MEYRICK (MERRICK) (TEULU), Hascard, Fleet, a Bush (Sir Benfro), a Wigmore (sir Worcester).

Y mae cangen Sir Benfro o deulu Meyrick, Bodorgan, sir Fôn, yn cychwyn gyda phriodas Rowland Meyrick, esgob Bangor, a Catherine, merch Owen Barrett, Gelliswic, Sir Benfro.

Galwyd eu mab hynaf hwynt, Syr GELLY (GILLY, GILLIES, neu GUILLIAM) MEYRICK (1556? - 1601), ar enw stad ei fam. Pan fu farw ei dad (yr oedd y mab tua 9 oed ar y pryd) fe'i hanfonwyd ef i'w ddwyn i fyny ar faenol ei fam, Hascard, gerllaw Lamphey; yno aeth i wasnaethu Syr George Devereux. O tua'r flwyddyn 1583 bu yn yr Iseldiroedd, yn gwasnaethu'r ail iarll Essex, nai ei noddwr, yn Flushing yn 1585, ac wedi hynny ym myddin Leicester. Wedi dychwelyd daeth yn stiward teulu i Essex (c. 1587), a bu'n cynrychioli sir Gaerfyrddin yn Senedd 1588. Dilynodd Essex i Portugal (1589) a Normandi (1591), a phan fu farw ei berthynas Syr Roger Williams yn 1595 - gŵr deheulaw Essex hyd hynny - daeth yntau'n ŵr mwyaf ei awdurdod gyda'r iarll; yr oedd ei deyrngarwch yn ddiarhebol, ac ar gais Essex rhoes y frenhines iddo diroedd eang - yn eu plith yr oedd castell Wigmore, a ddaeth yn bennaf cartref iddo. Gwnaeth Essex ef yn farchog (o dan yr enw Syr William neu Gellian) yn ystod y cyrch i Cadiz (1596); yn 1597 aeth gyda'i arglwydd i'r Azores a bu'n eistedd (dros Sir Gaerfyrddin, y mae'n debyg) yn y Senedd, lle yr oedd erbyn hyn wedi dyfod i gryn bwysigrwydd. Yr ymgyrch olaf y bu ynddi oedd gydag Essex yn Iwerddon (1599-1600). Ar ôl colli ffafr am gyfnod byr (Gorffennaf 1600), cafodd ei ddefnyddio, ym mis Ionawr 1601, i gasglu ynghyd, i blaid yr iarll, ddilynwyr Devereux yn Ne Cymru, y milwyr cleddyfau a fu'n gwasnaethu gydag ef dros y môr, a'i wŷr a'i berthnasau ef ei hun yn swydd Faesyfed (lle yr oedd wedi priodi, c. 1584, merch Ieuan Lewis, Gladestry, gweddw John Gwynn, Llanelwedd, a ddaeth â'r ddwy stad hyn iddo), ac yn Sir Gaerfyrddin (lle yr oedd ei ferch, Margaret, yn wraig Syr John Vaughan, Golden Grove, iarll 1af Carbery yn ddiweddarach), a'i frawd Francis hefyd. Yr oedd yn gyfrifol am drefnu llety i ddilynwyr yr iarll yn Llundain, am 'lwgr-wobrwyo' chwaraewyr theatr y Globe i chwarae Richard the Second ar fin y gwrthryfel (6 Chwefror), ac am amddiffyn Essex House (8 Chwefror) yn erbyn lluoedd y Llywodraeth. Ar 13 Mawrth 1601 cafodd ei ddienyddio am deyrnfradwriaeth. Ailfreiniwyd ei fab Roland Meyrick a'i ferch, yr arglwyddes Vaughan, o ran gwaed ac enw, gan Iago I (24 Mai 1606).

Yr oedd Syr FRANCIS MEYRICK (marchog, 5 Awst 1599; bu farw 29 Gorffennaf 1660), Fleet, Monkton, brawd iau Syr Gelly, gydag ef yn Iwerddon (yn ben ar y lluoedd a ddaethai o orllewin Cymru); cymerodd hefyd ran fechan yng ngwrthryfel Essex eithr cafodd ddianc rhag cosb. Gwnaethpwyd trydydd mab Syr Francis sef Syr JOHN MEYRICK (bu farw 1659), milwr, yn farchog yn 1614 (13 Mehefin), aeth gyda'r 3ydd iarll Essex i Fflandrys yn 1620, a bu'n ymladd yn ddiweddarach yn yr Iseldiroedd (1624), yn Sbaen (1625), o dan Gustavus Adolphus yn rhyfel 1618-48, lle y clwyfwyd ef ger Maastricht (17 Awst 1632). Bu'n eistedd dros Newcastle-under-Lyme yn y Senedd Fer a'r Senedd Faith, lle y buwyd yn gofyn ei farn ar faterion milwrol yn fynych. Bu'n bennaeth ar gatrawd yn y ' Bishops' Wars,' 1639-40 (lle yr oedd ei frawd GELLY MEYRICK, a wnaethpwyd yn farchog - Syr Gillan - ar 26 Mawrth 1639, yn ' ensign'), a chymeradwywyd ef gan Dŷ'r Cyffredin i fod yn swyddog yn Iwerddon cyn gynted ag y torrodd y cythrwfl Gwyddelig allan ym mis Hydref, 1641. Yn ystod y Rhyfel Cartrefol daeth yn ' adjutant-general ' ym myddin Essex ac wedi hynny'n gadfridog gynnau mawr; bu hefyd yn gomisiynwr trethi, etc., dros Sir Benfro yn 1647. Eithr nid oedd yn cydweld â dienyddio'r brenin, ac ymddeolodd o fywyd cyhoeddus yn ystod yr ' Interregnum ' a bu farw yn 1659. Y mae'r darlun mewn olew ohono yn Bush, cartref ei ddisgynyddion hyd 1837, yn awr yn Slebech. Bu dau o'i ŵyrion mewn swyddi ynglŷn â'r gyfraith yng Ngogledd Cymru : bu JOHN MEYRICK, Bush (ganwyd 1674; cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, a'r Middle Temple), yn cynrychioli Penfro (1702-8) ac Aberteifi (1710-2) yn y Senedd, a daeth yn is-farnwr cylchdaith Môn (1712-4), a bu FRANCIS MEYRICK yn 'Registrar' Gogledd Cymru. Y mae'r teulu yn parhau i wasnaethu yn Sir Benfro.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.