Yr oedd yn ddiwyd mewn materion lleol, â gofal y llu milwrol ('trained band') arno. Ar 17 Chwefror 1642 ysgrifennodd at Syr Hugh Owen, Orielton, Sir Benfro, ac aelod seneddol bwrdeisdref Penfro, yn galw ei sylw at ddiffyg amddiffynfeydd yn y sir yn wyneb y cythrwfl yn Iwerddon a bod ffoedigion o'r wlad honno yn cyrraedd Sir Benfro bob dydd. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, trefnodd i amddiffyn tref Penfro a'i chastell, gan fynnu dal ymlaen yn ei swydd fel maer a dyfod yn llywiawdr y castell. Ymunodd Rowland Laugharne a Rice Powell ag ef, a chyda'u cymorth hwy safodd yn gadarn ym mhlaid achos y Senedd. Pan ddaeth pennaeth lluoedd y brenin yn ne-orllewin Cymru, sef Richard Vaughan, ail iarll Carbery i Sir Benfro ym mis Awst 1643, methodd hwnnw â chael gan gastell Penfro ymostwng iddo. Daeth y castell yn ganolfan y cychwynnai ymosodiadau lluoedd y Senedd ohono ac yn lloches pan ddeuai anawsterau. Mewn un ymosodiad yn unig yr adroddir am Poyer yn bennaeth, sef pan lwyddodd i feddiannu castell Carew (10 Mawrth 1644). Daeth ei weithrediadau ag ef i anghydwelediadau difrifol aelodau pwyllgor y sir ('the County Committee'); cyhuddai ef rai o'r aelodau o fod yn glaear iawn o ran eu hymdrech dros achos y Senedd. Yr oedd yn Llundain ym mis Rhagfyr 1645 yn ei amddiffyn ei hun yn erbyn achwyniadau - nad oedd wedi darparu cyfrif cywir o'r symiau o arian a dderbyniasai ac ensyniadau ei wrthwynebwyr. Ymddengys iddo fod yn Llundain am rai misoedd. Pan ddaeth y brwydro cyffredinol i ben yn 1647 penderfynodd y Senedd leihau maint ei lluoedd arfog trwy ddad-fyddino uwchrifiaid. Cynhwysid yn y gorchymyn hwn y gwŷr a fuasai'n ymladd yn ne-orllewin Cymru. Fel rhan o'i bolisi anfonodd y cadfridog Fairfax y cyrnol Fleming i gymryd lle Poyer fel llywiawdr castell Penfro. Gwrthododd Poyer drosglwyddo'r swydd i Fleming. Ymddengys ei fod yn edrych arni fel peth cryf o'i blaid yn wyneb ei gwerylon gydag aelodau'r pwyllgor sir a'r ceisiadau yr oedd yn eu gwneuthur am gael talu'n ôl iddo yr hyn a dalasai yntau a'r ôl-daliad a oedd yn ddyledus iddo. Dangosodd Fleming ei fod yn fodlon ceisio dyfod i ddealltwriaeth â Poyer eithr profodd yntau yn ystyfnig. Nid oes ddadl nad oedd yn cael ei galonogi yn ei wrthwynebiad gan gynrychiolwyr a oedd yn gweithio dros y Brenhinwyr. Yr oedd mewn cyswllt â'r tywysog Siarl, a derbyniodd gomisiwn oddi wrtho o S. Germain wedi ei ddyddio 3 Ebrill 1648. Arweiniodd Poyer i wrthwynebiad gweddol eang i'r dadfyddino; yn absenoldeb Rowland Laugharne gwnaeth Rice Powell ei hunan yn arweinydd i'r gwrthwynebwyr. Wedi i'r Brenhinwyr a'r rheini a arferai ymladd o blaid y Senedd gael eu gorchfygu gyda'i gilydd ym mrwydr Sain Ffagan (8 Mai 1648) llwyddodd rhai o'r rheini a oedd yn weddill i ddianc i Benfro. Yno yr oedd Oliver Cromwell ei hunan yn ben ar y rhai a oedd yn gwarchae. Nid ymostyngodd y dref hyd 11 Gorffennaf; erbyn hynny yr oedd nifer y gwarchodlu wedi lleihau yn fawr ac nid oedd obaith am gymorth buan o gyfeiriad y Brenhinwyr. Cafodd Poyer ei gondemnio i farwolaeth ynghyd â Rowland Laugharne a Rice Powell. Eithr bwriwyd coelbren er mwyn penderfynu pa un o'r tri a gâi ei ddienyddio ac i ran Poyer y disgynnodd dioddef; saethwyd ef yn Covent Garden, Lundain, ar fore 25 Ebrill 1649. Anfonodd Elizabeth, ei weddw, betisiwn at Siarl II am gymorth ariannol oherwydd i'w gŵn golli £8,000 yn achos y brenin. Rhoddwyd iddi £3,000, yn ôl £300 y flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.