GLYN (TEULU), Glynllifon, Sir Gaernarfon

O ran traddodiad y mae hanes y teulu hwn yn dechrau gyda Cilmyn Droed-ddu a ymsefydlodd ar lan afon Llifon ar ôl ffoi o'i gartref yn Cumbria yn y 9fed ganrif, ac o ran hanes gyda TUDUR GOCH, gwr a dderbyniodd chwe chyfair o dir yn Nantlle yn amser Edward III am wasanaeth milwrol yn Ffrainc. Trwy briodi Morfudd, un arall o ddisgynyddion Cilmyn, daeth Tudur i afael â Glynllifon, a bu'r lle'n drigfod i'w olynwyr. Bu HWLCYN LLWYD, mab Tudur, yn gwarchod tref a chastell Caernarfon dan William de Tranmere ar ran brenin Lloegr yn amser gwrthryfel Owain Glyn Dwr, ac yno y bu Hwlcyn farw yn 1403. Gweithredai ei fab, MEREDYDD LLWYD, fel beili Uwch Gwyrfai yn 1413-4, ac yn 1456 ymunodd â'r llu Seisnig a anfonwyd i amddiffyn Guernsey. Priododd ei fab, ROBERT AP MEREDYDD, ddwywaith, a pherthynai'r ddwy wraig i deuluoedd Seisnig a reolai yng Ngwynedd ar y pryd. Ellen Bulkeley o Biwmares oedd y wraig gyntaf, a chafwyd chwe mab a phedair merch o'r briodas. Daeth dau o'r meibion i safleoedd eglwysig uchel yn nyddiau cynnar y Tuduriaid - gwnaed MORUS GLYN, LL.D., yn archddiacon Meirionnydd, a WILLIAM GLYN, LL.D., yn archddiacon Môn. Jane Puleston o Gaernarfon ydoedd ail wraig Robert ap Meredydd, ac o'r briodas hon ganed un mab, WILLIAM GLYN y sarsiant; trwy ei briodas â Lowri, etifeddes Lleuar, daeth ef yn sylfaenydd teulu Glyniaid Lleuar. Ar ôl marw Robert ap Meredydd rhannwyd ei diroedd rhwng dau o'i feibion - EDMWND LLWYD yn cael Glynllifon, a RHISIART AP ROBERT yn cael Nantlle a'r Plas Newydd - y Rhisiart hwn ydoedd sylfaenydd teulu Glyniaid Plas Newydd. Gwnaed Edmwnd Llwyd yn siryf cyntaf Caernarfon dan y drefn newydd, a bu farw (1541) yn ystod tymor ei siryfiaeth. Dilynwyd ef yn Glynllifon gan ei fab William, a ymgyfenwai yn WILLIAM GLYNLLIFON, gwr a ddaeth i safle o gryn barch ac awdurdod yn ei fro. Rhestrid ef ymhlith beirdd ei oes a ganai 'ar eu bwyd eu hunain,' a phenodwyd ef yn un o ddirprwywyr eisteddfod Caerwys (1568). Bu'n briod deirgwaith, ac wedi oes hir bu farw yn 1594 a chladdwyd ef yn Clynnog. Ni chododd ei fab, THOMAS GLYN, i'r un amlygrwydd ag ef, ond rhifid yntau hefyd ymhlith y beirdd. Brawd iddo ydoedd RHISIART GLYN, M.A., a fu'n rheithor Llanfaethlu, Môn - ohono ef y tarddodd barwnigiaid Ewell (Surrey) a fu'n gyfrannog yn sefydlu'r banc a elwir wrth yr enw Glyn Mills Currie and Co. Olynydd Thomas Glyn yn Glynllifon ydoedd ei fab hynaf, WILLIAM GLYN (a wnaed yn farchog yn Nulyn yn 1606 ar bwys ei wasanaeth milwrol yn Iwerddon). Ystyrid Syr William Glyn yn wr anrhydeddus a diffuant. Priododd Jane, merch John Gruffydd, Cefnamwlch, a ganed i'r ddau chwe mab a phum merch. Bu Syr William farw'n gymharol gynnar a bu arwyl cyffredinol ar ei ôl. THOMAS GLYN oedd ei etifedd, gwr a fu'n aelod seneddol dros sir Gaernarfon dair gwaith. Yn yr helynt a fu rhwng y Goron a'r Senedd cymerodd ef blaid y Senedd, ac ef oedd gwarcheidwad castell Caernarfon pan ddaeth y lle i ddwylo'r gwrthfrenhinwyr. Bu farw yn 1648. Daeth ei frawd JOHN GLYN y Sarsiant i gryn amlygrwydd fel cyfreithiwr yn Llundain - bu'n 'Recorder' Llundain, yn arglwydd brif farnwr o dan Cromwell, a gwnaed ef yn farwnig gan Siarl II yn 1662. Daeth ei farwniaeth i'w dal gan deulu Glynne, Penarlâg. Yr oedd brawd arall, EDMUND GLYN, yn eiddgar fel cefnogydd y Weriniaeth, ac yn amlwg yng ngoruchwyliaeth sir Gaernarfon rhwng 1650 a 1660. Ar ôl Thomas Glyn daeth ei fab JOHN GLYN yn ysgwïer Glynllifon, ond ni fu'n amlwg ym mywyd ei fro. Priododd Elizabeth merch Syr Hugh Owen, Orielton, a ganed iddynt ddwy ferch, Ellen Glyn a Frances Glyn. Daeth Frances yn wraig i THOMAS WYNN, Bodfean, ac felly collwyd y cyfenw Glyn. Gwnaed wyr Thomas a Frances Wynn yn arglwydd NEWBOROUGH yn 1776.

Yr oedd Thomas Glyn yn 'Commissioner of Array' (gyda'r gradd o gyrnol) dros Siarl I hyd 1646 pryd y cefnodd ar blaid y brenin ac ymuno â phlaid y Senedd gyda Syr William Williams, Vaenol. Yn ystod 1642-3, fodd bynnag, gwnaeth ymdrech i geisio rhwystro'r comisiwn rhag gweithredu ac oblegid hyn syrthiodd gwg Siarl arno.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.