Yr oedd o deulu bonheddig. Bernir mai ef oedd yr ' Henry Parry ' a ymaelododd yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, 20 Mawrth 1578/9, pan oedd yn 18 oed; B.A., o Gloucester Hall, 1579/80; M.A., 1582/3; B.D., Coleg Iesu, 1597. Tystiodd Humphrey Humphreys - ar air ei fab-yng-nghyfraith - iddo deithio llawer a phriodi cyn dyfod i Fôn yn gaplan i Syr Richard Bulkeley, a diau mai trwy hwnnw y cafodd rai o fywiolaethau Môn - 1601 Rhoscolyn, 1606 Trefdraeth, 1613 LLlanfachraeth. Gwnaed ef yn ganon ym Mangor yn 1612/3. Yn Rhagfyr 1617 y daeth ei olynydd i'r swydd hon, ac awgrymir i Perri farw yn ystod y flwyddyn honno. Cafodd glod Dr. John Davies a Thomas Wiliems o Drefriw fel ysgolhaig Cymraeg, ac y mae'n syn mai'r Eglvryn Phraethineb sebh Dosparth ar Retoreg, 1595, yw ei unig lyfr. Defnyddiodd Perri lyfr rhetoreg William Salesbury, sy'n gyfaddasiad o'r Lladin, ond y mae ei waith yn llawnach a manylach na llyfr ei ragflaenydd. Gwyddai am lyfrau Saesneg y cyfnod, hefyd, a hwy yn bennaf a barodd iddo honni mai dwy gainc sydd i retoreg - 'addurneg' ('elocutio') a 'llafaredigaeth' ('pronuntiatio'). Yr oedd syniad Salesbury beth yn wahanol. Gwrthododd rai o dermau Salesbury, hefyd, a benthyciodd eraill o ramadegau Siôn Dafydd Rhys a Gruffydd Robert. Y mae ei glod i gelfyddyd rhetoreg yn ei ragymadrodd yn nodweddiadol iawn o gyfnod y Dadeni.
Yr oedd o deulu Tuduriaid Penmynydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.