WYNN (TEULU), Wynnstay, Rhiwabon.

Sefydlydd y teulu oedd Hugh Williams, D.D. (1596 - 1670), rheithor Llantrisant a Llanrhyddlad ym Môn, ac ail fab William Williams o'r Chwaen Isaf, Llantrisant. Daeth mab hynaf Hugh, Syr William Williams (1634 - 1700), i'r amlwg fel cyfreithiwr; bu'n llefarydd Ty'r Cyffredin, 1680-1; gwnaed ef yn gyfreithiwr cyffredinol yn 1687, yn farchog yr un flwyddyn, ac yn farwnig yn 1688. Yn 1675 prynodd stad Llanforda, Croesoswallt, gan yr olaf o'r Llwydiaid; bu farw 11 Gorffennaf 1700. Priododd ei fab, Syr WILLIAM WILLIAMS (1684 - 1740), yr ail farwnig, â Jane, merch ac aeres Edward Thelwall o Blas y Ward, a gor-wyres i'r enwog Syr John Wynn o Wydir; bu'n siryf Sir Drefaldwyn, 1705, Sir Feirionnydd, 1706, ac yn aelod seneddol tros sir Ddinbych, 1708-10.

Y mab hynaf o'r briodas ydoedd Syr WATKIN WILLIAMS (WYNN) (bu farw 1749), a etifeddodd, yn 1740, nid yn unig stadau a theitl ei dad, ond hefyd, trwy ei fam, stad Wynnstay a ddaethai i feddiant Syr John Wynn (bu farw 1718/19), y barwnig olaf o linach Gwydir, trwy ei briodas ag aeres Eyton Evans, Wattstay (yr hen enw ar y plas a'r stad). Mabwysiadodd Syr Watkin Williams yr enw Wynn wedi iddo ddod i'r stad. Bu'n aelod seneddol dros sir Ddinbych, 1716-41; yn etholiad 1741 collodd y sedd trwy ystryw ar ran yr uchel siryf, er gorchfygu ohono'n deg ei wrthwynebydd, John Myddelton o Gastell y Waun; eithr unionwyd y camwri ym mis Gorffennaf 1742, ac o hynny ymlaen hyd ei farw daliodd i gynrychioli'i sir yn y Senedd, lle y clywid ei lais yn fynych fel dadleuydd. Yno, hefyd, amlygodd Syr Watkin ei hun fel un o brif hyrwyddwyr achos y Stiwartiaid yn 1745; a gartref, efe ydoedd arweinydd ' Cylch y Rhosyn Gwyn ' - y clwb Iacobitaidd a sefydlwyd ganddo tua 1723, ac a gyfarfyddai'n rheolaidd yn Wynnstay a thai eraill yng nghymdogaeth Wrecsam. Eithr pa faint o gynhorthwy ymarferol a roes i'r achos sydd ddirgelwch hollol. Maentumir iddo sgrifennu at y tywysog Siarl yn addo codi ei ran ef o'r wlad o'i blaid, ac iddo ddal i ohebu â'r tywysog wedi methiant y '45; fodd bynnag, ni phrofwyd dim yn ei erbyn ac ni wnaeth y Llywodraeth unrhyw ymgais i'w gyhuddo. Ar y llaw arall, nid oes diffyg tystoliaeth i atgasedd Syr Watkin tuag at y Methodistiaid; profodd Peter Williams ac eraill o'i gyfeillion erledigaeth ffyrnig ar ei law, a mawr oedd eu llawenydd pan fu farw yn ddisymwth, 26 Medi 1749, trwy syrthio oddi ar ei farch wedi bod yn hela. Ychwanegodd Syr Watkin yn helaeth at stad Wynnstay trwy ei briodas ag Ann, ferch ac aeres Edward Vaughan, Llwydiarth a Llangedwyn.

Dilynwyd ef gan Syr WATKIN WILLIAMS WYNN II (1749 - 1789), y mab hynaf o'i ail briodas â Frances, merch George Shackerley, o Hulme, sir Gaer. Fel ei dad, bu'r ail Syr Watkin yn aelod seneddol dros sir Ddinbych, 1774-89, a gwnaed ef yn ' Custos Rotulorum ' ac arglwydd-raglaw Sir Feirionnydd yn 1775. Eithr fel noddwr y celfyddydau y coffeir ef yn bennaf; gallai ymffrostio yn ei gyfeillgarwch ag enwogion fel Syr Joshua Reynolds, yr arlunydd, a David Garrick, y chwareuydd. Cyfrannodd yn hael at yr ysgol Gymreig yn Llundain, a sefydlodd ddwy ysgol ei hun ym mhlwyf Rhiwabon; efe oedd ail ' Benllywydd ' Cymdeithas y Cymmrodorion (Cymm., 1951, 56-7). Yn ystod ei febyd ychwanegwyd drachefn at diroedd Wynnstay pan brynodd ei fam ar ei ran, yn 1752, stadau Mathafarn (gan gynnwys maenor Cyfeiliog) a Rhiwsaeson. Bu farw gwraig gyntaf Syr Watkin, Henrietta Somerset, yn fuan wedi'r briodas; ymbriododd yntau am yr ail waith â Charlotte, merch y gwir anrhydeddus George Grenville, a bu iddynt dri mab, Syr WATKIN WILLIAMS WYNN (1772 - 1840), a'i ddau frawd, Charles a Henry, triawd a lysenwyd yn 'Pip, Squeak and Bubble', a thair merch.

Llanc 17 oed oedd y mab hynaf a'r aer, Syr WATKIN WILLIAMS WYNN III (1772 - 1840), pan fu farw'i dad ym mis Gorffennaf, 1789. Bu'n aelod seneddol tros Fiwmares, 1794-6, a sir Ddinbych, 1796-1840; ac yn arglwydd-raglaw sir Ddinbych a Sir Feirionnydd. Eithr mewn achosion milwrol yn hytrach na gwleidyddiaeth yr ymddiddorai'n bennaf oll. Yn 1794 cododd gatrawd o wyr meirch - ' Ancient British Fencibles ' - a gynorthwyodd i lethu gwrthryfel 1798 yn Iwerddon. Priododd â Henrietta Antonia Clive, merch hynaf Edward, iarll 1af Powis; a bu farw 6 Ionawr, 1840. Yr oedd yn llywydd ail Gymdeithas y Cymmrodorion o 1820 hyd ei farw.

O ddau frawd y 3ydd Syr Watkin, bu i'r hynaf, CHARLES WATKIN WILLIAMS WYNN (1775 - 1850), yrfa ddisglair fel gwleidydd; yr oedd yn aelod seneddol tros sir Drefaldwyn, 1799-1850; is-ysgrifennydd y swyddfa gartref, 1806-7, ac ysgrifennydd rhyfel yng ngweinyddiaeth yr arglwydd Grey, 1830-1. Priododd Charles Mary, merch hynaf Syr Foster Cunliffe, a gwnaethant eu cartref yn Llangedwyn. Y mae ysgrif ar ei ferch, CHARLOTTE, yn y D.N.B.

Dewisodd y brawd arall, Syr HENRY WATKIN WILLIAMS WYNN (1783 - 1856), fynd i'r swyddfa dramor, a gwasnaethodd yn ei dro fel llysgennad yn Saxony, Yswistir, a Copenhagen. Gwraig Henry oedd Hesther Smith, merch yr arglwydd Carrington.

Etifeddwyd y teitl a'r ystadau gan fab hynaf y 5ed Barwnig, Syr WATKIN WILLIAMS WYNN, y 6ed Barwnig (1820 - 1885). Ganesid ef yng nghartre'r teulu yn St. James's Square, Llundain, 22 Mai 1820 ac addysgwyd ef yn Ysgol Westminster cyn mynd i Goleg Christ Church, Rhydychen, yn 1837. Pan ddaeth i'w etifeddiaeth yn 1840 yr oedd dan oed i ddilyn ei dad yn sedd y teulu dros sir Ddinbych, ond ym mis Gorffennaf 1841 etholwyd ef yn A.S. a chadwodd y sedd dros weddill ei oes. Nid oes sôn iddo wneud enw yn y Ty, yn wir honnir na wnaeth araith o gwbl ond pleidleisio'n gyson dros ei blaid. Yn ôl William Rees ('Gwilym Hiraethog') gwr safndrwm a thafodrwym ydoedd. Serch hynny, yr oedd iddo air da fel tirfeddiannwr a chymwynaswr ar waethaf agwedd ormesol rhai o'i stiwardiaid, ac nid oes amheuaeth am ei boblogrwydd ymhlith y werin. O barch i'w goffadwriaeth fel pendefig, gwladwr ac eisteddfodwr pan fu farw penderfynodd Rhyddfrydwyr sir Ddinbych beidio ag enwi ymgeisydd i'r sedd wag pe dewisai'r Torïaid ei olynydd ieuanc i'w cynrychioli. Dangoswyd parch mawr iddo drwy gydol ei oes. Yn wir, bu dathlu brwd ar ystadau'r teulu pan aned ef. Deuddeg oed ydoedd pan ddaeth y Dywysoges Victoria a'i mam i aros yn Wynnstay a rhoi arbenigrwydd pellach ar y teulu. Dyna'r pryd y newidiwyd enw gwesty'r King's Head yn Llangollen i'r ' Royal Hotel '. Bu dathlu mwy rhwysgfawr fyth pan ddaeth i'w oed yn 1841. Priododd ei gyfnither, Marie Emily, merch Syr Henry Williams Wynn, K.C.B., yn eglwys St. James yn, Llundain 28 Ebrill 1852. Ar 5 Mawrth 1858 digwyddodd trychineb, a dynnodd lu o negeseuau o gydymdeimlad oddi wrth unigolion a chyrff cyhoeddus yng Nghymru, pan losgwyd rhan helaeth o blas Wynnstay, a dinistrio trysorau yn cynnwys llyfrgell werthfawr o lawysgrifau Cymraeg a Chymreig. Ymhlith y negesau yr oedd anerchiad gan Sasiwn y Gogledd (MC). Ailadeiladwyd y ty sy'n sefyll heddiw, dechreuodd Syr Watkin ail-adeiladu llyfrgell drwy brynu llawysgrifau achau Joseph Morris o Amwythig. Daliodd swyddi traddodiadol y teulu yng ngweinyddiaeth siroedd Dinbych a Maldwyn, a chyda'r 1st Denbighshire Volunteer Corps a'r Montgomeryshire Yeomanry Cavalry. Ef oedd prif swyddog y Seiri Rhyddion yng ngogledd Cymru, a bu'n gyfrifol am sefydlu nifer o gyfrinfeydd. Yr oedd ystafell arbennig iddynt ym mhlas Wynnstay. Dangosodd ddiddordeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gelwid arno i lywyddu ar ddydd y cadeirio fel 'y Tywysog yng Nghymru'. Derbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd wrth yr enw ' Eryr eryrod Eryri ', arwyddair y teulu a ategai eryrod Owain Gwynedd yn ei arfbais. Bu'n llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, a chymaint oedd ei ddiddordeb yn yr Ysgol Gymreig yn Ashford fel y cynhaliwyd gwasanaeth coffa arbennig iddo yn eglwys blwyf Ashford. Bregus fu ei iechyd yn ei flynyddoedd olaf. Cafodd ryw gymaint o adferiad ar ôl mordaith ar Fôr y Canoldir yn ei long-bleser Hebe yng ngaeaf a gwanwyn 1875-76. Yn ei afiechyd olaf bu Syr William Jenner yn ei weld. Bu farw ddydd Sadwrn, 9 Mai 1885, yn Wynnstay a chladdwyd ef yn Llangedwyn y dydd Gwener canlynol.

Dwy ferch oedd ganddo a buasai'r ieuengaf farw yn 14 oed, ond yr oedd yr hynaf, Louisa Alexandra (1864 - 1911), wedi priodi ei chefnder HERBERT LLOYD WATKIN WILLIAMS-WYNN (1860 - 1944) ar 26 Awst y flwyddyn gynt. Hwnnw, felly, yn nai a mab-yng-nghyfraith iddo, a'i dilynodd fel perchen yr ystadau a'r teitl ac a ddaeth yn 7fed Barwnig. Ganwyd ef ar 6 Mehefin 1860 yn ail fab i Herbert Watkin Williams-Wynn, brawd iau i'r 6fed Barwnig, a chafodd ei addysg yn Ysgol Wellington a Choleg y Drindod, Caergrawnt, lle y cymerodd radd B.A. O fis Mai i fis Tachwedd 1885 bu'n A.S. dros sir Ddinbych, ond cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr daethai trefn newydd ar yr etholaethau. Yn lle dau aelod dros y sir rhannwyd hi yn ddwy etholaeth. Ymladdodd yntau am sedd dwyrain Dinbych ond trechwyd ef gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol, George Osborne Morgan, ac er iddo geisio drachefn yn 1886 ac yn 1892 ni bu'n llwyddiannus, a chollodd teulu Wynnstay 'r gynrychiolaeth a fuasai'n fath o dreftadaeth iddynt. Gan hynny, ymroes ef i'w weithgareddau lleol a gwasanaethu ei bobl ei hun yn ffyddlon am yn agos i 60 mlynedd. Etholwyd ef dros ranbarth Rhiwabon ar gyngor sir Dinbych yn 1888 a chadwodd ei le weddill ei oes. Bu'n gadeirydd llys y sesiwn chwarter, 1905, yn uchel siryf Dinbych, 1890, ac Arglwydd Raglaw Maldwyn. Yr oedd ar gomisiwn heddwch nifer o siroedd. Bu'n aelod gyda'r fyddin diriogaethol a chododd gatrodau o wyr meirch adeg rhyfel De Affrica. Cefnogai'r gwasanaeth ambiwlans ac etholwyd ef yn un o farchogion S. Ioan. Yn ystod Rhyfel Byd I sefydlodd ffatri 'munitions' yn Wynnstay, ac yn 1939 rhoes y stablau ac adeiladau eraill at wasanaeth y llywodraeth. Yr oedd ganddo ddiddordeb dwfn mewn peirianyddiaeth ac adeiladu a gwnaeth lawer i wella ei ystadau eang. Fel ei dad a'i deidiau bu'n feistr helgwn enwog Wynnstay ac yn 1935 cyflwynwyd rhoddion iddo ar derfyn hanner canrif yn y swydd. Yr oedd yn uchel swyddog i'r Seiri Rhyddion yng ngogledd Cymru am lawer o flynyddoedd, ac fel ei ragflaenydd sefydlodd nifer o gyfrinfeydd. Bu'n aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, ac yr oedd yn eglwyswr selog. Fel darllenydd lleyg cymerai wasanaethau yn eglwysi'r cylch gan fod yn ffyddlon iawn i'w gydgynulliad yn eglwys blwyf Rhiwabon. Treuliodd ei fywyd yn syml a dirodres ymhlith ei bobl ac mewn cynhaeaf gwair torchai ei lewys gyda'i weision fel unrhyw ffermwr cyffredin. Rhoes gasgliad helaeth o ddogfennau'r ystadau ynghadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, a phan oedd y fyddin ar fin meddiannu rhai o'r adeiladau galwodd ar y Llyfrgell i ddiogelu ychwaneg o ddogfennau a allai fod mewn perygl. Yr un pryd rhoddodd y llawysgrifau a oedd yn y Llyfrgell yn Wynnstay i'w cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu farw yn Wynnstay ddydd Sadwrn 24 Mai 1944, a chladdwyd ef yn Llangedwyn. Buasai ei wraig farw yn 1911 ond yr oeddynt wedi eu hysgaru ers 1898. Bu iddynt un mab a dwy ferch.

Dilynwyd ef yn y teitl gan ei fab Syr WATKIN WILLIAMS-WYNN (1891 - 1949), yr 8fed Barwnig a anwyd ar 26 Ionawr 1891. Priododd ef, ar 14 Medi 1920, Daisy, merch ieuengaf John Johnson Houghton, Westwood, Neston. Syrthiodd bwyell treth marwolaeth yn drwm ar yr ystadau o tua 100,000 o erwau, ac ni fedrodd yr 8fed Barwnig ddal i fyw ond ychydig amser yn Wynnstay. Symudodd i blas Belan ar gyrion y parc ac yn ddiweddarach i Langedwyn. Bu raid gwerthu ystad Llwydiarth ym Maldwyn, a chymerwyd ystad Glan-llyn ym Meirionnydd fel rhan o'r dreth ar farwolaeth drwy drefniant gyda'r Trysorlys, a throsglwyddwyd hi i ofal y Comisiwn Tir Amaethyddol i'w gweinyddu gan yr Is-gomisiwn Cymreig. Gosodwyd plas Glanllyn, ty Glan-llyn isa, ac ychydig dir o gylch ar brydles i Urdd Gobaith Cymru i'w defnyddio fel gwersyll ieuenctid. Gwerthwyd Wynnstay i ysgol breswyl Lindisfarne. Felly y daeth cyfnod uchelwrol Wynniaid Wynnstay i ben. Er na fu cysylltiad agos rhwng yr 8fed Barwnig a Wynnstay ers ei lencyndod, pan ddaeth i'r etifeddiaeth dangosodd rinweddau ei dad a'i daid, a phetai amgylchiadau wedi bod yn wahanol y mae'n sicr y buasai traddodiad y teulu wedi ei gynnal yn ffyddlon ganddo yntau. Addysgwyd ef yn Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt, lle graddiodd yn B.A. yn 1913. Gwasanaethodd gyda'r Royal Dragoons yn Rhyfel Byd I a chlwyfwyd ef mewn brwydr. Cymerodd at weithgareddau cymdeithasol a chrefyddol ei dad yn yr ardal ac mewn llywodraeth leol. Bu'n uchel siryf sir Ddinbych. Bwriodd ati i foderneiddio trefniadaeth gweddillion yr ystad. Bu iddo ef a'i wraig un mab a thair merch. Ergyd drom iddynt fu colli'r mab mewn tán yng ngwersyll Barford, Barnard's Castle, 18 Ionawr 1946. Bu farw Syr Watkin yng Nghastell Rhuthun, ddydd Llun 9 Mai 1949, a chladdwyd ef yn Llangedwyn ar Fai 12.

Etifeddwyd y farwnigiaeth gan ei ewythr, Syr ROBERT WILLIAM HERBERT WATKIN WILLIAMS-WYNN, Plas-yn-cefn (1862 - 1951), y 9fed Barwnig. Yr oedd gan y 5ed Barwnig ddau fab, Syr Watkin Williams-Wynn (1820 - 1885), y 6ed Barwnig, a Herbert Watkin Williams-Wynn, A.S. dros sir Drefaldwyn 1850-62, a briododd Anna, merch ac aeres Edward Lloyd, Cefn Meriadog, Sir Ddinbych. Bu iddynt hwy dri mab, (1) Edward Watkin a foddwyd ger Windsor yn 1888, (2) Syr Herbert Lloyd Watkin Williams-Wynn (1860 - 1944), y 7fed Barwnig, (3) Robert William Herbert Watkin Williams-Wynn a ddaeth yn 9fed barwnig. Ganwyd ef 3 Mehefin 1862 ac addysgwyd ef yn Ysgol Wellington a choleg Eglwys Crist Rhydychen cyn ymuno á'r fyddin. Gwasanaethodd gyda'r Imperial Yeomanry yn Rhyfel De Affrica 1900-01 a chael ei enwi mewn cadlythyrau ac ennill D.S.O. Gwnaethpwyd ef yn gapten er anrhydedd yn 1900. Yr oedd yn isgyrnol a chomander y Montgomeryshire Yeomanry 1906-1917 ac aeth allan gyda hwy i'r Aifft yn 1916. Bu'n gomander adran ddeheuol yr Aifft o 1917 i 1919. Ymladdodd yn aflwyddiannus sedd sir Drefaldwyn dros y Ceidwadwyr yn 1894, 1895 ac 1900 yn erbyn Arthur Charles Humphreys-Owen, Glansevern. Dyfarnwyd iddo C.B. yn 1923, K.C.B. yn 1938. Bu'n feistr helgwn Fflint a Dinbych o 1888 i 1946 a bu ganddo hefyd ddiddordeb yn helgwn Wynnstay. Priododd yn 1904 ag Elizabeth Ida, ail ferch George W. Lawther, Swillington, swydd Efrog a bu iddynt 2 fab a 2 ferch. Bu farw yn ei gartref Plas-yn-cefn 23 Tachwedd 1951.

Dilynwyd ef gan ei fab Syr OWEN WATKIN WILLIAMS-WYNN, y 10fed BARWNIG (1904 - 1988).

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.