FERRAR, ROBERT (bu farw 1555), merthyr ac esgob Protestannaidd

Enw: Robert Ferrar
Dyddiad marw: 1555
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: merthyr ac esgob Protestannaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Glanmor Williams

Ganwyd ym mhlwyf Halifax. Aeth Ferrar i Brifysgol Caergrawnt yn gyntaf, ond aeth wedyn i Rydychen. Yno ymunodd â'r canoniaid Awstinaidd. Yn 1528 daliwyd ef yn un o gwmni o efrydwyr yn dirgel werthu llenyddiaeth Lutheraidd, a gorfodwyd ef i ddatgyffesu.

Yn 1535, aeth gyda William Barlow fel llysgennad i'r Alban. Penodwyd ef wedyn yn Brior Nostell, swydd Efrog, mewn pryd i drosglwyddo'r priordy i'r brenin, 20 Tachwedd 1540, pan gafodd bensiwn o £80. Gan ei fod yn ddiwygiwr blaenllaw ac yn ffefryn gyda Somerset, fe'i gwnaethpwyd yn bregethwr ac ymwelydd brenhinol yn 1547. Ei gysegriad ef yn esgob Tyddewi, 9 Medi 1548, oedd y cyntaf yn ôl y ffurf-wasanaeth Saesneg. Aeth yn gynnen gas rhyngddo a phlaid ddylanwadol ymhlith y canoniaid, a fanteisiodd ar gwymp Somerset i gyflwyno rhestr o gyhuddiadau difrifol yn erbyn un o'i garedigion.

Pan ddaeth Mari i'r orsedd, carcharwyd Ferrar yn Southwark. Ym mis Mawrth 1554, difuddiwyd ef o'i esgobaeth am ei heresi a'i briodas. Ar ôl bwhwman peth, gwrolwyd ef gan Bradford a charcharorion Protestannaidd eraill, a gwrthododd ddatgyffesu pan arholwyd ef gan yr esgob Gardiner a dirprwywyr eraill ym mis Chwefror 1555. Yna dygwyd ef o flaen ei olynydd, Henry Morgan, yng Nghaerfyrddin. Daliai i wrthod gwadu'i ffydd, ac aeth â chryn ddewrder i'w losgi ar sgwâr marchnad Caerfyrddin 30 Mawrth 1555.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.