Cywiriadau

MEURUG (‘MERRICK’), RHYS (bu farw 1586-7), yswain, achwr, a hanesydd

Enw: Rhys Meurug
Dyddiad marw: 1586-7
Plentyn: Barbara Button (née Merrick)
Rhiant: Meurug ap Hywel ap Phylip ap Dafydd ap Phylip Hir
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: yswain, achwr, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Perchnogaeth Tir; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Griffith John Williams

a oedd yn byw yn y Cotrel ym mhlwyf Sain Nicolas ym Mro Morgannwg. Yn ôl ei gyfoeswr, Dafydd Benwyn, yr oedd yn fab i Feurug ap Hywel ap Phylip ap Dafydd ap Phylip Hir, o hil Caradog Freichfras. Fe'i penodwyd gan iarll Penfro yn glerc yr heddwch yn Sir Forgannwg. Bu farw yn 1586-7, a chladdwyd ef yn eglwys y Bont-faen. Canwyd dwy farwnad iddo, y naill gan Ddafydd Benwyn (Cardiff MS. 2.277 (344-6)), a'r llall gan Sils ap Siôn (Llyfr Hir Llanharan, 319). Ei brif ddiddordeb ydoedd hanes Morgannwg, a bu wrthi'n ddyfal yn chwilio am hen ddogfennau o bob math, Lladin a Chymraeg. Ceir yn J. M. Traherne, Stradling Correspondence, 1840, 167-8, lythyr a yrrodd at Syr Edward Stradling o Sain Dunwyd yn 1574, llythyr sy'n dangos fod y ddau hanesydd yn cydweithio. Ysgrifennodd lyfr ar hanes Morgannwg, a dywaid ‘Iolo Morganwg’ iddo ei weled yn llyfrgell yr Hafod, Sir Aberteifi. Felly, gellir bwrw ei fod yn un o'r llyfrau a gollwyd pan aeth y llyfrgell honno ar dân yn 1807. Ceir copi a wnaethpwyd tua 1660-80 yn llyfrgell Coleg y Frenhines yn Rhydychen, ac argraffwyd hwnnw gan Syr Thomas Phillipps yn ei wasg breifat ym Middle Hill yn 1825. Cafwyd ail argraffiad, wedi ei olygu gan J. A. Corbett, yn 1887. Ceir copi arall a wnaethpwyd tua 1674-5 yn Llyfrgell Rydd Caerdydd. Teitl y llyfr yw A Booke of Glamorganshires Antiquities, a dywedir ei orffen yn 1578. Gwelir mai llyfr Saesneg ydyw, ac fe'i rhennir yn dair adran. Yn y gyntaf, disgrifir nodweddion y rhanbarth, ac yn yr ail dangosir sut y rhannwyd y wlad rhwng y marchogion Normanaidd, a pha diriogaethau a gawsai'r Cymry. Yn y drydedd, y mae'n disgrifio Sir Forgannwg fel yr oedd yn ei ddyddiau ef. Er hynny, nid yw copi terfynol yr awdur gennym, oherwydd cyfeiria at adrannau o'r gwaith nas ceir yn y ddwy lawysgrif, ac ni roir namyn darn o'r drydedd adran. Y mae'n fwy na thebyg fod cyfran go helaeth o'r adran honno wedi ei diogelu yn un o lawysgrifau Edward Lhuyd, a chyhoeddwyd hi yn Parochialia, iii (1911), 116-47. Gellir bwrw iddo ysgrifennu'r adran hon tua 1584-5, a chynnwys fanylion am yr afonydd a'r nentydd, am hen dai'r uchelwyr, ac am y plwyfydd a'r tiroedd. Er bod Rhys Meurug yn defnyddio rhai hen ddogfennau sydd wedi diflannu wrth ysgrifennu'r ddwy ran gyntaf, eto y disgrifiad o'r sir fel yr oedd yn ei ddyddiau ef a bair fod ei waith o ddiddordeb i ni heddiw. Ef, yn ddiamau, yw'r pwysicaf o hen haneswyr Morgannwg. Cyfeiria weithiau at lyfrau eraill a ysgrifenasai, megis hanes Cymru a hanes esgobaeth Llandaf, ond nid oes gopïau ohonynt ar glawr. Yr oedd hefyd yn achwr enwog, a lluniodd gasgliad mawr o achau. Ceir cyfeiriadau ato a dyfyniadau ohono mewn rhai llawysgrifau achyddol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

MEURUG (‘MERRICK '), RHYS

Bu farw 1 Mawrth 1586/7. Gw. yn awr erthygl T. J. Hopkin arno yn Morgannwg VIII, 5-13.

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau