Chwaraeodd Oweniaid Orielton ran flaenllaw yn hanes Sir Benfro am yn agos i dair canrif. Daeth y stad, Orielton yn Castle Martin, i feddiant yr Oweniaid trwy briodas HUGH AB OWEN ag Elizabeth Wirriott yn 1571. Mab hynaf oedd HUGH OWEN (a roes y gorau i ddefnyddio'r 'ab') i Owen ap Hugh, Bodowen (neu Bodeon), Môn, a hawliai ei fod yn disgyn o'r Hwfa ap Cynddelw y dywedid ei fod yn stiward i Owain Gwynedd. Yr oedd Elizabeth Wirriott yn ferch ac unig aeres George Wirriott a'i wraig Jane, merch John Philipps, Picton Castle. (Yr oedd teulu Wirriott wedi ymsefydlu yn Sir Benfro er y 12fed ganrif; cyfeiria Gerallt Gymro at un Stephen Wirriott. Yr oedd un David Wirriott, o farwniaeth Penfro, yn un o ddeuddeg rheithor a enwyd ynglŷn ag arian 'subsidy' a oedd i'w codi yn 1292.) Derbyniwyd Hugh Owen yn fargyfreithiwr (Gray's Inn) ac ymunodd â chylchdaith Caerfyrddin yn llysoedd y Sesiwn Fawr. Yn 1574 dewiswyd ef yn gofiadur Caerfyrddin, bu'n siryf Sir Benfro yn 1583 a sir Fôn yn 1608, a chafodd ei urddo'n farchog. Rhannodd Syr Hugh ei stadau, gan roddi ei eiddo yn Sir Benfro i'w fab hynaf, JOHN OWEN, a'i eiddo yn sir Fôn i'w ail fab, WILLIAM OWEN.
Priododd John Owen â Dorothy, merch Rowland Laugharne, S. Brides, a Lettice, ferch Syr John Perrot, Haroldston, Hwlffordd. Bu ef farw yn 1612 - ddwy flynedd o flaen ei dad.
Dilynwyd Syr Hugh Owen, felly, gan ei ŵyr, yntau hefyd yn HUGH OWEN; ganwyd ef yn 1604. Bu'n cynrychioli bwrdeisdref Penfro yn Seneddau 1625-6 a 1627-8, bwrdeisdref Hwlffordd yn Senedd Fer 1640, a bwrdeisdref Penfro (eilwaith) yn Senedd Faith y flwyddyn honno. Bu'n siryf yn 1634 a 1654 a daeth yn Syr Hugh Owen, barwnig, yn 1641. Gŵr yn gwylio ei gyfle - chwaraewr y ffon ddwybig - ydoedd yn y Rhyfel Cartrefol. Ar y cychwyn yr oedd ar ochr y Senedd a bu'n cynorthwyo ei gefnder, Rowland Laugharne, a John Poyer ym Mhenfro. Bu'n garcharor rhyfel yn nwylo Syr Henry Vaughan, pan symudodd o Hwlffordd yr adeg y gorchfygwyd llu'r Brenhinwyr yn Pill (ar Milford Haven) ym mis Chwefror 1644. Dywedir iddo fynd, yn ddiweddarach, at y brenin yn Rhydychen, a gadael Sir Benfro, i dario yn sir Fôn. Dywedwyd hefyd iddo, yn 1648, fod o blaid gwrthwynebiad Poyer a Laugharne ym Mhenfro, eithr fe ymddengys iddo ymheddychu â'r blaid fuddugol, ac, fel y dywedwyd, bu'n siryf o dan y Werinlywodraeth. Priododd Syr Hugh Owen, (1) Frances, merch Syr John Philipps, barwnig 1af Castell Pictwn; a (2) Catherine, merch Syr Evan Lloyd, Iâl, sir Ddinbych.
Dilynwyd ef yn 1670 gan ei fab, Syr HUGH OWEN, yr ail farwnig. Trwy ei briodas â'i gares, Anne, aeres Hugh Owen, Bodowen, cydiodd Syr Hugh Owen, yr ail farwnig, y stadau yn sir Fôn a Sir Benfro wrth ei gilydd unwaith yn rhagor. Bu'n siryf Môn yn 1688 ac yn cynrychioli sir Benfro yn Seneddau 1678-9, 1679, 1688-9, a 1689-90. Bu farw ym mis Ionawr 1698/9 ym Mryste a chladdwyd yno yn eglwys S. Awstin lle y mae cofadail iddo.
Priododd Syr ARTHUR OWEN, 3ydd barwnig a mab yr ail farwnig, ag Emma, ferch Syr William Williams, Llefarydd Tŷr Cyffredin a chyndad teulu Williams Wynn, Wynnstay. Bu'n aelod dros sir Benfro mewn Seneddau olynol hyd nes curwyd ef gan ei gymydog John Campbell, Stackpole, yn 1727. Bu'n siryf sir Benfro yn 1707 ac yn arglwydd-raglaw hyd ei farwolaeth yn 1753. Ni ellir derbyn traddodiad y teulu sydd yn mynegi mai ei bleidlais ef a phleidlais Griffith Rice, yr aelod dros Gaerfyrddin, a fu'n foddion i sicrhau dyfod yr Hanoferiaid ar orsedd Lloegr.
Dilynwyd Syr Arthur Owen gan ei fab, Syr WILLIAM OWEN, y 4ydd barwnig, a briododd ei gyfnither, Anne Williams. Yn ystod oes ei dad bu'n aelod seneddol bwrdeisdref Penfro o 1722 ymlaen, eithr bu'n cynrychioli'r sir o'r flwyddyn 1754. Bu farw 1781, yn 84 oed.
Priododd ei fab ef, Syr Hugh Owen, y 5ed barwnig, Anne, merch John Colby, Bletherston, a bu farw yn 1786 gan adael unig fab, HUGH OWEN, y 6ed barwnig, a oedd yn 4 oed ar y pryd. Bu ef farw'n ddibriod yn 1809 yn 27 oed - yr olaf yn llinach uniongyrchol Oweniaid Orielton.
Gadawsai y 6ed barwnig ei eiddo yn ei ewyllys i John Lord, mab Joseph Lord a'i wraig Corbetta, merch Lt.-General John Owen, ail fab Syr Arthur Owen, y 3ydd barwnig. Mabwysiadodd John Lord y cyfenw Owen a gwnaethpwyd ef yn farwnig yn 1813 - Syr JOHN (LORD) OWEN. Parhaodd y farwnigiaeth wreiddiol yn y llinach wrywol a daeth i'w therfyn pan fu Syr WILLIAM OWEN BARLOW, yr 8fed barwnig, farw'n ddibriod yn 1851.
Yr oedd adnoddau stad Orielton wedi cael eu dihysbyddu'n bur drwm gan gyfresi o etholiadau seneddol a ymleddid yn bur ffyrnig yn y gwahanol ardaloedd ac a oedd yn aml yn destunau petisiynau oblegid haeru bod afreoleidd-dra yn gysylltiedig â hwy. Daeth dylanwad teulu Philipps o gastell Pictwn yn gryf yn ail hanner y 18fed ganrif, a gorchfygwyd yr ymgeiswyr o deulu Orielton lawer tro. Daeth pethau i'w huchafbwynt yng nghyfnod y mudiad i newid dull cynrychioli yn y Senedd (y ' Reform agitation'). Ym mis Mai 1831 yr oedd Syr John Owen, barwnig 1af yr ail greadigaeth, yn cael ei wrthwynebu yn y sir gan Robert Fulke Greville. Etholwyd Syr John, eithr collodd ei sedd ar ôl i betisiwn gael ei hystyried. Y flwyddyn ddilynol etholwyd ef gyda mwyafrif uwch. Yr oedd y treuliau ynglŷn â'r ethol yn enbyd o drwm ac yn achos pryder a cholled ariannol i'r naill ymgeisydd fel y llall. Peidiodd Syr John â byw yn Orielton rai blynyddoedd cyn i'r tŷ gael ei werthu yn 1857. Bu farw yn 1861.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.