Ganwyd 15 Gorffennaf 1761 yn y Wern, yn agos i Domen y Castell, Llanfechain, Sir Drefaldwyn. Hawliai berthynas ar ochr ei dad, William Davies, â theuluoedd urddasol Nant-yr-erw-haidd yn Edeirnion a Chyffiniaid Trebrys. Wedi gadael ysgol y pentre'n 12 oed dysgodd grefft cowper, a daeth yn feistr ar wneud 'picyn.' Ymunodd yn fore â'r frawdoliaeth farddol, a rhoes yr eisteddfod gyfle iddo gystadlu. Daeth ei lwyddiant eisteddfodol ag ef i sylw gwyr pwysig fel 'Owain Myfyr' a William Owen Pughe, a thrwy eu hanogaeth hwy yr ymaelododd yn Neuadd S. Alban, Rhydychen, yn 1791; yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, y cymerodd ei radd. Bu gan yr eisteddfod afael anghyffredin arno ar hyd ei oes, a phraw pendant o hynny oedd iddo anfon o fewn chwe mis i'w farw - yn hen wr 88 oed - awdl ar 'Y Greadigaeth' i eisteddfod Aberffraw yn 1849.
Wedi derbyn ei radd yn 1795 aeth yn gurad i Feifod, ac wedi hynny i Ysbyty Ifan. Yno priododd weddw Rice Price, Rhosbrynbwa, a bu iddynt bedwar plentyn. Cafodd fywoliaeth Llanwyddelan yn 1803, a pherigloriaeth Manafon yn 1807; ym Manafon y gwnaeth gyfeillion â'r Parch. John Jenkins ('Ifor Ceri') a Fychaniaid Penmaen Dyfi. Yn 1837 derbyniodd fywoliaeth Llanrhaiadr-ym-Mochnant, ac yno y treuliodd weddill ei oes.
Bu cysylltiad agos rhyngddo a chymdeithasau llengar Llundain, yn enwedig y Gwyneddigion, a bu'n gyfrifol, gyda chymorth David Rowland, Llanddewibrefi, am gychwyn y cymdeithasau taleithiol. Roedd hefyd yn gystadleuydd brwd yn eisteddfodau'r cymdeithasau hyn; ef ddaeth i'r brig yn y gyntaf ohonynt yng Nghaerfyrddin yn 1819, pan wobrwywyd ef ag ariandlws yr eisteddfod am ei 'Awdl, ar farwolaeth y godidog flaenawr milwraidd Syr Thomas Picton, marchog urddasol o dalaith Dyfed yn neheubarth Cymru, Yr hwn a laddwyd ym mrig y Fuddugoliaeth ym Mrwydr waedlyd Waterlw, Mehefin 18, 1815' (Canodd Gwallter Mechain gerdd rydd i anrhydeddu Picton, yn ogystal, 'ar ddymuniad J[ohn] J[enkins]', ac fe'i cynhwyswyd wedi'i gosod ar alaw o Geredigion yng nghasgliad y deisyfydd, 'Melus-seiniau Cymru ' (1817-25).)
Yn ystod ei oes faith cyhoeddwyd y gweithiau canlynol o'i waith: Diwygiad neu Ddinystr …, cyfieithiad o Reform or Ruin (T. Bowdler), 1798, Eglur Olygiad o'r Grefydd Gristionogol ac o Hanesyddiaeth (Histori) cyn belled ag y perthyn i ddechreuad Cristionogaeth, ac i'w chynyddiad hyd yr amser presenol, cyfieithiad o waith Thomas Gisborne, 1801; General view of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales … Drawn up for the consideration of the Board of Agriculture and Internal Improvement (London, 1813); General view of the Agriculture and Domestic Economy of South Wales … Drawn up for the consideration of the Board of Agriculture and Internal Improvement (Vol. I , Vol. II ) (London, 1815). Golygodd waith Huw Morus, 1823, a Lewis Glyn Cothi (gyda John Jones, 'Tegid'). Cyhoeddodd hefyd, 1827, adargraffiad o drosiad mydryddol William Middleton ('Gwilym Canoldref') o'r Salmau.
Yr oedd 'Gwallter Mechain' yn wr o ddiddordeb eang anghyffredin. Astudiodd bynciau meddygol, seryddiaeth, llenyddiaeth hen a diweddar, ynghyd a llenyddiaeth gyfoes y Saeson. Chwiliodd achau teuluoedd pendefigaidd fel yr Herbertiaid, a rhoes wasanaeth gwerthfawr i'r eisteddfod a'r cymdeithasau gan eu beirniadu ar adegau. Yn sicr, yr oedd 'Gwallter Mechain' yn ei oes yn un o gymwynaswyr mawr Cymru. Er nad oes ar ei farddoniaeth fawr gamp, eto enillodd iddo'i hun le amlwg fel hynafiaethydd, beirniad, a chasglwr llyfrau. Y mae dros 300 o'i lawysgrifau yn Ll.G.C. Bu farw 5 Rhagfyr 1849.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.