Ganwyd yn Ffos-y-ffin, Cefn Llanio, Llanddewi-brefi - bedyddiwyd 25 Awst. Bu dan addysg mewn ysgol yn y pentref, ac yna bu'n cadw ysgol yn Nhregaron, Llangeitho, Llanllawddog, a Phencader cyn mynd i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin ac ysgol Ystrad Meurig. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Burgess o Dyddewi, 22 Medi 1805, a'i drwyddedu i guradiaeth Llanfihangel-y-creuddyn; cafodd urddau offeiriad 20 Medi 1806. Ar 1 Mehefin 1808 trwyddedwyd ef i guradiaethau Carno a Llanwnog yn Sir Drefaldwyn; ond ar ôl dwy flynedd, a John Jenkins ('Ifor Ceri') yn ei gymeradwyo, dewiswyd ef yn genhadwr i S. John's, Newfoundland, dan nawdd y Gymdeithas er Lledaenu'r Efengyl mewn gwledydd tramor. Hwyliodd Mehefin 1810, a bu yno hyd 1816; dychwelodd i Ewrop oherwydd afiechyd, a threulio peth amser ar y Cyfandir. Wedi iddo ddyfod yn ei ôl i Gymru, trwyddedwyd ef i guradiaeth S. Pedr, Caerfyrddin, yn Ionawr 1818. Gyda John Jenkins, Walter Davies ('Gwallter Mechain'), ac eraill, bu wrthi'n paratoi ar gyfer eisteddfod Caerfyrddin, 1819, a daeth yn ysgrifennydd cyntaf y Cambrian Society. Ar 7 Ionawr 1820 sefydlwyd ef yn ficer Tregaron, ond bu farw 29 Chwefror a chladdwyd ef yng Nghaerfyrddin. Priododd â - Matthews, Llanwnog, a bu iddynt fab. Yr oedd Rowland yn ysgolhaig da, a chyhoeddwyd rhai caneuon a charolau o'i waith yn Blodau Dyfed (Caerfyrddin, 1824) a Cymru (O.M.E.), 1896, 256.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.