WILLIAMS, MOSES (1685 - 1742), clerigwr, hynafiaethydd, ysgolhaig

Enw: Moses Williams
Dyddiad geni: 1685
Dyddiad marw: 1742
Priod: Margaret Williams (née Davies)
Rhiant: Margaret Williams (née John)
Rhiant: Samuel Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, hynafiaethydd, ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Geraint Bowen

Mab Samuel Williams, Llandyfriog; Ganwyd 2 Mawrth 1685 yn y Glaslwyn, Cellan, Sir Aberteifi. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, a Choleg University, Rhydychen (B.A., 1708). Cafodd radd M.A. Caergrawnt 10 mlynedd yn ddiweddarach. Bu'n gynorthwywr i Edward Lhuyd yn llyfrgell amgueddfa Ashmole, Rhydychen, a chwedyn ar staff llyfrgell Bodley. Urddwyd ef yn ddiacon 2 Mawrth 1709 a chafodd guradiaeth Chiddingstone, Caint. Wedi blwyddyn yn gaplan i'r arglwyddes Dinbych, ordeiniwyd ef 31 Mai 1714 yn offeiriad yn Fulham. Estynnwyd iddo fywoliaeth Llanwenog yn 1715 a ficeriaeth Defynnog. Yn eglwys Defynnog, 10 Tachwedd 1718, priododd â Margaret Davies o Gwm Wysg; yr oedd wedi colli ei wraig a'i unig ferch ac wedi priodi'r eilwaith erbyn 1730. Yn 1719 etholwyd ef yn F.R.S., a bu'n gweithredu yn 1722 fel ysgrifennydd dros dro i'r gymdeithas honno. Cafodd fywoliaeth Bridgwater yn 1732 ac yno y bu farw. Claddwyd ef 2 Mawrth 1742 ym mynwent Bridgwater.

Mae ei weithiau cyhoeddedig yn niferus iawn. Cyfieithodd a chyhoeddodd Ymarferol-Waith i'r Elusen Ysgolion, yn egluro Natur Conffirmasiwn mewn ffordd o Gwestiwn ac Atteb. Gyda nifer o Weddiau cyfaddas i'r Achos arbennig hwnnw, 1711, a Boreol a Phrydnawnol Weddi i Deulu, 1711, y ddau o Saesneg Robert Nelson; Llawlyfr y Llafurwr (Edward Welchman), 1711; Cydymmaith i'r Allor, William Viccars; ac yn Archaeologia Britannica (Edward Lhuyd), gwelir ' An Armoric Grammar and Vocabulary by Julian Manoir English'd out of French by M. Williams.'

Golygodd Feibl y S.P.C.K. ynghyd ag argraffiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1718 ac ail argraffiad ohonynt yn 1727, ac yn 1730 Cyfreithjeu Hywel Dda ac eraill, seu Leges Wallicae Ecclesiasticae & Civiles Hoeli Boni et ali Walliae Principum … Notis & Glossaris illustravit Gulielmus Wottonus.

Golygodd a chyhoeddodd Glossarium Antiquitatum Britannicarum William Baxter o Lanllugan 1711; Reliquiae Baxterianae, 1726, ac ail-argraffiad ohono yn 1731 dan y teitl Glossarium Antiquitatum Romanarum; The Breviary of Britain, Humphrey Lhuyd, 1723; a Britannicae Descriptionis Commentariolum, Humphrey Lhuyd, 1731. Cyhoeddodd hefyd Y Namyn un deugain Articlau Crefydd, 1710; Cofrestr o'r Holl Lyfrau Printjedig, 1717; Proposals for Printing by Subscription a Collection of Writings in the Welsh Tongue to the beginning of the Sixteenth Century, 1719; Repertorium Poeticum, 1726; ac Orders relating to the Almshouses … of Devynog, 1731.

Bwriadai ddwyn o'r wasg argraffiad newydd, gydag ychwanegiadau, o The historie of Cambria (David Powel); argraffiad o ddychangerddi Juvenal, a Llyfr yr Homiliau, Edward James. Ni chafodd ei ddymuniad o weld argraffiad helaethach o eiriadur a gramadeg John Davies o Fallwyd, er iddo gychwyn casglu defnyddiau a'u golygu, fel y tystia ei lawysgrifau. Mewn llawysgrif yr erys ei gasgliad o'r 'Trioedd' a baratôdd i'r wasg yn 1717, a'r un modd ei draethawd ' A Chronological Account of the Several Editions of the Scriptures in Welsh,' ei gatalog o gynnwys llyfrgell Bodley, a ' Llech o'r Holl Brydyddion Cymreig.' I'r ' Proposals ' a argraffodd yn 1719, siomedig fu'r ymateb, a gorfu arno roi'r gorau i'w fwriad uchelgeisiol a chlodfawr.

Diogelai lyfrau prin. Teithiai drwy Gymru gan ymweled â thai'r gwŷr mawr er mwyn edrych eu llyfrgelloedd a chopïo eu llawysgrifau a chodi ohonynt. Y mae llawysgrifau Llanstephan a llyfrau printiedig Shirburn yn Y Llyfrgell Genedlaethol yn brawf digonol o'i ddiwydrwydd ef a'i dad, Samuel Williams. Yr oedd yn ddisgybl teilwng i Edward Lhuyd, canys cydnabyddid y disgybl, ac fe'i cydnabyddir ef o hyd, yn un o ysgolheigion mwyaf ei gyfnod. Nid rhyfedd, felly, iddo ennill cyfeillgarwch ac ymddiriedaeth ysgolheigion enwocaf Lloegr ei ddydd, gwŷr megis William Wotton, John Hudson, Thomas Hearne, a Humphrey Wanley.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.