ef yn Radical fflamboeth. Ymunodd â'r Annibynwyr (yn ddiweddarach, aeth at Frodyr Plymouth) ac aeth ati yn Seren Gomer, 1828, i ymosod yn ffyrnig ar awdurdodau'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn bennaf ar John Elias - cyhoeddwyd yr ysgrifau'n bamffledyn, Y Trefnyddion a'r Pabyddion. Bu wedyn yn dadlau (yn Seren Gomer eto, 1830-2, dan y ffugenw 'Cristion') â 'Ieuan Glan Geirionydd' ar y Degwm, y Dreth Eglwys, a Sefydliad Eglwysig yn gyffredinol. Daliodd i fyw yn Llundain am beth amser (y mae darlith ganddo i'r Cymreigyddion yn Seren Gomer 1831), ond erbyn 1835 yr oedd yng Nghaernarfon, yn cynorthwyo 'Caledfryn' gyda'r Seren Ogleddol (1835) ac yn cychwyn y Papur Newydd Cymraeg byrhoedlog, 1836. Bu'n byw wedyn yng Nghaerlleon (1839), Abermaw (1841), Aberystwyth, a Malvern, lle y bu farw 11 Mawrth 1863. Cyhoeddodd amryw bethau yn y cyfnod hwn - yn eu mysg bregethau ei dad-yng-nghyfraith, gyda byr-gofiant - heb sôn am doreth o luniau a digrifluniau (yn enwedig ar bwnc ' Brad y Llyfrau Gleision').
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.