Mab John Laugharne, S. Bride's, Sir Benfro, a'i wraig Janet, merch Syr Hugh Owen, Orielton, yn yr un sir. Yn ei ieuenctid bu'n was personol ('page') i Robert Devereux, 3ydd iarll Essex, ac y mae'n bosibl iddo fod gyda'i feistr pan oedd hwnnw'n milwrio yn yr Iseldiroedd. Pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan yn Awst 1642, dododd rhai o wŷr tiriog dehau Sir Benfro, gyda chymorth marsiandwyr yr oedd iddynt gysylltiad agos â Bryste, filwyr yn Hwlffordd, Penfro, a Dinbych-y-pysgod i'w hamddiffyn ar ran y Senedd. Rhoes y brenin ofal ei achos ef yn ne-orllewin Cymru i Richard Vaughan, iarll Carbery. Nid ymegnïodd Carbery ryw lawer hyd nes cymerwyd Bryste gan y tywysog Rupert (26 Gorffennaf 1643). Wedi hynny daeth i Sir Benfro gan gymryd meddiant o Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod. Yr oedd tref Penfro yn ei hamddiffyn ei hun o dan ei maer, John Poyer, a'r adeg honno ymddengys i Rowland Laugharne a Rice Powell ymuno ag ef. Y mae'n debyg i Laugharne benderfynu gwneud yr hyn a wnaeth oblegid fod iarll Essex yn bennaeth yn awr ar holl luoedd arfog y Senedd; dylid ychwanegu yma fod Essex yn ŵr a chanddo stad yn Sir Benfro - Lamphey gerllaw tref Penfro. Gyda chymorth llongau'r Senedd y bu gorfod arnynt ddyfod i hafan Milford oblegid tywydd mawr, penderfynodd Laugharne gychwyn ymladd; wedi iddo orfodi rhai lluoedd bychain o wŷr arfog a oedd o blaid y brenin yn Stackpole a Trefloyne i ildio, croesodd hafan Milford ac wedi iddo ymosod arni o'r môr ac o ochr y tir cymerodd amddiffynfa yr oedd y Brenhinwyr yn ei hadeiladu yn Pill (23 Chwefror 1644). Yn dilyn y fuddugoliaeth hon llwyddodd i adennill Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod. Aeth Carbery i ffwrdd o Sir Benfro, ac anfonwyd Syr Charles Gerard yno gan y tywysog Rupert i geisio atal Laugharne rhag myned rhagddo. Gorfu i Laugharne fynd yn ei ôl i dre Penfro a Dinbych-y-pysgod. Eithr newidiwyd pethau pan drechwyd y Brenhinwyr ym mrwydr Marston Moor (2 Gorffennaf 1644), oblegid bu raid i Rupert beri i Gerard ddyfod yn ôl o Sir Benfro. Aeth Laugharne rhagddo unwaith eto, gyda chymorth morwyr. Trechodd a meddiannodd dref a chastell Lacharn, a bygythiodd y llu a oedd yn amddiffyn Caerfyrddin dros y brenin. Gwarchaewyd ar gastell Aberteifi a chymerwyd ef ar 29 Rhagfyr 1644. Yng ngwanwyn 1645 anfonwyd Gerard yn ôl i Dde Cymru. Daeth ar warthaf Laugharne yn sydyn pan oedd hwnnw'n gwarchae ar Gastellnewydd Emlyn, a threchodd ef. Gwnaeth y gorchfygiad hwn i Laugharne orfod troi'n ôl i fynd â'r rheini a oedd yn weddill iddo o wŷr yn ôl unwaith eto i drefi Penfro a Dinbych-y-pysgod. Methodd Gerard a darostwng y lleoedd hyn, ac o'r diwedd aeth i ffwrdd o Gymru wedi i'r brenin gael ei orchfygu ym mrwydr Naseby (14 Mehefin 1645). Bu Laugharne yn brwydro ar Colby Moor (1 Awst 1645) â'r milwyr a adawsai Gerard yn y sir, a threchodd hwynt yn llwyr. Drannoeth aeth i mewn i Hwlffordd. Trechwyd y gwarchodluoedd bychain yn hawdd, a daeth Laugharne i allu chwarae rhan derfynol mewn maes ehangach. Pan ildiodd castell Aberystwyth (12 Ebrill 1646) yr oedd de-orllewin Cymru yn gyfan gwbl yn ei law. Ym mis Chwefror 1646 aethai Laugharne i geisio rhyddhau castell Caerdydd, lle yr oedd y llywodraethwr, Edward Pritchard, yn cael ei fygwth gan wŷr tiriog Bro Morgannwg a oedd o blaid y brenin. Yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth gwnaethpwyd Laugharne yn brif bennaeth y lluoedd yn siroedd Penfro, Aberteifi, Caerfyrddin, a Morgannwg. Rhoddwyd iddo hefyd stadau fforffetiedig John Barlow, Slebech, Sir Benfro. Bu ychwaneg o helynt yn Sir Forgannwg ym mis Mehefin 1647, eithr trwy weithredu'n gyflym llwyddodd Laugharne i ddifodi gwrthryfel pan oedd yn cychwyn. Fel yr oedd y rhyfel yn dirwyn tuag at ei derfyn daeth y gwahaniaethau a'r anghydddealltwriaeth a oedd yn ffynnu rhwng yr arweinwyr milwrol a gwŷr tiriog y siroedd yn fwy i'r amlwg. Achwynid gan ddywedyd bod gormod o alw am gymorth mewn arian ac mewn atgyfnerthion (bwyd, etc.). Sibrydid, hyd yn oed, yn faleisus y mae'n ymddangos, fod Laugharne mewn cyswllt â chynrychiolwyr plaid y brenin. I ateb i'r cyhuddiadau hyn gwysiwyd ef i Lundain, ac yr oedd yno 'en parole' pan barodd cyfres o ddigwyddiadau yng ngorllewin Cymru i'r rhyfel dorri allan eilwaith. Achosodd y penderfyniad i ddadfyddino uwchrifiaid wrthwynebiad. Gwrthododd John Poyer roddi tref Penfro i'r Cyrnol Fleming, y comisiynwr seneddol a anfonasid i arolygu'r dadfyddino, a bu i hyn galonogi rhai o wŷr Laugharne i ddilyn ei arweiniad. Gosododd Rice Powell ei hun yn ben ar y rhai nad oeddent yn cytuno â'r dadfyddino, ac aeth yn ei flaen yn gyflym tua Chaerdydd a gwŷr y brenin yn ymuno ag ef pan oedd ar ei daith. I atal y symudiad hwn o eiddo Powell, trefnodd y Cyrnol Thomas Horton (o'r ' New Model Army') ei luoedd ef rhyngddynt a Chaerdydd yn Sain Ffagan. Yr oedd Laugharne wedi gadael Llundain ac ymunodd â Powell ar 4 Mai. Dadleuai ef nad oedd awdurdod gan Horton i ddod i'r rhan o'r wlad a oedd dan ei ofal ef, eithr y mae'n rhaid ei fod yn dirnad ei fod ef ei hun erbyn hyn mewn gwrthryfel yn erbyn y Senedd. Dechreuwyd ymladd ar 8 Mai, gorchfygwyd byddin Laugharne yn llwyr, a chlwyfwyd yntau. Aeth i lochesu unwaith yn rhagor yn nhref Penfro, lle y trefnodd wrthwynebiad ystyfnig i'r gwarchae a wnaethpwyd gan Oliver Cromwell ei hunan - a Laugharne yn gobeithio, ond yn ofer, y deuai cymorth oddi wrth y tywysog Siarl o wlad ei alltud. Yr oedd y gwarchodlu wedi ei wanychu a'i leihau gymaint nes o'r diwedd i Laugharne orfod ymostwng ar 11 Gorffennaf 1648. Fe'i profwyd ef, gyda Poyer a Powell, mewn llys milwrol, a dedfrydwyd hwy i farwolaeth. Poyer yn unig a gafodd ei ladd; rhoddwyd pardwn i Laugharne maes o law. Ar 6 Tachwedd 1649 caniâtawyd iddo dalu dirwy o £712 am ei drosedd yn erbyn y wladwriaeth. Eithr, ar 26 Rhagfyr 1655, barnwyd nad oedd raid iddo dalu oherwydd iddo orfod mynd i ddyled pan oedd yn ymladd o blaid y Senedd. Ar ôl yr Adferiad cafodd ei ddewis yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Penfro, a rhoddwyd iddo flwydd-dâl bychan. Mewn petisiwn a gyflwynodd ar 19 Mawrth 1662 mynegodd iddo golli £37,650 yn ystod y rhyfel.
Gwraig Laugharne oedd Anne, ferch Syr Thomas Button. Goroesodd hi ef, ac ar 4 Awst 1677 ceisiodd gymorth gan y brenin ar gyfrif cyfyngder ei hamgylchiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.