Hanoedd y teulu hwn o gyff Cadafael, arglwydd Cydewain ym Mhowys, ond yn ystod teyrnasiad y Tuduriaid y daeth i amlygrwydd gyntaf. Ymladdodd LLEWELYN ap HEILYN dan Harri Tudur ym mrwydr Bosworth; bu ei fab, MEURIG ap LLEWELYN, drachefn, yng ngwasanaeth Harri VIII, a'i dyrchafodd yn gapten ei warchodlu ac a roes iddo brydles ('Crown lease') ar faenor Aberffraw. Dilynwyd Meurig ym Modorgan gan bump o'r un enw - Richard Meyrick; ond prin y gellir dweud i'r un o'r pump adael rhyw lawer o'i ôl ar hanes ei sir. Bu'n helynt am flynyddoedd rhwng RICHARD MEYRICK II (bu farw 1596) a Hugh Owen, Bodeon, ynghylch rhai o diroedd maenor Aberffraw; ysigwyd stad Bodorgan yn ddifrifol gan gostau cyfreithiol, ac erbyn 1590 yr oedd rhan helaeth ohoni wedi'i gwerthu i dalu dyledion Meyrick. RICHARD MEYRICK III (bu farw 1644) ydoedd y cyntaf o'r teulu i gael ei benodi'n siryf Môn, a hynny nid cyn 1614. Yn wir, ni bu fawr o lewyrch ar y Meyrickiaid hyd ddyddiau OWEN MEYRICK I (1682 - 1760), ail fab WILLIAM MEYRICK (1644 - 1717) ac ŵyr i RICHARD MEYRICK IV (a fu farw 1669). Gosododd ef y stad ar sylfeini cadarn, goruchwyliai hi'n ddiwyd a manwl, ac ehangodd gryn dipyn ar ei therfynau. Ymgeisiodd Owen yn erbyn yr arglwydd Bulkeley yn etholiad sir Fôn yn 1708, ac er yn aflwyddiannus y tro hwn, rhoes her bur effeithiol i uchafiaeth y Bwlcleiaid yn yr ynys. Etholwyd ef i'r Senedd, fodd bynnag, yn 1715, ac eisteddodd yno hyd 1722. Bu hefyd yn siryf, 1705-6, ac yn ' Custos Rotulorum ' o 1715 hyd ei farw yn 1759. Y mae'n werth nodi mai efe a gyflogodd Lewis Morris i fesur stad Bodorgan.
Dilynwyd Owen Meyrick gan ei fab, OWEN MEYRICK II (1705 - 1770), a briododd aeres gyfoethog, merch i John Putland o Lundain; a chan ei fab yntau, OWEN PUTLAND MEYRICK (1752 - 1825), a fu'r un mor ffortunus yn ei briodas - â Clara, merch ac aeres Richard Garth, Morden, Surrey. Cyfoethogwyd y stad drachefn trwy briodas ei ferch a'i gyd-aeres, Clara, ag AUGUSTUS ELIOTT FULLER, Ashdowne House, Sussex. Mabwysiadodd eu mab, OWEN AUGUSTUS FULLER (1804 - 1876), yr enw Meyrick pan etifeddodd stad Bodorgan ar farw ei daid.
Yn nhreigl amser, ymsefydlodd tair cangen arall o'r Meyrickiaid yng Ngwyddelwern, Sir Feirionnydd, yng Nghefn Coch, Llanfechell, ac yn Monckton, Sir Benfro. Y rymusaf o'r tair oedd yr olaf, a sylfaenwyd gan ROWLAND MEYRICK (1505 - 1566), ail fab Meurig ap Llewelyn a brawd i Richard Meyrick I. Addysgwyd ef yn Neuadd S. Edward, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.C.L. yn 1531 ac yn D.C.L. yn 1538. Bu'n brifathro New Inn Hall, 1534-6. Yn 1550 daeth yn ganon a changhellor Tyddewi, a thra yno bu iddo ran flaenllaw yn y cweryl ffyrnig rhwng y cabidwl a'r esgob - Robert Ferrar ynghylch buddiannau'r eglwys gadeiriol. Trowyd ef allan o'i ganoniaeth yn Nhyddewi pan ddaeth Mari Tudur i'r orsedd, ond daeth tro arall ar ei fyd toc, ac ar 21 Rhagfyr 1559 gwnaed ef yn esgob Bangor mewn olyniaeth i William Glynn. Priododd, 1554, Catherine, merch Owen Barrett o Gellyswick a Hasguard, Sir Benfro, a bu farw 24 Ionawr 1565/6 gan adael pedwar mab. Ymdrinir â dau ohonynt, Syr Gelly Meyrick a Syr John Meyrick yn yr erthygl ar deulu MERRICK, Hascard.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.