OWEN, BODEON (BODOWEN).

Saif Bodeon ym mhlwyf Llangadwaladr ym Môn, o fewn ychydig bellter i blas Bodorgan; bu llawer o gyd-gerdded politicaidd rhwng y ddau deulu, ond ymron ddim o gyfathrach priodi. Gŵr amlwg ym Môn yn oes Elisabeth oedd OWEN AP HUGH o Fodeon, siryf ddwywaith, ac aelod seneddol yn 1545 dros Niwbwrch (yn ôl yr hen drefn). Un o bobl y gyfraith oedd ei fab ef, y Syr HUGH OWEN cyntaf, a phrif ynad tref Caerfyrddin; palmantodd hyn y ffordd iddo briodi Elisabeth, merch ac aeres George Wirriott o Orielton ym Mhenfro (gweler yr ysgrif ' Owen o Orielton'). Pan ddaeth y Rhyfel Cartref, chwarae'r ffon ddwybig oedd hanes y teulu ym Mhenfro ac ym Môn; dyn clyfar iawn a fuasai hwnnw a fedrai ddywedyd i ba ochr y perthynai yr ail Syr Hugh, ai'r brenin ai'r Senedd, gan mor dawedog y cadwai ei gyfrinach. Ym Môn cynrychiolid y teulu gan y cyrnol HUGH OWEN a HENRY OWEN o Faesoglan, dau frawd, a dau gefnder i'r ail Syr Hugh; y mae cof byw am y cyrnol ar fur eglwys Llangadwaladr a godwyd gan ei wraig Ann yn 1660. Enwyd y ddau frawd yn Chwefror 1648 fel comisiynwyr i gasglu arian ym Môn er mwyn cyfnerthu adnoddau'r Senedd, ond yn haf yr un flwyddyn yr oedd y ddau'n arwyddo declarasiwn gwrthryfelgar yr ynys, declarasiwn ffyrnig dros ben, a gorfu i'r ddau arwyddo telerau trymion yr ymostyngiad ym mis Hydref; er hynny daeth Henry yn siryf Môn yn 1651 a Hugh yn 1653; yn ben ar yr ansadrwydd, un o'r teulu oedd yr aelod seneddol dros sir Benfro yn 1661-78 yn y Senedd a basiodd gynifer o ddeddfau erlitgar yn erbyn Anghydffurfwyr. Yr oedd yr un diffyg sadrwydd yn eu priodasau; ar un llaw yn ymuno â theulu rhyddfrydig Philipps o Gastell Pictwn, ar y llall priodi i deulu Rowland Laugharne o S. Bride's, gŵr a fu unwaith yn brif gadernid y Senedd yn y De, ond a gefnodd ar yr achos yn 1648. Effaith y byw yn Orielton a'r mynych briodi â merched Sir Benfro oedd graddol barlysu eu dylanwad ym Môn. Cafwyd enghraifft dda o hynny yn lecsiynau 1708 a 1710, pan wnaeth Owen Meyrick o Fodorgan a phlaid y gorllewin ymgais deg i ddymchwel unbennaeth y Bwcleaid yn yr ynys; nid oedd ddadl nad oedd Syr Arthur Owen yn taer ddymuno llwyddiant ei gymydog Meyrick, ond yn lle canolbwyntio ar ennill sedd y sir i'r Whigiaid, daeth ef ei hun allan fel ymgeisydd dros y bwrdeisdrefi, a chyda hynny ymgeisio am sedd sir Benfro, a'i fab Wirriott yn sythu am bleidlais y bwrdeisdrefi. Collwyd bwrdeisdrefi Môn; aeth y tad a'r mab i mewn ym Mhenfro; cael ei orchfygu fu tynged Meyrick yn 1708 a 1710. Mewn gair, bu rhywun o deulu Orielton yn aelod seneddol dros sir Benfro 26 o weithiau, a rhyw aelod o'r un teulu yn cynrychioli'r boroughs 26 o weithiau yn ogystal. Dros sir a bwrdeisdrefi Môn ni bu un o deulu Bodeon yn aelod seneddol ond Owen ap Hugh yn 1545, a Lewis ap Owen ddwywaith yn amser Elisabeth (aelod oedd ef o'r gangen a drigai yn y Frondeg ym mhlwyf Llangaffo). Anaml ryfeddol y tyfai clerigwr o'r teulu; credid unwaith fod y Dr. Owen Lewis, a fu farw 1594 esgob Catholig Cassano ger Naples, yn frawd i'r Syr Hugh Owen cyntaf, ond yn ôl yr achyddwr hyddysg, yr esgob Humphrey Humphreys, mab oedd hwnnw i ffermwr cyfrifol ym mhlwyf Llangadwaladr. Bu enw mab i gangen ieuengach o'r teulu - Hugh Owen oedd ei enw yntau - ar lyfrau Coleg Iesu yn Rhydychen a Choleg Iesu yng Nghaergrawnt; daeth yn D.D., a diweddu ei oes yn 1810 fel rheithor Aberffraw, canon a chantor yn eglwys gadeiriol Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.