CLYNNOG, MORYS (neu MAURICE CLENOCKE), diwinydd Catholig

Enw: Morys Clynnog
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd Catholig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Geraint Bowen

Hanoedd, yn ddiau, o Glynnog, Sir Gaernarfon. Ymaelododd â Choleg Eglwys Crist, Rhydychen, gan raddio yn B.C.L. yn 1548. Bu'n gaplan i'r Cardinal Reginald Pole, ac wedi cyfnod yn rheithor Orpington, Caint, ac yn ddeon Shoreham a Croydon, rhoddwyd iddo, yn 1556, gan esgob Goldwell, Llanelwy, reithoriaeth Corwen. Yn 1558, ar farw Dr. William Glyn, dyrchafwyd ef yn esgob Bangor. Ond cyn iddo gael ei gysegru, bu farw'r frenhines Mari, a dewisodd yntau alltudiaeth yn hytrach na chydymffurfio â'r drefn newydd o dan Elisabeth. Gyda'r esgob Goldwell a Gruffudd Robert, archddiacon Môn, cyrhaeddodd Rufain yn 1561. Apwyntiwyd Goldwell yn warden yr Ysbyty Seisnig yno, Gruffudd Robert, yn 1564, yn gaplan, a Morys Clynnog, yn 1567, yn ' Camerarius.' Yn 1577 gwnaed ef yn warden. Y flwyddyn ddilynol llwyddodd Owen Lewis, archddiacon Hainault, ac yn ddiweddarach esgob Cassano, i sefydlu coleg Seisnig yn Rhufain, a dewiswyd Morys Clynnog yn rheithor gyda thri Jesiwit i'w gynorthwyo i hyfforddi'r myfyrwyr, yn Gymry ac yn Saeson. Dywedid bod Clynnog yn ffafrio'r Cymry, a bu terfysg. Ond tybir bod a wnâi'r ffaith fod y Jesiwitiaid yn dymuno cael llwyr reolaeth ar y coleg â hyn. Fodd bynnag, bu raid iddo ymddeol yn 1579, wedi i'r Saeson, a oedd yn bygwth ymado â'r coleg, oni weithredid, gyflwyno deiseb i'r Cardinal Morone yn protestio yn erbyn rheolaeth Morys Clynnog a danfon dirprwyaeth i'r pab yn mynnu ei ddiswyddo.

Apwyntiwyd y Tad Agazzari, Jesiwit, i'r swydd. Yn y flwyddyn 1580 cawn Morys Clynnog yn byrddio llong yn Rouen. Credir iddo foddi yn gynnar yn 1581, ar ei ffordd i Sbaen.

Cyhoeddodd Morys Clynnog lyfr bychan ar lun catecism yn 1568, sef Athravaeth Gristnogavl. Gruffudd Robert a luniodd y rhagymadrodd, ac ym Milan, yr Eidal, yr argraffwyd ef.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.