BUTTON, Syr THOMAS (bu farw Ebrill 1634), llyngesydd ac anturwr

Enw: Thomas Button
Dyddiad marw: Ebrill 1634
Priod: Mary Button (née Rice)
Plentyn: Ann Laugharne (née Button)
Plentyn: Elizabeth Poyer (née Button)
Plentyn: Miles Button
Rhiant: Margaret Button (née Lewis)
Rhiant: Miles Button
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyngesydd ac anturwr
Maes gweithgaredd: Milwrol; Teithio
Awdur: Ifor Ball Powell

Pedwerydd mab Miles Button, siryf Morgannwg yn 1565, 1571, a 1589, a Margaret, merch Edward Lewis, y Van, Caerffili. Daethai'r teulu i feddu Worleton ym mhlwyf S. Lythan, Sir Forgannwg, maenor a werthasid gan esgobaeth Llandaf. Y mae'n debyg fod eu cartref ar y cychwyn yn y fan lle y saif y Dog Hill, sef ar draws Nant Golych o blwyf S. Lythan ac felly ym mhlwyf S. Nicholas; yn ddiweddarach, y mae'n bosibl mai yn ymyl y fan lle y saif y tŷ presennol a elwir Duffryn yr oedd y cartref. Ni wyddys ymha flwyddyn y ganwyd Thomas Button. Aeth i'r môr c. 1589.

Yn 1612-3 yr oedd yn bennaeth ymgyrch a anfonwyd i chwilio beth a ddaethai o Henry Hudson, ac i edrych a oedd yn bosibl myned trwy'r gogledd-orllewin i Asia; llwyddodd Button i archwilio rhan helaeth o Hudson Bay. Pan ddychwelodd cafodd ei wneuthur yn farchog gan Iago I. Am y gweddill o'i gyfnod hir yn y llynges bu'n gwasanaethu fel llyngesydd llongau'r brenin ar arfordir Iwerddon.

Priododd Mary, merch Syr Walter Rice, Dinefwr, Sir Gaerfyrddin; bu iddynt saith o blant. Gwnaeth ei gartref yng Nghaerdydd.

Priododd Miles, ei fab hynaf, Barbara, ferch ac aeres Rice Merrick, Cottrell, Morgannwg, daeth ei ferch Elizabeth yn wraig y cyrnol John Poyer, a daeth ei ferch Ann yn wraig i Rowland Laugharne . Ni wyddys pa le y bu Miles farw na pha le y'i claddwyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.