Yr oedd yn fab anghyfreithlon i Edward Lloyd o Lanforda, ger Croesoswallt, a Bridget Pryse o Lan-ffraid, ger Talybont, Sir Aberteifi. Fe'i ganed ym mhlwyf Lappington a'i fagu yno yn Krew Green am naw mlynedd gan famaeth o'r enw Catherine Bowen. Aeth i ysgol ramadeg Croesoswallt, lle y bu'n athro, y mae'n debyg, yn ddiweddarach. Y mae tystiolaeth bendant ei fod yn ymddiddori mewn hynafiaethau, yn arbennig achyddiaeth a herodriaeth, erbyn y flwyddyn 1681; yn y flwyddyn honno dywed ei dad mewn llythyr fod ei fab yn dra hyddysg mewn achau; a dengys ei lawysgrifau na pheidiodd y diddordeb hwn ar hyd ei oes er ehanged y lledodd meysydd ei astudiaethau. Ar 31 Hydref 1682 ymaelododd fel myfyriwr yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ac yn fuan ar ôl ymaelodi cymerodd swydd fel cynorthwywr i Dr. Plot, yr athro cemeg a cheidwad cyntaf Amgueddfa Ashmole, a agorwyd ar 21 Mai 1683. Parhaodd cysylltiad Lhuyd â'r amgueddfa hon hyd ei farwolaeth. Yn fuan ar ôl agor Amgueddfa Ashmole, sefydlwyd Cymdeithas Athronyddol Rhydychen, a dyry ei chofnodion wybodaeth am rai o arbrofion a darganfyddiadau cynharaf Lhuyd gyda'r gwyddorau arbrofol a naturiol; gwneud papur anhylosg o fwyn asbestos (Rhagfyr 1684), disgrifio planhigion o ogledd Cymru na chynhwyswyd yng nghatalog John Ray (Ionawr 1685-6), etc. Yn Ionawr 1685-6 cyflwynodd i'r gymdeithas gatalog newydd o'r cregin oedd yn yr amgueddfa, o dan y teitl Cochlearum omnium tam terrestrium quam marinarum quae in hoc Museao continentur, Distributio classica juxta figurarum vicinitatem concinnata. Enillodd ei ddawn a'i weithgarwch iddo lawer o gyfeillion megis Jacob Bobart, yr athro botaneg. Yn ystod haf 1688 bu'n casglu planhigion o gwmpas Eryri, a thrwy'r Dr. Plot ac eraill daeth i gysylltiad â John Ray o Gaergrawnt. Cynhwysodd Ray yn ei lyfr, Synopsis Methodica Stirpium Britannicorum, 1689-90, restr o blanhigion o Eryri a baratoisid gan Lhuyd, a bu hyn yn ddechrau cyfeillgarwch hir rhwng y ddau. Pan ymddangosodd ail argraffiad o lyfr Ray, Collection of English Words not generally used, yn 1691, ychwanegwyd dwy restr o eiriau a gafodd Ray gan Lhuyd, y naill wedi'i chasglu gan Lhuyd ei hun a'r llall gan Tomlinson. Yn ddiweddarach, daeth Lhuyd i gymryd mwy o ddiddordeb mewn geiriau, ond yn y cyfnod hwn ei brif bwnc oedd botaneg. Yn 1689 y mae'n debyg iddo fynd gyda Dr. Plot i'w helpu i baratoi arolwg o arfordir Caint. Yn 1690-1 penodwyd ef yn geidwad Amgueddfa Ashmole, fel olynydd i Dr. Plot. Er iddo ddal i chwilio am lysiau a phlanhigion bu newid yn ei ddiddordeb; hyd yn hyn bu'n canolbwyntio ar fotaneg, ond yn awr dechreuodd roi mwy a mwy o sylw i gerrig a ffosylau. Yng ngwanwyn 1691 aeth ar daith naw niwrnod gyda dau ddaearegwr o Ddenmarc, Seerup a Hemmer, i Salisbury, Bath, a Bryste. Ceisiodd sefydlu ' Clwb Daearegol ', a byddai'n gohebu'n gyson â John Woodward, William Nicholson, a Richard Richardson. Yr oedd â'i fryd ar deithio mewn gwledydd tramor i ehangu ei ymchwiliadau; ac ar un adeg meddyliai am fynd i India'r Gorllewin; ond erbyn Mai 1693 rhoesai'r gorau i'r bwriad hwnnw. Seithug hefyd fu ei gynllun i fynd i Gernyw.
Yn 1693 hefyd gwelir newid arall yn natur ei ymchwiliadau. O hyn ymlaen mewn hynafiaethau a ieitheg yr ymddiddorai fwyaf, er nad ymwadodd â'i astudiaethau mewn botaneg a daeareg. Cynorthwyodd ei gyfaill Edmund Gibson, wrth olygu argraffiad newydd, 1695, o Britannia Camden, gyda nodiadau gwerthfawr ar siroedd Cymru. Erbyn hyn yr oedd Lhuyd yn cynllunio gwaith mawr hollgynhwysol ar hynafiaethau Cymru ar batrwm Natural History of Staffordshire, 1686, gan Dr. Plot, ond cyn ymroi i'r gwaith ar gyfer hynny adolygodd ei gatalog o ffosylau Prydeinig. Yr oedd yn barod i'r wasg ganddo tua chanol Mawrth, 1697, ond ni fynnai'r brifysgol ei gyhoeddi. O'r diwedd fe'i cyhoeddwyd yn Chwefror 1699 o dan y teitl Lithophylacii Britannici Ichnographia (120 copi yn unig), diolch i ddeg o danysgrifwyr. Yr oedd ynddo lawer o wallau print, a pharatoes Lhuyd argraffiad newydd, a gyhoeddwyd yn 1760 gan W. Huddesford.
Ymhell cyn i'r llyfr hwn ddod o'r wasg yr oedd Lhuyd wedi dechrau'i baratoadau ar gyfer ei waith ar Gymru. Er mwyn ennill cefnogaeth a chael tanysgrifwyr cyhoeddodd, yn 1695, ' A Design of a British Dictionary, Historical and 'Geographical; With an Essay entitl'd “Archaeologia Britannica”; And a Natural History of Wales.' Ac yn 1696 dilynwyd hwn gan ' Parochial Queries in Order to a Geographical Dictionary, a Natural History, etc., of Wales. ' Printiwyd 4,000 o'r Parochial Queries ac fe'u dosbarthwyd yn dri i bob plwyf. Cafodd nifer da o danysgrifwyr, ac yn 1696, rhwng diwedd Ebrill a dechrau Hydref, gallodd ymweld ag wyth neu naw o siroedd.
Yn 1697 cychwynnodd, gyda'i gynorthwywyr William Jones, Robert Wynne, a D. Parry, ar ei daith fawr. Gadawodd Rydychen ym mis Mai, a chan deithio drwy swydd Gaerloyw a Fforest y Ddena, ymhen pum mis cyrhaeddodd y Bont-faen, lle yr arhosodd am ddau fis. Oddi yno aeth drwy'r deheudir hyd Aberteifi, ac yna'n ôl i Henffordd erbyn Awst 1698. Wedyn aeth drwy ganolbarth Cymru gan fwrw'r gaeaf yn Nolgellau a chyrraedd arfordir y gogledd yn haf 1699. Croesodd i ogledd Iwerddon ac oddi yno i'r Alban, lle y treuliodd y gaeaf. Aeth wedyn i ddeau Iwerddon, treuliodd bedwar mis arall yng Nghymru a phedwar yng Nghernyw cyn hwylio i Lydaw. Cawsai ef a'i gymdeithion lawer o drafferth hyd yn oed yng Nghymru a Chernyw, ond yn Llydaw fe'u drwgdybiwyd fel ysbïwyr; ac ar ôl cael eu dal yn St. Pol de Leon fe'u carcharwyd yn Brest am ddeunaw niwrnod. Dychwelodd i Rydychen yn Ebrill, 1701, ar ôl ymweld â phob sir yng Nghymru a chopïo llawysgrifau ac arysgrifau, a chasglu pob math o gywreinbethau yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban, Cernyw, a Llydaw.
Ar 21 Gorffennaf 1701 cyflwynodd y brifysgol iddo radd M.A. Ar wahân i ymweliadau byr â Chaergrawnt, Marcham, ac Appleton, treuliodd y gweddill o'i fywyd yn Rhydychen gan geisio trefnu'r holl ddeunydd a gasglasai ar ei deithiau a thrwy'r atebion i'w Parochial Queries. Bu hefyd yn darlithio ar hanes naturiaethol. Yn Hydref 1703 gyrrodd ei gyfrol gyntaf o'r Archaeologia Britannica, o dan y teitl Glossography, i'r wasg, ac fe'i cyhoeddwyd ym Mehefin 1707, wedi'i chyflwyno i Syr Thomas Mansel o Fargam. Dyma gynnwys y gyfrol, yn ôl teitlau'r adrannau: (1) ' Comparative Etymology '; (2) ' Comparative Vocabulary '; (3) a (4) ' An Armoric Grammar and Vocabulary ' - wedi'u cyfieithu o Ffrangeg Julian Manoir gan Moses Williams; (5) ' Some Welsh Words Omitted in Dr. Davies's Dictionary '; (6) ' A Cornish Grammar '; (7) ' MSS. Britannicorum Catalogus '; (8) ' A British Etymologicon ' - gwaith David Parry; (9) ' A Brief Introduction to the Irish or Ancient Scottish Language ' - o ramadeg a gyhoeddwyd gan F. O. Molloy yn Rhufain yn 1677; (10) ' An Irish-English Dictionary. ' Dilynir (10) gan gatalog byr o lawysgrifau Gwyddeleg. Bu'r Glossography yn achos siom i lawer o'r tanysgrifwyr oherwydd natur ieithegol ei gynnwys, ond cafodd groeso gan ysgolheigion Seisnig a Cheltig. Ni bu byw Lhuyd i orffen y gwaith mawr a gynlluniasai ac nad oedd y Glossography ond y gyfrol gyntaf ohono. Yn 1708 etholwyd ef yn F.R.S., ac yn 1709 yn brif 'ringyll (Bedel) diwinyddiaeth ' ym Mhrifysgol Rhydychen. Ar hyd ei oes yr oedd wedi mwynhau iechyd ardderchog, ond wrth deithio drwy Ogledd Cymru yn 1698 dechreuodd ddioddef gan yr asthma. Tua diwedd Mehefin 1709 daliodd annwyd, a droes yn blewrisi ar 26 Mehefin, a bu farw 30 Mehefin. Fe'i claddwyd y diwrnod wedyn yn y ' Rhodfa Gymreig ' yn eglwys S. Mihangel, Rhydychen. Yn 1905 gosodwyd tabled bres ar y mur yng nghapel Coleg Iesu i goffau'r Cymro nodedig hwn nad oedd carreg nac arysgrif i nodi man ei fedd.
Yr oedd Lhuyd yn un o hynafiaethwyr, naturiaethwyr, ac ysgolheigion mwyaf ei gyfnod. Gwnaeth waith arloesol o'r pwysigrwydd mwyaf mewn botaneg a daeareg, ac ef yn anad neb a sefydlodd ieitheg Geltig a chymharol. Ar wahân i'w ddau brif lyfr gwnaeth lawer o gyfraniadau eraill, er mai wedi'i farw yr ymddangosodd rhai ohonynt. Cynorthwyodd y Dr. M. Lister gyda'i Historia sive Synopsis Methodica Conchyliorum, 1685, 1687, 1691; y deon Hickes gyda'r Thesaurus Linguarum Septentionalum; Nicholson gyda'i Historical Library; a Collier gyda'i Historical Dictionary; ac yn Glossarium Antiquitatum Britannicarum, 1719, gan William Baxter, ceir traethawd o waith Lhuyd ar ystyr enwau lleoedd Cymraeg. Ceir nifer o nodiadau ac erthyglau ganddo yn y Philosophical Transactions, rhifau 166, 200, 208, 213, 229, 243, 252, 269, 292, 295, 314, 316, 334, 335, 336 - y saith olaf wedi iddo farw.
Gwrthododd Coleg Iesu a Phrifysgol Rhydychen brynu ei lawysgrifau, ac fe'u gwerthwyd i Syr Thomas Sebright. Yn ddiweddarach gwerthwyd llawysgrifau Sebright ac fe'u gwasgarwyd. Ymhlith y prynwyr yr oedd Syr Watkin Williams-Wynn, Wynnstay; a Thomas Johnes, Hafod Uchdryd; ond collodd y ddau y rhan fwyaf o'r llawysgrifau a brynasent, mewn tanau, y naill mewn siop rhwymwr llyfrau yn Llundain a'r llall yn Hafod Uchdryd ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.