NELSON, ROBERT (1656 - 1715), dyngarwr, cefnogwr i'r S.P.C.K., a 'non-juror'

Enw: Robert Nelson
Dyddiad geni: 1656
Dyddiad marw: 1715
Rhiant: Delicia Nelson (née Roberts)
Rhiant: John Nelson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dyngarwr, cefnogwr i'r S.P.C.K., a 'non-juror'
Maes gweithgaredd: Crefydd; Dyngarwch; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llundain 22 Mehefin 1656, yn fab i John Nelson, ' Turkey merchant ' cyfoethog, a'i wraig Delicia (? Dilys), ferch Lewis Roberts o'r Biwmares, yr economydd. Yr oedd Robert Nelson felly'n hanner Cymro, a phriodol ddigon fu i un o'i weithiau, A Companion for the Festivals and Fasts of the Church of England (1704; ailargraffwyd ef o leiaf 36 o weithiau) gael cyfieithiad Cymraeg, Cydymaith i Ddyddiau Gwylion ac Ymprydiau Eglwys Loegr, 1712, gan Thomas Williams, ' Eglwyswr Dimbech '. Adroddir gyrfa Nelson yn bur llawn gan Leslie Stephen yn y D.N.B. Yr oedd yn wrth-Babyddol, er bod ei briod yn aelod o Eglwys Rufain; ond yn Uchel-Eglwyswr mor gryf nes gwrthod tyngu ffyddlondeb i linach 1688. Bu'n flaenllaw iawn ym mudiad y seiadau, yn y S.P.C.K., yn y S.P.G., ym mudiad y Dr. Bray i ddarparu llyfrgelloedd clerigol, ac yn y gwaith o sefydlu ysgolion elusennol. Sgrifennodd ddwsin o leiaf o lyfrau neu draethodau crefyddol, gan gynnwys cofiant i'w hen athro George Bull, a fu'n esgob Tyddewi o 1705 hyd 1710. Bu farw 16 Ionawr 1714/5 yn nhŷ ei gyfnither, ferch Syr Gabriel Roberts; gadawodd arian mawr i achosion da.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.