BRIDGEMAN, GEORGE THOMAS ORLANDO (1823 - 1895), clerigwr, hynafiaethydd ac achyddwr

Enw: George Thomas Orlando Bridgeman
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1895
Rhiant: Bridgeman
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, hynafiaethydd ac achyddwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 21 Awst 1823 yn ail fab i ail iarll Bradford; disgynnai o'r Syr Orlando Bridgeman (gweler D.N.B.) â fu'n geidwad y sêl dan Siarl II; yr oedd i'r teulu gysylltiadau priodasol â Sir Amwythig ac a Myddeltoniaid y Waun. Addysgwyd ef yn Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt - graddiodd yn 1845. Wedi bod yn rheithor yn Sir Amwythig, cafodd yn 1864 reithoraeth deuluol Wigan, ac yno y bu farw 25 Tachwedd 1895. Sgrifennodd lyfr ar hanes Wigan.

Ond teimlai hefyd ddiddordeb mawr yng nghysylltiadau ei deulu â'r goror Cymreig. Cyfrannodd i Archæologia Cambrensis 1863 ysgrif ar 'The Ancient Lords of Mechain,' ac i Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire ysgrifau ar 'The Princes of Upper Powys ' a 'The Welsh Lords of Kerry and Arwystli' - y ddwy yn 1868. Cyhoeddodd yn 1876 ei gyfrol ddefnyddiol iawn History of the Princes of South Wales - nid 'hanes' yn ystyr gyffredin y gair, ond yn hytrach gasgliad o ffeithiau achyddol nid yw'n rhwydd i'w ddarllen ond y mae ynddo swm mawr o fanylion nas ceir yn hwylus yn unman arall.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.