WILLIAMS, Syr, WILLIAM (1634-1700), cyfreithiwr a gwleidyddwr

Enw: William Williams
Dyddiad geni: 1634
Dyddiad marw: 1700
Priod: Margaret Williams (née Kyffin)
Plentyn: Emma Owen (née Williams)
Plentyn: John Williams
Plentyn: William Williams
Rhiant: Emma Williams (née Dolben)
Rhiant: Hugh Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a gwleidyddwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Glyn Roberts

Mab hynaf Hugh Williams (1596 - 1670), rheithor Llantrisant a Llanrhyddlad, sir Fôn (B. Willis, Bangor, 170-1; Pryce, Diocese of Bangor in the Sixteenth Century, 41, 43, 44; An Inventory of the Ancient Monuments in Anglesey, 114). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu Rhydychen ac yn Gray's Inn (ei dderbyn yno yn 1650 a dyfod yn fargyfrethiwr yn 1658; etholwyd ef yn drysorydd, 1681). Yr oedd yn gofiadur Caer o 1667 hyd 1684. Methodd â chael ei ethol yn aelod seneddol bwrdeisdref Caer yn 1672 eithr etholwyd ef yn 1675. Ymlynodd wrth y ' Country Party '; oedd yn erbyn ychwanegu at hawliau teyrnasol y brenin, cymerodd arno ei fod yn credu yn nilysrwydd y 'Popish Plot,' pleidiodd yr Exclusion Bill, a chafodd ei ethol yn llefarydd yn ail Senedd Iago II (1680) ac eilwaith yn Senedd Rhydychen (1681). Yn 1684 cychwynnodd ei elyn, George Jeffreys, gyngaws yn ei erbyn am iddo, fel llefaryd, awdurdodi, yn 1680, cyhoeddi Narrative athrodus Thomas Dangerfield; yn 1686 dirwywyd ef i £10,000 yn Llys Mainc y Brenin. Ar hynny, newidiodd ei ochr - ymheddychodd â'r brenin Iago II, dewiswyd ef yn gyfreithiwr cyffredinol, a chafodd ei urddo'n farchog (1687) Cafodd enw drwg trwy iddo fod yn gyfrifol am erlyn y saith esgob yn 1688 a chafodd ei wneuthur yn farwnig am ei wasanaeth. Newidiodd ei ochr unwaith yn rhagor pan gafwyd chwyldro 1688; etholwyd ef dros Fiwmares i Senedd y Convention (1689-90), a bu'n cynorthwyo i lunio'r Bill of Rights. Serch iddo golli ei swydd fel cyfreithiwr cyffredinol, gwnaethpwyd ef yn King's Counsel ym mis Hydref 1689 ac yn gyfreithiwr cyffredinol y frenhines yn 1692. Gyda Robert Price o'r Giler ac aelodau Cymreig eraill gwrthwynebodd, yn llwyddiannus, fwriad William III i roddi arglwyddiaethau Dinbych, Iâl, a Maelor i'r iarll Portland. Etholwyd ef yn aelod seneddol dros Fiwmares yn 1695. Priododd, 1664 â Margaret, merch ac aeres Watkin Kyffin, Glascoed, sir Ddinbych, a'r flwyddyn ddilynol prynodd Lanforda gan Edward Lloyd. Bu farw 11 Gorffennaf 1700.

Syr WILLIAM WILLIAMS, ail farwnig (bu farw 1740)

Y mab hynaf, h.y. y mab hynaf a oroesodd, tad Syr Watkin Williams Wynn, barwnig 1af Wynnstay.

JOHN WILLIAMS (bu farw 1738)

Y mab ieuengaf. Aeth i Gray's Inn yn 1679, daeth yn fargyfreithiwr yn 1686, a dewiswyd ef yn atwrnai cyffredinol siroedd Dinbych a Threfaldwyn yn 1702 a Chaer a'r Fflint yn 1727. Ar ei briodas â Catherine, merch Syr Hugh Owen, barwnig, Orielton, Sir Benfro, sefydlwyd tiroedd ei dad yn sir Fôn a Bodelwyddan (Sir y Fflint) arno. Yr oedd mab hynaf John Williams, sef Hugh Williams (1695 - 1742), yn aelod seneddol dros sir Fôn, 1725-34. Aeth y trydydd mab, JOHN WILLIAMS (1700 - 1787), i Gray's Inn yn 1718 a daeth yn fargyfreithiwr yn 1725. Dilynodd ei dad fel atwrnai cyffredinol siroedd Caer, y Fflint, Dinbych, a Threfaldwyn (1738-55), bu'n ddirprwy prif farnwr cylchdaith Caerfyrddin (1749-1757) ac yn brif farnwr cylchdaith Brycheiniog o 1755 hyd ei farwolaeth, 25 Ebrill 1787.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.