VAUGHAN (TEULU), Y Gelli Aur (‘Golden Grove’), sir Gaerfyrddin.

Y mae Fychaniaid y Gelli Aur yn hawlio disgyn o Bleddyn ap Cynfyn, tywysog Powys. Y cyntaf o'r teulu i ymsefydlu yn Golden Grove ydoedd JOHN VAUGHAN. Priododd ei fab ef, WALTER VAUGHAN, ddwywaith: (1) Katherine, ail ferch Gruffydd ap Rhys, Dinefwr, a (2) Letitia, merch Syr John Perrot. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf,

JOHN VAUGHAN (1572 - 1634),

a fu'n gwasnaethu o dan iarll Essex yn yr ymgyrch yn Iwerddon yn 1599. Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdref Caerfyrddin yn 1601 ac yn 1620-22. Dewiswyd ef yn ‘Comptroller of the Household’ i dywysog Cymru (y brenin Siarl I wedi hynny), ac aeth gyda hwnnw i Sbaen yn 1623. Gwnaethpwyd ef yn arglwydd Vaughan o Mullingar ac iarll Carbery ym mhendefigaeth Iwerddon. Priododd (1) Margaret, merch Syr Gelly Meyrick, a (2) Jane, merch Syr Thomas Palmer, Wingham, swydd Caint. Bu f. 6 Mai 1634, a chladdwyd ef yn Llandeilo Fawr.

Dilynwyd yr iarll Carbery 1af gan ei fab ieuengaf (a'r unig un a oroesodd ei dad),

RICHARD VAUGHAN (1606? - 1686), ail iarll Carbery,

a gawsai ei wneuthur yn farchog pan goronwyd Siarl I, Chwefror 1625/6. Bu'n aelod seneddol dros sir Gaerfyrddin, 1624-9, a derbyniwyd ef i Gray's Inn fis Chwefror 1637/8. Ym mis Mawrth 1642 enwyd ef gan Dŷ'r Cyffredin i fod yn arglwydd-lifftenant y lluoedd arfog a oedd i'w codi yn sir Gaerfyrddin a sir Aberteifi, eithr pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan dewiswyd ef gan y brenin yn bennaeth y ‘Royalist Association of the three Western Counties.’ O'r herwydd, penderfynodd Tŷ'r Cyffredin ddyfod â chyngaws o ‘impeachment’ yn ei erbyn ym mis Ebrill 1643. Nid ymddengys i Carbery symud cam mewn unrhyw fodd o bwys hyd haf 1643 pryd y cynullodd gynrychiolwyr o sir Benfro i gyfarfod yng Nghaerfyrddin gyda'r bwriad o ddifodi'r sawl a oedd yn tueddu i bleidio gwŷr y Senedd ac i drefnu diogelu Hafan Aberdaugleddau, lle, efallai, y gellid glanio milwyr a ddygid yn ôl o Iwerddon. Aeth i sir Benfro ym mis Awst. Ymostyngodd Dinbych-y-pysgod ar 30 Awst a gosodwyd gwarchodlu yn Hwlffordd. Parhaodd tref Penfro yn gyndyn, fodd bynnag, o dan arweiniad y maer, John Poyer, gŵr yr ymunodd Rowland Laugharne ag ef. Penododd Carbery ei ewythr, Syr Henry Vaughan, Derwydd (isod), yn bennaeth lluoedd y Brenhinwyr yn sir Benfro. Gyda chymorth llongau yn perthyn i lynges y Senedd aeth Laugharne rhagddo, gan orchfygu gwarchodlu'r Brenhinwyr a chipio'r amddiffynfa yr oeddent yn ei hadeiladu yn Pill ar yr Hafan (23 Chwefror 1644). Ymneilltuodd Syr Henry Vaughan o Hwlffordd a gadawodd Carbery y sir, gan roddi i fyny ym mis Ebrill ei gomisiwn fel swyddog. Gorchmynnwyd iddo dalu dirprwy o £160 yn ddioed fel ‘delinquent’ i'r ‘Committee for Compounding’; ar 17 Tachwedd 1645 cyfrifwyd fod arno'r swm o £4,500 yn ddyledus. Eithr cyfryngodd Rowland Laugharne ei hunan drosto, ac ar 9 Ebrill 1647 maddeuwyd y ddirwy iddo gan Dŷ'r Cyffredin. Awgryma'r ffaith na fu raid iddo ddioddef colli ei eiddo iddo beidio â chymryd unrhyw ran bendant yn y rhyfel wedi'r flwyddyn 1644. Ceisiodd berswadio gwŷr tiriog sir Gaerfyrddin rhag rhoddi unrhyw gymorth i Poyer a Laugharne yn y gwrthryfel yn 1648 yn erbyn gollwng milwyr yn rhydd o'r fyddin. Yn ystod cythrwfl y Rhyfel Cartrefol bu Jeremy Taylor yn llochesu yn y Gelli Aur, a chyflwynodd ei Holy Living, 1650, a'i Holy Dying, 1650/1, i Carbery fel ei noddwr, ei locheswr, a'i gynhaliwr. Wedi'r Adferiad dewiswyd Carbery yn arglwydd-lywydd y gororau yn Llwydlo, ac yno bu Samuel Butler yn ysgrifennydd iddo ac yn stiward ei gastell; dywedir i ran o Hudibras gael ei chyfansoddi yn Llwydlo. Collodd Carbery ei swydd fel arglwydd-lywydd yn 1672 oherwydd cyhuddiadau a ddygwyd yn ei erbyn o gamdrin ei weision a'i denantiaid yn Dryslwyn. Bu f. 3 Rhagfyr 1686. Priododd (1) Bridget, merch Thomas Lloyd, Llanllyr, sir Aberteifi; (2) Frances, merch Syr John Altham, Oxhey, sir Hertford; a (3) Lady Alice Egerton, merch John, iarll 1af Bridgwater. Plant yr ail wraig a orosoedd eu tad. Bu'r mab hynaf, FRANCIS VAUGHAN, yn aelod seneddol dros Gaerfyrddin, 1661-7. Bu f. yn 1667 yn ddi-etifedd a dilynwyd ef, felly, gan John Vaughan, 3ydd iarll Carbery.

Ymaelododd

JOHN VAUGHAN (1640 - 1713), y 3ydd iarll Carbery (a'r diwethaf)

yn Christ Church, Rhydychen, 23 Gorffennaf 1656, a derbyniwyd ef i'r Inner Temple yn 1658. Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1661 a bu'n cynrychioli bwrdeisdref Caerfyrddin yn y Senedd, 1661-79, a'r sir yn 1679-81 a 1685-7. Dewiswyd ef yn llywiawdr Jamaica yn 1674. Yno yr oedd mewn anghydfod parhaus â'r dirprwy-lywiawdr, Syr Henry Morgan; a oedd yn cynllwyn â môr-herwyr ac yn gwrth-weithio'r heddwch gyda Ffrainc a Sbaen y disgwylid i'r llywiawdr ei gadw. Rhoddwyd swydd Carbery i iarll Carlisle yn 1678. Wedi iddo etifeddu stadau ei dad ymsefydlodd yn Llundain gan ymddiddori yn ei ymchwiliadau gwyddonol. Yr oedd yn llywydd y Royal Society, 1686-9; yr oedd hefyd yn aelod o'r Kit-Kat Club a dywedodd Samuel Pepys ei fod yn ‘one of the lewdest fellows of the age.’ Gan iddo farw ym mis Ionawr 1712/13 heb etifedd gwryw, daeth yr iarllaeth i ben.

Chweched mab Walter Vaughan, Golden Grove, a brawd iau i John Vaughan, iarll 1af Carbery, ydoedd Syr HENRY VAUGHAN (1587? - 1659?), y Brenhinwr. Ymsefydlodd ef yn Derwydd, sir Gaerfyrddin. Yr oedd yn siryf sir Gaerfyrddin yn 1620 ac yn aelod seneddol y sir, 1621-9 a 1640. Gwnaethpwyd ef yn farchog yn Rhydychen, 1 Ionawr 1643, a chafodd ei ‘rwystro,’ 5 Chwefror 1644, rhag eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Aeth gyda Carbery i sir Benfro yn 1643 a chael ei ddewis yn bennaeth lluoedd y Brenhinwyr yno. Wedi llwyddiant Rowland Laugharne yn Pill (Chwefror 1644) gadawodd Vaughan Hwlffordd ac ymneilltuodd i sir Gaerfyrddin. Cafodd ei gymryd yn garcharor ym mrwydr Naseby (14 Mehefin 1645) a'i ddodi yn Nhŵr Llundain.

Yr oedd WILLIAM VAUGHAN (1575 - 1641), awdur ac arloeswr trefedigaethol, yn ail fab Walter Vaughan, Golden Grove, ac felly'n frawd i iarll 1af Carbery. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 4 Chwefror 1592, gan gymryd ei B.A. ym mis Mawrth 1594 ac M.A. ym mis Tachwedd 1597. Bu'n trafaelio llawer yn Ewrop. Yn 1616 yr oedd yn siryf sir Gaerfyrddin. Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1628. Priododd Elizabeth, merch ac aeres David ap Robert o Langyndeyrn (Torcoed yn awr). Yn 1617 prynodd dir gan y ‘Company of Adventurers to Newfoundland,’ ac anfonodd yno, ar ei gost ei hun, ymsefydlwyr o Gymru y flwyddyn honno a dwy flynedd yn ddiweddarach. Galwodd y sefydliad yn ‘Cambriol,’ a rhoes iddo enwau lleoedd Cymraeg; ar arfordir y de yr oedd y sefydliad — yn ymyl Tripaney Bay. Oherwydd afiechyd methodd Vaughan ei hunan fyned allan yno yn 1622 ac ni lwyddodd i sefydlu'r drefedigaeth; oherwydd gerwindeb y tywydd ac am resymau eraill nid aethpwyd ymlaen â'r cynllun. Ymhlith gweithiau llenyddol Vaughan y mae (a.) y gwaith a alwodd yn Golden Grove (1600), y math ar lyfr a elwir yn ‘common-place book’ gan y Saeson — sef gwaith yn cynnwys dyfyniadau o weithiau amryw ac amrywiol awduron (y cyfnod clasurol, cyfnod y canol oesoedd, ac awduron cyfoes) wedi eu trefnu yn dri dosbarth, moesol, economyddol, a gwleidyddol; (b.) cân (yn Lladin) yn coffáu priodas Siarl I; (c.) y cynulliad od hwnnw a enwodd The Golden Fleece (1626); yn y ddau defnyddiodd yr awdur ‘Orpheus Junior’ yn ffugenw. Yn The Golden Fleece ceir barddoniaeth (yn Lladin ac yn Saesneg), traethiadau cwbl wrth-babyddol ar grefydd, a sylwadau ar wendidau masnachol Prydain — y cwbl yn arwain yr awdur i annog sefydlu trefedigaethau tramor, yn enwedig yn Newfoundland. Ysgrifennodd hefyd lyfrynnau yn delio (gan mwyaf) â chwestiynau ynglŷn â chrefydd ac iechyd. Bu f. yn Llangyndeyrn fis Awst 1641 a chladdwyd ef yn y fynwent yno.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/