ROBERTS, LEWIS (1596-1640), masnachwr ac economydd, a hanoedd o Fiwmares

Enw: Lewis Roberts
Dyddiad geni: 1596
Dyddiad marw: 1640
Priod: Anne Roberts (née Williamot)
Plentyn: Ann Hanger (née Roberts)
Plentyn: Delicia Nelson (née Roberts)
Plentyn: William Roberts
Plentyn: Gabriel Roberts
Rhiant: Gabriel Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: masnachwr ac economydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Economeg ac Arian; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Y mae ei deulu (J. E. Griffith, Pedigrees, 96) yn enghraifft ddiddorol o ymwthiad y Cymry i fwrdeisdrefi Seisnig Gwynedd. Clywir gyntaf am y teulu ym mherson Gruffydd Llwyd (a fu farw 1375), a breswyliai yn nhreftaeog Penhwnllys yng nghwmwd Dindaethwy, h.y. ar diroedd hil Ednyfed Fychan - ond erbyn 1413 yr oedd y tiroedd hyn ym meddiant Gwilym Gruffydd o'r Penrhyn (gweler yr ysgrif ar y teulu hwnnw), ac yn oes Elisabeth yr oedd Syr Edward Herbert, yr arglwydd Herbert o Chirbury wedyn, wedi eu hetifeddu drwy ei fam.

Nid ymddengys y cyfenw ' Roberts' yn nheulu Gruffydd Llwyd nes down at feibion disgynnydd iddo, ROBERT AB IFAN. Ond y mae'n amlwg fod y teulu erbyn hynny wedi cartrefu ym Miwmares. Gwraig gyntaf y Robert hwn (J. E. Griffith, Pedigrees, 74) oedd Margaret, ferch Richard Johnson ' Hen ' - teuluoedd Johnson a Thicknesse (ceraint trwy briodas) oedd gwyr mawr masnach Biwmares, a sylwn fel yr oedd newydd-ddyfodiaid o Gymry 'n ymbriodi â'r bwrdeisiaid breiniol Seisnig. Ailbriododd Robert ab Ifan â Chymraes, a mab o'r briodas hon oedd LEWIS ROBERTS, a briododd â merch i Richard Johnson ' Ifanc,' ac a gafodd fab o'r enw GABRIEL ROBERTS (dengys ei ewyllys, a brofwyd yn 1614, ei fod yn dad ac yn daid). Ei wraig gyntaf oedd Anne, merch John Hawarden o Appleton ger Widnes.

Daw dau o'u meibion dan ein sylw:

GABRIEL ROBERTS, masnachwr

Ysgutor ewyllys ei dad. Erbyn ei ddydd ef, yn sgil siarter 1507 Harri VII i Gymry Gwynedd, ac wedyn y Ddeddf Uno (1536), yr oedd monopôl y bwrdeisiaid Seisnig (a wanychwyd eisoes gan ymdreiddiad Cymry i'w teuluoedd, fel y sylwyd uchod) wedi diflannu, a Gabriel Roberts oedd un o brif fasnachwyr ei dref, onid yn wir y prif. Yn wahanol i'w deidiau Seisnig y Johnsoniaid, nid ymgymerai ef â masnach dramor, eithr fe'i cyfyngai ei hunan i brynu nwyddau yng Nghaerlleon a'u dosbarthu ym Môn. Yr oedd nid yn unig yn fwrdais ond (cyn 1612) yn 'capital burgess,' h.y. yn aelod o gyngor y dref. Casglodd gyfoeth mawr, a chymerth y cam nesaf yn natblygiad masnachwyr cefnog ei ganrif, sef tyfu'n dirfeddiannwr. Yr oedd eisoes yn dal tiroedd yn Nindaethwy, a phan werthodd Herbert (1605) diroedd ei fam yn y cwmwd, ymunodd Roberts â masnachwr arall o'r enw Arthur (ymddengys oddi wrth Cal. Wynn Papers, 1160, eu bod yn gefndyr) i'w prynu, a rhannu'r tiroedd rhyngddynt. Yn y modd hwn y ffurfiwyd stad Castellior (Llechylched), ac ar honno y bu disgynyddion Gabriel Roberts fyw am genedlaethau. Dangosir ei olynwyr yn nhaflen J. E. Griffith. Darfu'r llinach hynaf ohonynt mewn aeres, a briododd â James Bulkeley (1717 - 1752) o Baron Hill.

ROBE-LEW-1596 LEWIS ROBERTS (1596 - 1640), masnachwr ac economydd

Ganwyd yn 1596 ym Miwmares, yn ail o dri mab ei dad. Gydag ef daw un arall o ganlyniadau'r Ddeddf Uno i'r amlwg, sef dylifiad meibion iau'r gwyr cefnog Cymreig i Loegr. Yn 1617 yr oedd Lewis Roberts yng ngwasanaeth yr East India Company (y daeth wedyn yn gyfarwyddwr iddo) a'r Levant Company; yr oedd hefyd yn stiward ('factor') i deulu'r Harvey a ddarganfu gylchrediad y gwaed. Cawn ef yn 1623 (Cal. Wynn Papers, 1160) yng Nghaercystennin. Yn 1626 priododd â Anne, merch Edward Williamot, 'masnachwr yn Llundain,' ond noder am ei werth fod y cyfenw hwnnw'n digwydd yn recordiau Biwmares hefyd. Sgrifennodd dri llyfr. Y pwysicaf ohonynt oedd The Merchantes Mappe of Commerce, 1638, ffrwyth 12 mlynedd o grwydro'r gwledydd, meddai ef. Math o hyfforddwr i fasnachwyr ydyw, yn cynnwys daearyddiaeth, gwybodaeth am gynhyrchion y gwahanol wledydd, manylion am eu harian bath, etc. Ar ei ddechrau, ceir 'anerchiadau barddonol' gan Izaak Walton y pysgodwr (cyfaill mawr i'r awdur), gan ei gâr Robert Roberts o Lanfair-yng-Nghornwy (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 74), a chan ei fab bychan Gabriel (isod), nad oedd ar y pryd ond 9 oed. Ailargraffwyd y llyfr. Y mae awgrym o fan arall y byddai Lewis Roberts ei hunan yn prydyddu - yn Saesneg. Bu farw yn 1640; claddwyd 12 Mawrth. O'i ddau lyfr arall, cyhoeddwyd The Treasure of Traffike yn 1640; yn hwn, y mae'n troi oddi wrth fanion ymarferol masnach at theori economeg wladol fel y deëllid hi yn ei ddydd. Credai y dylai'r wladwriaeth reoli masnach y wlad gan ei sianelu, megis, drwy gwmnïau neu gorfforaethau o fasnachwyr - ni chredai mewn cydymgais rhwng anturwyr unigol; diddorol hefyd yw ei weld yn argymell 'cenedlaetholi' yswiriant.

O'i blant, yr hynaf oedd Syr GABRIEL ROBERTS, 'Aleppo merchant,' a fu hefyd yn is-lywodraethwr yr Africa Company. Urddwyd ef yn farchog ddydd Calan 1678. Digwydd ei enw'n fynych yn y Memoirs of the Verney Family, iii, iv (mynegeion), a sieryd y rheini'n barchus iawn amdano. Am ei frawd WILLIAM ROBERTS : uniaethir hwn gan M. P. Ashley (Financial and Commercial Policy of the Protectorate, 1934) â'r Syr William Roberts a oedd yn un o gomisiynwyr y Trysorlys, ac yn 'auditor' iddo, dan y Weriniaeth (Firth and Rait, Acts … of the Interregnum, mynegeion); ond y mae'n anodd gweld sut y gallasai llanc na aned cyn 1630 fan gynharaf fod wedi dringo i safle mor bwysig erbyn 1649. Yn y Verney Memoirs gelwir William yn 'Mr.' Roberts, ac y mae'n eglur mai yn Aleppo yr oedd yn byw, yn 1662 beth bynnag, gan arolygu'r swyddfa yno dros ei frawd hyn yn Llundain; ni roddir gair da i'w 'falchder a'i benstiffrwydd.' O ddwy ferch Lewis Roberts, priododd ANN a George Hanger, marsiandiwr Lefantaidd cyfoethog, a bu eu mab John yn Reolwr Banc Lloegr; priododd DELICIA (Dilys?) â John Nelson 'Turkey merchant,' a hi oedd mam Robert Nelson .

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.