MEYRICK, EDMUND (1636 - 1713), clerigwr, a noddwr addysg

Enw: Edmund Meyrick
Dyddiad geni: 1636
Dyddiad marw: 1713
Priod: Sarah Meyrick (née West)
Rhiant: Janet Meyrick (née Vaughan)
Rhiant: Edmund Meyrick
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, a noddwr addysg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Dyngarwch
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1636 yn Garth-lwyd, Llandderfel (hendref ei fam), yn fab (o'r ail briodas) i Edmund Meyrick, yn ŵyr i Peter Meyrick (1564 - 1630, a brynodd Ucheldre), ac yn or-ŵyr i'r canghellor Edmund Meyrick (a fu farw tua 1605), frawd Rowland Meyrick (1505 - 1555), esgob Bangor - gweler yr ysgrif ar Meyrick o Fodorgan, prif ach y teulu yn J. E. Griffith, Pedigrees, 126, ac ach neilltuol cainc Ucheldre, op. cit., 308. Bedyddiwyd ef yn Llandderfel, 11 Mehefin 1636. Ei fam oedd Janet ferch John Vaughan o Gefnbodig, Llanycil.

Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1656; etholwyd yn gymrawd yn 1662; ond rhoes ei gymrodoriaeth i fyny bron ar unwaith i briodi (â Sarah West, o swydd Buckingham) ac i gymryd ficeriaeth Eynsham. Yr oedd yn gaplan i'r iarll Carbery, a thrwy ddylanwad mawr y teulu hwnnw (yr oedd yn gâr iddynt) cafodd res o fywiolaethau breision yn ne-orllewin Cymru (Yardley, Menevia Sacra, 168-70); bu'n ficer Llangathen (1665), yn ficer Llanegwad ac yn ganon yn Nhyddewi (1667), yn rheithor Burton yn Sir Benfro (1670), yn ganon yng Ngholeg Crist yn Aberhonddu, ac yn ficer Caerfyrddin (ni nodir y flwyddyn), yn drysorydd eglwys gadeiriol Tyddewi (1690), ac yn rheithor Penboyr (1713) - daliai amryw o'r swyddi hyn ynghyd.

Yng Nghaerfyrddin yr oedd yn byw yn niwedd ei oes, ac yno y bu farw 24 Ebrill 1713; claddwyd ef yn eglwys Bedr yno, a gwelir ei feddargraff (hynod flodeuog) ar fur gogleddol y gangell. Bu farw ei wraig a'i unig blentyn o'i flaen; gallai yntau felly wneud a fynnai â'i olud mawr. Atynwyd ef i'r mudiad elusennol, ac yn 1708 agorodd ysgol elusennol yng Nghaerfyrddin, ac Evan Griffiths o'r dref honno'n athro arni. Y mae'n amlwg y bwriadai waddoli'r ysgol, ond tramgwyddwyd ef rywsut, ac yn ei ewyllys trosglwyddodd y gwaddol i sefydlu ysgol rad yn Nhŷ-tan-domen yn y Bala, gan bennu Evan Griffiths yn athro yno (Report of the Charity Commissioners, 1834, xli, 553) - hon yw ysgol ramadeg y Bala heddiw. Gadawodd hefyd gyfoeth mawr i Goleg Iesu (gweler E. G. Hardy, Jesus College, 159-62), a chysylltir ei enw hyd heddiw â rhai o ysgoloriaethau'r coleg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.