Yr oedd Ednyfed ap Cynwrig (bu farw 1246), a hawliai ddisgyn o Farchudd, yn aelod o un dosbarth o dwr o wehelythau a oedd wedi ymsefydlu ers hir amser yn Rhos a Rhufoniog. Efe oedd ' distain ' Gwynedd, c. 1215-1246 (A History of Wales , ii, 684-5), a gwobrwywyd ef am y gwasanaeth gwleidyddol a milwrol a roesai i Lywelyn Fawr trwy gael rhoddi iddo drefi caeth yn sir Fôn, yn Nantconwy, Arllechwedd Uchaf, a'r Creuddyn; rhoddwyd hefyd i holl ddisgynyddion ei daid, Iorwerth ap Gwrgan, yr hawl i ddal, o hyn allan, eu holl diroedd trwy gydol Cymru yn rhydd o bob taliadau a gwasanaethau oddigerth gwasanaeth milwrol yn adeg rhyfel. Y mae'r math arbennig hwn o ddeiliadaeth tir - fe'i gelwir yn eiddo ' Wyrion Eden ' - yn amlwg iawn yn y 14eg ganrif yn arglwyddiaeth Dinbych ymhlith canghennau cyfochrog y teulu (Survey of Denbigh, lv, 297, 303; T. P. Ellis, Tribal Law and Custom, i, 113). Yn yr un cyfnod ceir disgynyddion Ednyfed ei hunan yn nhrefgorddau Trecastell, Penmynydd, Erddreiniog, Clorach, Gwredog, Trysgiwyn, a Thregarnedd, sir Fôn, ac yng Nghrewyrion, Creuddyn, Gloddaeth, Dinorwig, a Chwmllannerth, Sir Gaernarfon (Rec. Caern., passim). Fe'u ceir hefyd yn Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin, ac yn Llechweddllwyfan, Cellan, a Rhydonnen, Sir Aberteifi (Cal. Pat. Rolls, 1225-32, 271; A History of Carmarthenshire, i, 178; Cal. Fine Rolls, 1327-37, 304; Cal. Inquisitions, vii, No. 418; Bridgeman, Princes of South Wales, 264). Hyd yn oed cyn concwest 1282, felly, yr oedd disgynyddion cynharaf Ednyfed yn ffurfio math o 'bendefigaeth swyddogol' a oedd yn bur gyfoethog; yr oedd y ffaith eu bod yn dal tiroedd a oedd mor helaeth ac wedi eu gwasgaru ar led hefyd, a hynny ar delerau mor ffariol, yn gwneuthur y bobl hyn yn rhagflaenwyr y dosbarth hwnnw o ysgwieriaid Cymreig y mae ei ddyfod i sylw yn elfen amlwg yn y cyfnod ar ôl y goncwest.
Nid ydyw'r tablau achau yn cytuno'n gyfan gwbl â'i gilydd ynglyn a nifer plant Ednyfed. Yn ystod y blynyddoedd y bu Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffydd (1240-62) yn teyrnasu y mae rhai o'i feibion yn flaenllaw ymysg cynghorwyr y tywysogion hyn. Am rai blynyddoedd cyn ei farw (yn 1268) yr oedd Goronwy ab Ednyfed yn ' ddistain ' i Lywelyn ap Gruffydd (A History of Wales , ii, 743; Litt. Wall., 4, 28, 45). Cymerwyd ei frawd, Tudur ab Ednyfed, i'r ddalfa yn ystod ymgyrch amhendant y brenin Harri III yn erbyn Dafydd ap Llywelyn ym mis Medi 1245, ac fe'i rhyddhawyd ym mis Mai 1247 wedi iddo dalu gwrogaeth i'r brenin. Serch iddo dderbyn arwyddion o ffafr y brenin yn y blynyddoedd dilynol, bu Tudur yn un o brif gynghorwyr Llywelyn ap Gruffydd ar ôl 1256, gan ddilyn ei frawd Goronwy ab Ednyfed fel ' distain ' a pharhau yn ffyddlon i'r tywysog hyd ei farw yn 1278. Dangosodd ei fab HEILYN gyfryw deyrngarwch; buasai ef yn wystl yn llaw y brenin rhwng 1246 a 1263, a bu iddo ymostwng o'r diwedd i Edward I yn 1282 (Littere Wallie, 3-4, 26, 50-2, 77, 85, 97-9, 101-3, 109, 111-3; Calendar of Close Rolls, 1242-7, 369, 457, 510; Calendar of Close Rolls, 1247-51, 5, 72, 518; Calendar of Close Rolls, 1256-9, 184, 207; Calendar of Close Rolls, 1261-4, 207; Calendar of Patent Rolls, 1232-47, '466, 496; Calendar of Patent Rolls, 1258-66, 248; Assize Roll, 9, 14, 118-22, 157, 261; Rec. Caern., 210-1). Y mae'n debyg nad aelod o'r llinach hon oedd y Goronwy ap Heilyn a geir yn y cyfnod 1277-82 (Assize Roll, passim).
Meibion eraill i Ednyfed yng ngwasanaeth tywysogion diweddarach Gwynedd oedd HYWEL (esgob Llanelwy, 1240-7), CYNWRIG, a RHYS (Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, i, 215; Litt. Wall., passim). Am Gruffydd ab Ednyfed a'i ddisgynyddion gweler Syr Gruffydd Llwyd.
O Goronwy ab Ednyfed (bu farw 1268) yr oedd ' Tuduriaid Penmynydd ' yn disgyn. Ymddengys fod ei fab TUDUR HEN (bu farw 1311), a'i wyr, GORONWY AP TUDUR (bu farw 1331) yn perthyn i'r dosbarth swyddogol Cymreig yr oedd eu ceraint, Syr Gruffydd Llwyd a Rhys ap Gruffydd, yn aelodau mor flaenllaw ohono. Yn y genhedlaeth nesaf ceir y brodyr TUDUR a HYWEL AP GORONWY, a fuont feirw ill dau c. 1367, yn meddiannu Trecastell, Erddreiniog, a hanner Penmynydd ym Môn a ' Gavell Gron ap Eden ' (a gynhwysai gnewyllyn ystad y Penrhyn wedi hynny) a hanner ' Gavell Kennyn ' yn Crewyrion yn Sir Gaernarfon, ynghyd â'r tiroedd yng Ngheredigion a enwyd uchod. Disgynnodd eu tiroedd ym Môn a Sir Gaernarfon i feibion Tudur - GORONWY PENMYNYDD (bu farw 1382), EDNYFED TRECASTELL (bu farw c. 1382), RHYS ERDDREINIOG, GWILYM CLORACH, a MAREDUDD - er na ellir bod yn sicr pa ran o diroedd y teulu a ddisgynnodd i Faredudd. Bu Goronwy, Rhys, a Gwilym yng ngosgordd bersonol y brenin Richard II. Y mae Maredudd, tad Owain Tudur a hendaid y brenin Harri VII, yn ffigur annelwig braidd (gweler 'Tuduriaid diweddar'); bu'n ' ysiedwr ' Môn cyn 1392 ac yn 1404 fe'i disgrifir fel ysgwïer i esgob Bangor. Bu'r tri brawd a oroesodd, a'u perthnasau agos, yn bleidwyr blaenllaw i Owain Glyndwr. Dienyddiwyd Rhys yng Nghaer yn 1412. Cymerwyd y rhan fwyaf o'u heiddo yn fforffed gan y Goron, a serch i gyfran ohono gael ei ddychwelyd yng nghwrs amser i ddisgynyddion Goronwy ap Tudur (bu farw 1382), bychan oedd dylanwad teulu Penmynydd o hyn ymlaen.
Y mae cysylltiad agos rhwng edwiniad y gangen hon o ddisgynyddion Ednyfed a chynnydd nodedig cangen arall - teulu GRUFFYDD y Penrhyn, a oedd yn hawlio disgyn o Dudur ab Ednyfed Fychan. Nid oedd aelodau'r teulu hwn yn flaenllaw yn y 14eg ganrif; gwir sefydlydd ffortiwn y teulu oedd GWILIM AP GRUFFYDD (c. 1370 - 1431), a oedd yn disgyn yn bumed o Dudur ab Ednyfed. Yr oedd ei fam, Generys ferch Madog, yn gâr i'r ' Tuduriaid '; trwy ei wraig gyntaf, Morfydd ferch Goronwy ap Tudur, Penmynydd, ymddengys i Gwilym ap Gruffydd etifeddu cnewyllyn ystad y Penrhyn, yn cynnwys y Penrhyn ei hunan. Yn wahanol i bron bob un o'i geraint, y Tuduriaid, bu ef yn deyrngar i'r Goron yn ystod gwrthryfel Glyndwr; yn ychwanegol at y tiroedd ' Tuduraidd ' a ddaeth iddo trwy ei briodas gyntaf, prynodd y rhan helaeth o diroedd fforffed y teulu a thrwy hynny gosododd seiliau ystad y Penrhyn ym Môn a Sir Gaernarfon. Bu ei fab (bu farw c. 1470), ei wyr (bu farw 1485), a'i or-wyr (bu farw 1531) - WILLIAM oedd enw bedydd y tri - yn dal swydd siambrlen Gwynedd. Yn oes Piers Gruffydd (1568 - 1628), wyr y Syr William Gruffydd diwethaf, gwerthwyd yr ystadau - buasid wedi benthyca arian yn drwm arnynt; fe'u prynwyd maes o law (sef c. 1622) gan John Williams, archesgob Caerefrog, a oedd yntau yn disgyn o gangen Cochwillan y teulu. Is-geinciau eraill o gangen Cochwillan oedd teuluoedd Williams, Meillionydd, a Williams, Vaenol, Sir Gaernarfon; yr oedd teuluoedd Griffith, Carreglwyd, a Griffith, Plasnewydd, sir Fôn, yn ddisgynyddion Syr William Gruffydd, siambrlen cyntaf Gwynedd. Ar wahân i'r disgynyddion hyn, ar yr ochr wrywol nid oes brin deulu tiriog yng Ngogledd Cymru nad yw'n hawlio ei fod yn disgyn o Ednyfed Fychan - os nad ar yr ochr wrywol yna ar yr ochr fenywol.
Bu gan Ednyfed Fychan ddwy wraig: 1) Tangwystl ferch Llywarch ap Brân, (mam i chwech o blant, gan gynnwys Tudur a Hywel); 2) Gwenllian ferch yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth (bu farw 1236), mam Goronwy, Gruffydd, Gwladus a Gwenllian. P. C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (1974), 'Marchudd 4'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.