Ganwyd yn Tan-y-celyn, Trefriw, Sir Gaernarfon, 20 Ebrill 1795. Yr oedd ei dad, Robert Evans, yn fardd a llenor gwlad, a'i fam, Elizabeth, yn fwy diwylliedig na'r cyffredin; medrai ddarllen Saesneg a Chymraeg - y ddau ymhlith cychwynwyr Methodistiaeth Galfinaidd yn Nhrefriw. Danfonwyd Evan Evans i ysgol a gedwid yn eglwys Trefriw gan ryw Griffiths, ac oddi yno aeth i ysgol rad Llanrwst. Wedi gadael ysgol aeth adref i weithio ar y fferm. Codwyd pris y fferm gan stiwardiaid newydd Gwydir, ac ni allai ei rieni dalu'r pris a thalu'r ffordd, ac aethant yn dlawd eu byd. Aeth Evan Evans i gadw ysgol dydd yn 1816 i Dal-y-bont. Enillodd yn eisteddfod Wrecsam, 1820, ar awdl, 'Hiraeth Cymro am ei wlad mewn bro estronawl,' a daeth yno i gysylltiad â rhai gwŷr bonheddig, ac offeiriaid fel Richards, Caerwys, a Jenkins, Ceri, a'r rhain a'u perswadiodd ef i fynd yn offeiriad. Aeth i Aberriw at y Parch. Thomas Richards am dipyn, ac oddi yno i Goleg S. Bees. Cafodd urddau eglwysig gan esgob Caerlleon, a thrwydded i ddarllen y gwasanaeth Cymraeg yn eglwys S. Martin, Caerlleon, 19 Chwefror 1826, ac ar 17 Rhagfyr cafodd guradiaeth Christleton. Bu yn Christleton tan 21 Ebrill 1843, a symud i guradiaeth Ince. Gadawodd Ince tua diwedd 1852 oherwydd colli ei briod ac afiechyd, ac aeth adref i Drefriw. Yng Ngorffennaf 1854 cafodd guradiaeth yn eglwys y Rhyl. Bu farw 21 Ionawr 1855, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Trefriw.
Cyhoeddwyd ganddo'r llyfrau crefyddol hyn: Prynedigaeth Neillduol neu Grist yn rhoi ei hun dros yr Eglwys, 1819?; Amdiffyniad yr Athrawiaeth Ysgrythyrol o Brynedigaeth Neillduol (1820), sef cyfieithiad o lyfr J. Hurrion; Pedwar Cyflwr Dyn, … 1821, sef cyfieithiad o waith Thomas Boston (enw J. Parry sydd ar y cyfieithiad, ond tybir mai 'Ieuan Glan Geirionydd' a'i cyfieithodd); Hymnau i'w defnyddio yn Eglwys St. Martin, y Prydnawn Sabboth cyntaf o'r Flwyddyn …; Casgliad o Salmau a Hymnau at wasanaeth y Lithwriaeth Gymraeg yn Nghaerlleon, … 1829 (dywedwyd yn Geirionydd mai 'Welsh Lectureship' oedd Y Lithwriaeth Gymraeg, ond 'Welsh Liturgy' a olygir, yn ôl pob tebyg); Y Seraph, sef casgliad o donau crefyddol ar amrywiol fesurau, … 1838; Y Bibl Darluniadol, 1844-47.
Bu 'Ieuan Glan Geirionydd' yn cynorthwyo'r Parch. John Parry, Caerlleon, i olygu'r misolyn, Goleuad Gwynedd; yn 1830 gyrrodd lythyr at yr esgobion yn gofyn am eu nawdd ar gyhoeddi cylchgrawn Cymraeg ar gynllun y Saturday Magazine, ac yn 1833 ymddangosodd Y Gwladgarwr. Bu 'Ieuan' yn ei olygu am dair blynedd, ac oherwydd colli arian aeth i feddiant Edward Parry, Caerlleon. Enillodd yn eisteddfod Llanelwy, 1818, ar 'Awdl ar farwolaeth y Dywysoges Charlotte'; yn eisteddfod Dinbych, 1828, ar 'Awdl ar Wledd Belsassar'; ac yn eisteddfod Dinbych 1850, am bryddest ar 'Yr Adgyfodiad.'
Bardd amryddawn oedd 'Ieuan Glan Geirionydd,' y bardd mwyaf amryddawn yn y ganrif ddiwethaf. Lluniodd awdlau, cywyddau, englynion, pryddest, cerddi rhydd, ac emynau. Perthynai i ysgol ryddfrydol 'Gwallter Mechain,' yr ysgol honno a ymosodai ar y mesurau caeth, ac a gychwynnodd lunio pryddestau a thelynegion. Y mae dylanwad yr 'ysgol fynwentig' yn Lloegr - Gray, Robert Blair, ac Edward Young - ar ei waith, a dylanwad emynwyr Lloegr fel Watts ac eraill ar ei emynau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.