PUGHE, WILLIAM OWEN (1759 - 1835), geiriadurwr, gramadegydd, golygydd, hynafiaethydd, a bardd

Enw: William Owen Pughe
Dyddiad geni: 1759
Dyddiad marw: 1835
Priod: Sarah Elizabeth Pughe (née Harper)
Plentyn: Aneurin Owen
Rhiant: Anne Owen
Rhiant: John Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: geiriadurwr, gramadegydd, golygydd, hynafiaethydd, a bardd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith John Williams

Yr oedd yn fab i John Owen, Rhiwywerfa ger Abergynolwyn a'i wraig Anne Owen, a ganed ef yn Llanfihangel-y-Pennant yn Sir Feirionnydd, 7 Awst 1759. Symudodd y teulu yn fuan wedi hynny i ffermdy Egryn yn Ardudwy. Myn iddo yn ei ieuenctid glywed datgeiniaid Ardudwy yn canu yn ei gartref, ac iddo weled cwmnïau yn chwarae anterliwtiau, ond yr hyn a gafodd fwyaf o ddylanwad arno ydoedd darllen Gorchestion Beirdd Cymru, a gyhoeddwyd yn 1773. Gyrrwyd ef i ysgol yn Altrincham, yn ymyl Manceinion. Yna yn 1776 aeth i Lundain, a chartrefodd yno am 30 mlynedd. Ni wyddom yn iawn beth oedd ei waith ar y dechrau, ond yr oedd yn 1802 yn dysgu rhifyddeg a sgrifennu mewn ysgol breswyl i ferched a gedwid gan ryw Mrs. Stevenson yn Queen's Square. Dengys ei lythyrau hefyd y byddai'n gwasnaethu fel athro preifat i blant boneddigion. Yr oedd yn sgrifennu i gylchgronau Saesneg megis The Gentleman's Magazine a'r Monthly Magazine, a châi ei dalu gan Owen Jones ('Owain Myfyr') a chan gyhoeddwyr am gyflawni amrywiol orchwylion. Yr oedd hefyd yn rhyw gymaint o arlunydd (gweler Mysevin MS. 30 yn Ll.G.C.). Bywyd cyfyng, y mae'n ddiau, yn enwedig tua 1804-6 wedi cau'r ysgol breswyl. Yn y cyfnod hwn câi fyw'n ddi-rent mewn ty a brynasai 'Owain Myfyr,' a rhôi'r gwr hwnnw gyflog o £100 y flwyddyn iddo am hyrwyddo ei gynlluniau ef. Daeth tro ar fyd yn 1806 pan fu farw perthynas iddo, y Parch. Rice Pughe o Nantglyn, a gadael iddo stad yn Ninbych a Meirionnydd. Dyna pryd y dechreuodd arfer y cyfenw 'Pughe.' Wedi hynny, gwnaeth ei gartref ar ei stad yn ymyl Nantglyn, ond byddai'n bwrw cryn dipyn o'i amser yn Llundain, ac yn crwydro yma a thraw. Bu farw yn ardal ei enedigaeth yn sir Feirionnydd, 4 Mehefin 1835, a chladdwyd ef yn Nantglyn. Yr oedd ganddo dri o blant, a datblygodd un ohonynt, Aneurin Owen, yn ysgolhaig Cymraeg.

Dywaid ef ei hun iddo gyfarfod â 'Robin Ddu o Fôn' yn Llundain yn 1782, a dyna ddechrau cyfnod newydd yn ei hanes. Daeth i gysylltiad ag 'Owain Myfyr' ac aelodau eraill y Gwyneddigion, a derbyniwyd ef yn aelod yn 1783. Yn 1784 ef oedd yr ysgrifennydd, a bu'n llywydd yn 1789, yn 1804, ac yn 1820. Gellir tybied hefyd ei fod yn 1784 yn aelod o'r Cymmrodorion - o'r hyn lleiaf, câi ei wahodd i'r cyfarfodydd. Yn y cyfnod hwn dechreuodd ddarllen llawysgrifau'r Morrisiaid, a phenderfynodd fyned ati i lunio geiriadur Cymraeg-Saesneg. Prifiodd y gwaith yn anferth. Daeth y rhan gyntaf allan yn 1793, ac yn 1803 cyhoeddwyd y cyfan yn ddwy gyfrol fawr, a gynhwysai hefyd ramadeg Cymraeg. Ef a gynorthwyai 'Owain Myfyr' i olygu Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym yn 1789, ac yn 1792 cyhoeddodd ganu Llywarch Hen, gyda chyfieithiad Saesneg. Bu'n golygu'r cylchgrawn Saesneg, The Cambrian Register, 1796 a 1799, ac ef oedd prif olygydd The Myvyrian Archaiology of Wales , 1801 a 1807, ac a drefnai'r cyfan bron ynglyn â pharatoi'r defnyddiau i'r wasg. Yn yr un cyfnod lluniodd ein geiriadur bywgraffyddol cyntaf, sef The Cambrian Biography, 1803. Ef oedd un o olygyddion cylchgrawn y Gwyneddigion a'r Cymreigyddion, sef Y Greal, 1805-7. Golygodd hefyd argraffiadau newydd o Lyfr y Resolusion, sef Dyhewyd y Cristion, 1802, ac o Rhetoreg neu Rheitheg, 1807, sef gwaith Henri Perri, Eglvryn Phraethineb. Cyfieithodd lyfrau eraill a bu'n cynorthwyo llawer o awduron Saesneg pan fyddent yn ymhel â phynciau Cymreig neu Geltaidd. Yr oedd hefyd yn ceisio cyfansoddi barddoniaeth. Yn 1819, cyhoeddodd gyfieithiad o waith Milton, Coll Gwynfa, ac yn 1822, gywydd mewn tri chaniad ar Hu Gadarn.

Enillodd enw iddo ei hun fel geiriadurwr a gramadegydd, ac edrychid arno fel y prif awdurdod ar yr iaith ac ar bopeth a oedd yn ymwneuthur â dysg Gymraeg. Yr oedd yn F.S.A., ac yn 1822 cafodd y radd D.C.L. gan Brifysgol Rhydychen. Dengys ei lythyrau ei fod yn gohebu â rhai o brif lenorion y dydd yn Lloegr, a bod ysgolheigion yn gofyn am ei farn. Ond yn ail hanner y ganrif ddiwethaf, newidiodd pethau'n llwyr, ac edrychid arno gan Syr John Rhys a'i ddilynwyr fel cwac ymhongar. Y mae'r ddwy farn yn anghywir. Plentyn ei gyfnod ydoedd. Megis cynifer o'i gyfoeswyr, tybiai fod y Gymraeg yn perthyn yn agos i'r famiaith gyntefig, ac y gellid canfod ystyron yr elfennau gwreiddiol wrth ei hastudio. Felly, bydd yn ystumio ystyron geiriau yn ei eiriadur, ac yn llunio geiriau newydd ar egwyddor gwbl gyfeiliornus. Newidiodd yr orgraff er mwyn dangos tarddiad geiriau yn unol â'r ddamcaniaeth hon. A dyma ddechrau dadl yr orgraff yn y ganrif ddiwethaf. Heblaw hyn, mynnai mai swydd gramadegydd ydoedd disgrifio iaith fel y dylai fod, a dyna a wnaeth yntau yn ei ramadeg. Cafodd hyn effaith andwyol ar ramadegwyr Cymraeg yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf, a dyna paham yr edrychai ysgolheigion diweddarach arno fel cwac. Ond ni wnaeth namyn cymhwyso syniadau'r cyfnod at yr iaith Gymraeg. Mewn gwirionedd, cyflawnodd gryn wasanaeth i ddysg Gymraeg wrth gyhoeddi ei eiriadur. Darllenasai'r hen lenyddiaeth yn weddol fanwl, a llwyddodd i egluro ystyron llu o eiriau a oedd yn dywyll i bawb cyn hynny. A dyma'r geiriadur a oedd wrth benelin ysgolheigion Cymraeg y ganrif ddiwethaf. Heblaw hyn, rhaid cofio mai trwy ei sêl a'i ymroddiad ef y llwyddodd 'Owain Myfyr' i gyhoeddi'r hen lenyddiaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.