Erthygl a archifwyd

ROBERT, GRUFFYDD (c. 1527 - 1598), offeiriad, gramadegydd a bardd

Enw: Gruffydd Robert
Dyddiad geni: c. 1527
Dyddiad marw: 1598
Rhiant: Catrin ferch Gruffudd
Rhiant: Robert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad, gramadegydd a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Barddoniaeth
Awduron: Griffith John Williams, M. Paul Bryant-Quinn

Brodor o sir Gaernarfon oedd Gruffydd Robert. Ni wyddys pryd y ganwyd ef, ond dengys dogfennau a ddiogelir ym Milan iddo gael ei eni circa 1527 yn fab i ryw Robert a'r domina Catherina de Griffis, sef y foneddiges Catrin ferch Gruffudd. Posibilrwydd atyniadol yw mai'r brydyddes Catrin ferch Gruffudd ap Hywel a'i chymar, yr offeiriad Syr Robert ap Rhys o Landdeiniolen, a olygir. Yr oedd brydyddes Catrin yn berthynas hŷn i Wiliam Cynwal, ac yr oedd yn reciwsant o argyhoeddiad y ceir wrth ei henw gerddi crefyddol. Derbyniwyd ym Milan yn ei oes ei hun fod Gruffydd Robert o dras uchelwrol. Yr oedd yn un o saith o blant (nas enwir), ac fe gofnodir bod Morys Clynnog yn ewythr iddo. Addysgwyd ef yn Rhydychen; ac er na ellir bod yn sicr mai ef yw'r 'Griffin Roberts Wallicus' a oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Eglwys Crist rhwng 1550 a 1555, yno y graddiodd Morys Clynnog a Siôn Dafydd Rhys, ac nid yw'n annichon mai Eglwys Crist oedd coleg Gruffydd Robert yntau.

Yn Nhachwedd 1558, tra oedd eto mewn is-urddau, penodwyd Gruffydd Robert gan yr archesgob Reginald Pole yn archddiacon Môn; ond gan i'r frenhines Mari farw ryw fis wedi hynny, gellir bwrw mai byr fu ei arhosiad yno. Gwrthododd gydnabod awdurdod y frenhines Elisabeth mewn materion ysbrydol, ac aeth i'r Cyfandir, efallai yng nghwmni Morys Clynnog, oddeutu 1560. Ceir tystiolaeth y bu Clynnog yn Fflandrys, Brwsel a Leuven; a chan fod enw Gruffydd Robert yn ymddangos ar restr myfyrwyr prifysgol Leuven, efallai mai dyna ei hanes yntau. Erbyn 1563, fe'u ceir ill dau yn Rhufain. Yno yr ordeiniwyd Gruffydd Robert yn offeiriad; fe'i penodwyd, gyda Morys Clynnog, yn gaplan yr Hospis Seisnig, lle yr arhosodd tan ddechrau 1565. Oddi yno fe aeth i Milan; enillodd sylw'r Cardinal Carlo Borromeo a'i benodi yn un o'i gyffeswyr, a hefyd, yn 1567, yn ddiwinydd yr eglwys gadeiriol. Dyfarnwyd canoniaeth iddo yn 1571. Y mae'n hysbys iddo ennill doethuriaeth rywdro cyn 1571, ond ni wyddys hyd yn hyn ymhle y bu hynny.

Cyfeirir at Gruffydd Robert a'i ddyletswyddau esgobaethol yng nghofiant Borromeo gan Giovanni Pietro Giussano ac yn llyfrau Paolo Onofrio Branda a Baldassarre Oltrocchi. Cyfeirir ato hefyd droeon lawer yng nghofnodion archesgobaeth a thalaith Milan, ac yn y casgliad o lythyrau Carlo Borromeo a'i ohebwyr a gedwir yn Llyfrgell yr Ambrosiana. Ceir yn y dogfennau hyn fanylion am y gorchwylion a gyflawnai Gruffydd Robert. Yn ogystal â'i waith fel canon diwinydd a'i amryw gyfrifoldebau bugeiliol, bu'n gaplan i leiandy, yn sensor, yn oruwchwyliwr addysg yn athrofeydd y ddinas, ac yn gennad ar ran Borromeo. Yn ystod pla 1576-7, cyfarfu Gruffydd Robert â'r meddyg Ludovico Settala yn wythnosol i gydlynu ymateb yr eglwys a'r coleg meddygol i anghenion dinasyddion y rhan honno o Filan.

Tua mis Tachwedd 1582, caniatodd Borromeo iddo roddi heibio ei waith fel pregethwr cyhoeddus yng nghadeirlan Milan, a hynny oherwydd ei gyfrifoldebau eraill a'i ynganiad anghyfiaith cryf wrth siarad Eidaleg. Nid oes unrhyw awgrym iddo ddioddef o salwch, megis trawiad y parlys. Wedi marw Carlo Borromeo yn 1584, arhosodd Gruffydd Robert ym Milan; diogelwyd llythyr ganddo at Rosier Smyth, a anfonwyd rywdro yn 1596-7. Parhaodd i gyflawni ei ddyletswyddau esgobaethol yng ngwasanaeth yr archesgobion Gaspare Visconti (1584-95) a Federico Borromeo o 1595 ymlaen. Bu farw Gruffydd Robert ar 15 Mai 1598, ac yntau erbyn hynny oddeutu 71 mlwydd oed. Fe'i claddwyd, fe gredir, ym mynwent eglwys Santa Maria Annunciata in Camposanto ar bwys y gadeirlan; y mae'r fynwent honno bellach dan gerrig y Via Cardinale Carlo Maria Martini.

Fe ddichon i Gruffydd Robert gyhoeddi llyfryn bychan o farddoniaeth tua c. 1560-3. Yna, yn 1567, ymddangosodd rhan gyntaf ei ramadeg, Dosparth Byrr ar y rhan gyntaf i ramadeg cymraeg , a argraffwyd ym Milan yng ngwasg Vincenzo Girardoni. Lluniwyd y Gramadeg ar ffurf deialog rhwng athro a disgybl, sef 'Gr' (Gruffydd Robert ei hun) a 'Mo' (Morys Clynnog): diau mai parch at ei ewythr a barodd i Robert strwythuro'r gwaith felly. Ni chyhoeddwyd yr ail ran, sy'n trafod y rhannau ymadrodd, cyn tua 1584; a gellir bwrw bod y drydedd (ar y cynganeddion) a'r bedwaredd (ar y mesurau) wedi ymddangos cyn 1594. Tueddir i edrych ar ddau lyfryn bychan arall, sy'n cynnwys casgliad o farddoniaeth Gymraeg, a dechrau cyfieithiad o lyfr Cicero, y Cato Maior De Senectute, fel atodiadau i'r gramadeg; ond gellid dadlau hefyd eu bod yn llyfrau o ddiddordeb dyneiddiol a gyhoeddwyd ar wahân iddo.

Gruffydd Robert oedd y cyntaf i geisio dadansoddi'r iaith Gymraeg. Y peth pwysicaf a ddaw i'r golwg yw'r ymgais i wneud y Gymraeg yn 'iaith dysg', yn offeryn cymwys i'r sawl a fynnai drafod yr holl bynciau a gâi sylw'r dyneiddwyr. Ac wrth ddangos fel y gellid cyfoethogi geirfa'r iaith, y mae'n ymdrin â'r elfen Ladin yn y Gymraeg. Nid oedd ganddo wybodaeth fanwl am gerdd dafod; ond eto, dengys yr adrannau ar y gynghanedd a'r mesurau fod ganddo ddoniau mawr fel beirniad llenyddol. Dyma un o lyfrau Cymraeg pwysicaf cyfnod y Dadeni, ac y mae'n bwysig hefyd yn hanes rhyddiaith Gymraeg. Daliodd Saunders Lewis mai Gruffydd Robert yw'r meistr Cymraeg cyntaf, a'r mwyaf hefyd, ar arddull arbennig y Dadeni Dysg, yr arddull Giceronaidd.

Gruffydd Robert a olygodd yr Athravaeth Gristnogavl ar gyfer ei gyhoeddi, eto yng ngwasg Girardoni, yn 1568; cyfieithiad oedd y llyfryn hwnnw gan Morys Clynnog o gatecism Eidaleg a luniwyd gan yr Iesuwr Diego de Ledesma (1519-1575). Buwyd gynt yn priodoli Y Drych Cristianogawl (1585) i Gruffydd Robert, ond gwyddys bellach mai Robert Gwyn o Benyberth a'i hysgrifennodd.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 2019-07-26

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

ROBERT, GRUFFYDD (c.1522 - c.1610), offeiriad, gramadegydd, a bardd

Enw: Gruffydd Robert
Dyddiad geni: c.1522
Dyddiad marw: c.1610
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad, gramadegydd, a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith John Williams

Ni wyddom pa le y ganwyd ef, er bod ymchwil ddiweddar yn tueddu i brofi mai gwr o Sir Gaernarfon ydoedd. Ni wyddom, chwaith, pa le yr addysgwyd ef, oherwydd ni ellir bod yn sicr mai ef yw'r ' Griffin Roberts ' a oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Eglwys Crist yn Rhydychen rhwng 1550 a 1555. Er hynny, fe'i gelwir yn ' Griffin Roberts, clerk, M.A. ', yr hyn sy'n awgrymu iddo fod naill ai yn Rhydychen neu yng Nghaergrawnt. Yn 1558, fe'i penodwyd yn archddiacon Môn, ond gan i'r frenhines Mari farw ryw fis wedi hynny, gellir bwrw mai byr fu ei arhosiad yno. Gwrthododd gydnabod awdurdod y frenhines Elisabeth mewn materion ysbrydol, ac aeth ef a Morys Clynnog i'r Cyfandir. Arhosodd Morys Clynnog yn Brussels a Louvain, ac efallai mai dyna hanes Gruffydd Robert, yntau, er y gellid barnu wrth a ddywedir ar ddechrau'r gramadeg iddo deithio trwy lawer o wledydd y Cyfandir. Pa un bynnag, yr oeddynt ill dau yn gaplaniaid yn yr ysbyty Seisnig yn Rhufain yn 1564. Yno enillodd sylw'r cardinal Carlo Borromeo, a phan wnaethpwyd y gwr hwnnw'n archesgob Milan, aeth Gruffydd Robert gydag ef, ac fe'i penodwyd yn un o gyffeswyr yr archesgob a hefyd yn ganon diwinyddol yn yr eglwys gadeiriol. Cyfeirir ato yng nghofiant Borromeo, a cheir rhai manylion am y gorchwylion a gyflawnai yn y llythyrau hynny o waith ei gyfaill, Owen Lewis, sydd yn y Biblioteca Ambrosiana ym Milan. Tua mis Tachwedd 1582, mynnai Borromeo iddo roddi heibio'i waith fel canon diwinyddol, a hynny oherwydd na allai siarad Eidaleg yn ddigon rhugl. Ni wyddom pa beth a ddigwyddodd iddo, ond arhosodd ym Milan, ac yno yr oedd yn 1596-7 pan yrrodd lythyr at Rosier Smyth. Ni wyddom chwaith pa bryd y bu farw, na pha le y claddwyd ef. Fe'i gelwid gan ei gyfoeswyr yn ' Doctor,' ond ni ddywedir pa le na pha bryd yr enillodd y ddoethuriaeth.

Y mae'n bosibl iddo gyhoeddi llyfryn bychan o farddoniaeth tua 1560-3. Yna, yn 1567, ymddangosodd rhan gyntaf ei ramadeg, Dosparth Byrr ar y rhan gyntaf i ramadeg cymraeg, a argraffwyd ym Milan. Ni chyhoeddwyd yr ail ran (sy'n trafod y rhannau ymadrodd) cyn tua 1584, a gellir bwrw bod y drydedd (ar y cynganeddion) a'r bedwaredd (ar y mesurau) wedi ymddangos cyn 1594. Gellir edrych ar ddau lyfryn bychan arall, sy'n cynnwys casgliad o farddoniaeth Cymraeg, a dechrau cyfieithiad o lyfr Cicero, De Senectute, fel atodiadau i'r gramadeg. Ef oedd y cyntaf i geisio dadansoddi'r iaith Gymraeg. Y peth pwysicaf a ddaw i'r golwg ydyw'r ymgais i wneuthur y Gymraeg yn 'iaith dysg,' yn offeryn cymwys i'r sawl a fynnai drafod yr holl bynciau a gâi sylw'r dyneiddwyr. Ac wrth ddangos fel y gellid cyfoethogi geirfa'r iaith, y mae'n ymdrin â'r elfen Ladin yn y Gymraeg. Nid oedd ganddo wybodaeth fanwl am gerdd dafod, ond eto, dengys yr adrannau ar y gynghanedd a'r mesurau fod ganddo ddoniau mawr fel beirniad llenyddol. Dyma un o lyfrau Gymraeg pwysicaf cyfnod y Dadeni. Ac y mae'n bwysig hefyd yn hanes rhyddiaith Gymraeg. Dangosodd Saunders Lewis mai Gruffydd Robert yw'r meistr Cymraeg cyntaf, a'r mwyaf hefyd, ar arddull arbennig y Dadeni Dysg, yr arddull Giceronaidd.

Ef a gyhoeddodd yr Athravaeth Gristnogavl dros Forys Clynnog ym Milan yn 1568. Priodolwyd Y Drych Cristianogawl, 1585, iddo, a cheir ei enw ar ddiwedd y rhagymadrodd, ond y mae cryn amheuaeth ynglyn â hyn.

Awdur

  • Yr Athro Emeritus Griffith John Williams, (1892 - 1963)

    Ffynonellau

  • D. Rhys Phillips, Dr. Griffith Roberts Canon of Milan a great Welsh grammarian ( 1917 )
  • Gruffydd Robert, Gramadeg Cymraeg yn ôl yr argraffiad y dechreuwyd ei gyhoeddi ym Milan yn 1567 ( Caerdydd 1939 )

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.