WOTTON, WILLIAM (1666 - 1727), clerigwr ac ysgolhaig

Enw: William Wotton
Dyddiad geni: 1666
Dyddiad marw: 1727
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Nid oedd yn Gymro o dras, nac o drigias ond am ysbaid, felly rhaid bodloni yma ar gyfeirio at yr ysgrif (gan Norman Moore, yr ysgolhaig Celteg) yn y D.N.B. at yrfa'r dyn rhyfedd hwn, a ddarllenai Roeg a Lladin yn 5 oed a Hebraeg yn 6, ac a ddaeth yn gyfaill i Bentley a Locke a Newton; fe'i ganwyd yn Suffolk, 13 Awst 1666, a bu farw yn Essex 13 Chwefror 1726/7. Eithr bu a fynnai â Chymru hefyd. Cyfarfu yn 1680 â'r esgob William Lloyd o Lanelwy, ac bu wrthi'n trefnu llyfrgell plas yr esgob yn Llanelwy; o 1691 hyd ei farwolaeth, daliai reithoraeth segurswydd Llandrillo yn Rhos (ei fywoliaeth breswyl oedd Middleton Keynes gerllaw Bletchley, Bucks). Yn 1714, yn herwydd anawsterau ariannol, daeth i fwrw rhai blynyddoedd yng Nghymru, ac yn ystod ei arhosiad dysgodd Gymraeg - traddododd y bregeth Gymraeg i Gymdeithas Hen Frutaniaid Llundain ar ŵyl Ddewi 1722. Un o'i gyfeillion oedd Moses Williams, a gyfeiria ato, yn y rhagymadrodd i'w Cofrestr o'r Holl Lyfrau Printiedig, 1717, fel ' Sais cynhwynol, gwr dyscedig dros ben … wedi mynd yn gystal Cymreigydd o fewn i'r ddwy Flynedd ymma a'i fod mor hyfedr a chymryd Copi o Gyfraith Hywel Dda yn llaw eisoes.' Ni chafodd Wotton fyw i argraffu ei waith ar y cyfreithiau, ond cyhoeddwyd ef yn 1730 gan ei fab-yng-nghyfraith, wedi ei olygu gan Moses Williams, Cyfreithjeu Hywel Dda ac eraill, seu Leges Wallicae (etc.), y testun Cymraeg, cyfieithiad Lladin a nodiadau; dyma'r tro cyntaf i'r cyfreithiau gael eu hargraffu. Cyfaill arall i Wotton oedd yr hynafiaethydd Browne Willis (1682 - 1760; gweler y D.N.B. arno), a fu'n ddisgybl iddo am dair blynedd yn ei bersondy yn Middleton Keynes. Cynhwysir cyfraniadau gan Wotton yn Surveys adnabyddus Browne Willis ar Dyddewi a Llandaf - gwelir ei arwydd 'M.N.' (= [Willa]m =[ Wotto]n) ar y t. 90 o'r S. David's, 1716, a'i enw'n llawn ar y t. 34 o'r Llandaf, 1719 -y mae'n eglur ei fod wedi ymweld â'r ddau le.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.