MYDDELTON (MYDDLETON, MIDDLETON) (TEULU), Gwaenynog, Dinbych, Chirk, (Castell y Waun), a Rhuthyn (yn sir Ddinbych), Llundain, ac Essex

Hawliai teuluoedd Myddelton sir Ddinbych eu bod yn tarddu o Rhirid Flaidd, arglwydd Penllyn (bu farw 1207), eithr mabwysiadasant y cyfenw Saesneg ar ôl priodas ei ddisgynnydd Rhirid ap David (c. 1393-4), a merch Syr Alexander Myddelton, Myddelton, Swydd Amwythig. Yr oedd ei or-wyr DAVID MYDDELTON yn dderbynnydd ('receiver') Gogledd Cymru o dan Edward IV a Richard III. Ymsefydlodd mab hynaf David yn Gwaenynog; daeth ei drydydd mab ef, FOULK MYDDELTON, yn llywiawdr castell Dinbych, a dilynwyd yntau yno gan ei aer RICHARD MYDDELTON (c. 1508 - 1575), aelod seneddol dros sir Ddinbych, 1542. Bu i Richard naw mab; dilynodd un ohonynt ei dad yn llywiawdr castell Dinbych; ymfudodd tri i Lundain ac aeth un dros y môr; a bu ROBERT MYDDELTON, brawd Richard, yn cynrychioli'r fwrdeisdref yn Senedd 1547.

Pedwerydd mab Richard Myddelton oedd

Syr THOMAS MYDDELTON (1550 - 1631), gwr mewn busnes

Cafodd ei brentisio gyda groser yn Llundain, cafodd ryddfreiniad y ' Grocers Company ' (1582), daeth yn ' Surveyor of the outports ' (c. 1580), ac o c. 1595 ymlaen yr oeddid yn wastad yn gwneuthur defnydd ohono mewn gwahanol fathau o fusnes y wladwriaeth - prisio llwythi llongau a gipiasid ar y môr neu mewn rhyfeloedd, casglu ynghyd adnoddau milwrol a llyngesol ar fyr rybudd yn herwydd yr enw da a oedd iddo ym myd masnach ac arian, a gofyn ei farn ar gwestiynau cyllidol. Ceir syniad am ehangder ei drafodaethau ym myd husnes a dyfnder ei dduwioldeb os astudir ei lyfr cyfrifon (sydd hefyd yn ddyddiadur) am y blynyddoedd 1583-1603, sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol (yng nghasgliad llawysgrifau a dogfennau castell Chirk). Yr oedd yn un o gyfran-ddalwyr gwreiddiol yr ' East India Company,' yn bartner ym mhrif ymgyrchoedd môr-herwyr cyfnod Elisabeth, ac, yn amser Iago I, yn yr anturiaeth honno ynglyn â Llundain y cysylltir enw ei frawd Hugh (isod) â hi, sef y ' New River,' ac yn y ' Virginia Company '; yr oedd yn fancer ac yn echwynnwr arian ar raddfa eang - ac yn gweithredu felly yn aml gyda John Williams, gof aur Iago I. Parhaodd yn glos ei gysylltiad â Chymru - bu'n cyfryngu ar ran ei gyd-fwrdeisiaid yn Ninbych yn erbyn ymwthiadau aelodau teulu Salusbury, Llewenni, yn 1593; bu'n cynrychioli sir Feirionnydd (lle yr oedd ganddo diroedd) yn Senedd 1597 ac yn arglwyddraglaw y sir honno yn 1599 ac yn gynghorwr i'r Llywodraeth ynglyn â dewis siryfon Meirionnydd yn 1602 (Hist. MSS. Com., Cecil, iv, 375-6; v, 379; xii, 482-3). Yr oedd yn amaethu tiroedd yn sir Ddinbych ac yn sir Lincoln ac yn tynnu adnoddau ohonynt i'w hanfon i Iwerddon yn ystod argyfwng yn ymgyrch Bagnall (1595); yr oedd yn echwynna arian ar diroedd neu eiddo (ac ar brydiau heb gael sicrwydd am ad-daliad) i'w gymdogion yng Ngogledd Cymru ac i Gymry yn y De ac yn Llundain, a thrwy hynny yn cymryd rhan gwr o ddylanwad yn nhwf y teuluoedd tiriog yn y siroedd (gweler N.L.W. Jnl., i, 85-6; N.L.W. Plymouth deeds 822, 913-4, 916; U.C.N.W., Nannau Hengwrt MSS. 189, 207, 229, 240, 273, 287, 339-40, 357; Cal. Wynn Papers, 1017; Cal. Clenennau Letters and Papers, letters 293, 453). Prynodd yn 1595 (gan arglwydd St. John Bletsloe) gastell ac arglwyddiaeth y Waun; yn 1628-9 prynodd arglwyddiaeth (y Goron) Arwystli a Chyfeiliog (a'i gwerthu yn ddiweddarach). Ar ôl 1603 (wedi iddo lwyddo i ymgadw am gyfnod hir rhag cymryd swyddi dinesig) fe'i gwnaethpwyd yn aldramon ac yn siryf dinas Llundain (21 Mehefin) ac yn farchog (26 Gorffennaf) canolbwyntir ei ddiddordebau fwy a mwy yn Llundain a'r cylch; daeth yn arglwydd faer y ddinas yn 1613; prynodd yn 1615 faenor yn Essex fel cartref iddo'i hun yn y wlad - yn nes na chastell y Waun at ganolfan ei fasnach a'i fusnes yn Tower Street, Llundain; prynodd diroedd eraill yn y siroedd y tu allan i Lundain yn 1623, a bu'n cynrychioli dinas Llundain yn nhair Senedd 1624-6. Ac eto i gyd, yn niwedd ei oes, fe'i ceir yn cydweithredu â Rowland Heylyn i fod yn gyfrifol, yn ariannol, am gyhoeddi'r Beibl llogell cyntaf yn Gymraeg ('Beibl Bach 1630'). Bu farw 12 Awst 1631 a gadael ei stadau yng Nghymru i'r hynaf o'i feibion a oedd yn fyw, sef Thomas Myddelton (isod), a'i diroedd yn Essex i fab iau, Timothy Myddelton, gwr a sefydlodd linach gyfoethog y bu iddi ran bwysig ym mywyd cyhoeddus Essex. Er cryfed ydoedd ei Biwritaniaeth ni pheidiodd â rhoddi lloches a dangos cyfeillgarwch i'w frawd William Myddelton a oedd yn Babydd, a briodasai ferch o Fflandrys, ac a oedd yn byw yn y wlad honno ac yn ymgyfathrachu â Hugh Owen, Plas Du, Pabydd a chynllwyniwr; caiff y William Myddelton hwn ei gymysgu weithiau â'i gefnder William Midleton ('Gwilym Canoldref'), y bardd. Yr oedd brawd arall, Robert Myddelton, yn fenygwr yn Llundain; bu hwnnw'n cynrychioli Weymouth yn y Senedd, lle yr oedd yn rhydd ei feirniadaeth ar bolisi masnachol Iago, eithr, heblaw ei fod yn un o rydd-freinwyr tref Dinbych (1615), ni chymerodd unrhyw ran mewn materion Cymreig; yr un modd ei nai, Richard Myddelton, a oedd, fel Syr Thomas Myddelton, yn rhydd-freiniwr y Grocers' Company, yn gyfrannwr yn y ' New River Company,' yn delio mewn crwyn yn rhannau pellaf y Môr Canoldir, ac yn gwasnaethu fel 'consul' o dan y 'Levant Company' (c. 1651-3). Cwympodd nai arall i ddwylo'r Sbaenwyr yn ystod mordaith olaf Syr Francis Drake (1595-6); efallai mai ef ydoedd yr un a noddodd 'ddarlithyddiaeth' yn Hwlffordd - gweler o dan Dolben.

Mab ieuengaf Richard Myddelton, Dinbych (uchod), oedd

Syr HUGH MYDDELTON (1560 - 1631), masnachwr

ar raddfa eang, fel ei frawd Syr Thomas Myddelton (uchod). Bu iddo ran bwysig yn y gwaith o gael siarter newydd i dref Dinbych (1596), bu'n aldramon a chofiadur o dan y siarter newydd hon, a chynrychiolodd y fwrdeisdref yn y Senedd, eithr heb ennill enw iddo'i hun fel seneddwr, o 1603 hyd 1628. Chwilio am lo (eithr yn aflwyddiannus) yn Nyffryn Clwyd ydoedd ei anturiaeth gyntaf. Ar gynllun y ' New River ' i wella cyflenwad dwr i Lundain y mae ei enwogrwydd yn sefyll; o'i enillion fel gof aur (y busnes y prentisiwyd ef iddo) ac mewn mathau eraill o fusnes y cafodd arian at yr antur hon ar y cyntaf (1609); yna, yn 1613, mewn cydweithrediad â'r Goron; ac yn ddiweddarach trwy ffurfio cwmni ymgorfforedig - er na chafwyd dim llogau ar arian yr antur yn ystod ei fywyd ef ei hun. Yn 1617 cymerodd brydles ar weithydd mwyn y ' Mines Royal Company ' yn Sir Aberteifi; er gwaethaf gwrthwynebiad cryf fe lwyddodd i raddau helaeth gyda'r gwaith - rhoes gwpanau o arian a gloddiwyd yn y sir i gorfforaethau Dinbych a Rhuthyn a chwpan aur i bennaeth ei gangen ef ei hun o'r Myddeltoniaid yng Ngwaenynog. Eithr gwrthododd dderbyn gwahoddiad Syr John Wynn o Wydir (1625) i ymgymryd â'r gwaith o adennill tir oddi ar y môr yn y Traeth Mawr, gwaith tebyg i hwnnw yr oedd newydd orffen ceisio ei wneuthur (eithr heb lwyddo, a cholli ohono lawer o arian yn y fenter) yn Ynys Wyth gyda Syr Bevis Thelwall, yntau hefyd yn wr o sir Ddinbych (Cal. Wynn Papers, 1366-7). Gwnaethpwyd ef yn farwnig - ' Hugh Middleton of Ruthin, citizen and goldsmith of London ' - ar 19 Hydref 1622. Bu farw ar 10 Rhagfyr 1631 yn ei gartref yn Cheapside, Llundain.

Aer Syr Hugh Myddelton oedd

Syr WILLIAM MYDDELTON yr ail farwnig, (a fu farw 1651)

Dywedir iddo ddioddef o dan erledigaeth Laud. Yr oedd yn bleidiol i'r Senedd yn ystod y Rhyfel Cartrefol, gan gynorthwyo ar y dechrau fel unigolyn preifat ac wedyn trwy godi catrawd o wyr traed a arweiniodd ef ei hun i helpu ei gefnder, Syr Thomas Myddelton (isod), yn ymgyrch hwnnw yng Nghymru yn 1644. Bu hefyd yn gofalu yn ystod y rhyfel am fuddiannau y ' New River Company,' cwmni yr oedd ef yn un o'i lywiawdwyr. Bu am gyfnod yn 1646 yn dal y swydd o lywiawdr castell Dinbych - swydd y teulu fel petai; fe'i dewiswyd yn aelod cyffredin o gyngor y fwrdeisdref honno yn 1647 ac fe'i dewiswyd yn gomisiynwr trethi, etc., yn y sir yn yr un flwyddyn. Eithr ni bu ef yn aelod seneddol dros ran o Gymru (fel y dywedir yn G.E.C., Baronetage, i, 209-10), fwy nag y bu ei fab, Syr HUGH MYDDELTON, y 3ydd barwnig, a garcharwyd yn 1659 am gynllwynio o blaid Siarl II (fe'i 'prynwyd allan' gan ei berthnasau yng nghastell y Waun) ac a aeth, yn ddiweddarach, i wasnaethu Iago (Iago II wedi hynny). Dewiswyd ei fab ef, Syr HUGH MYDDELTON arall, yn aelod cyffredin o gyngor bwrdeisdref Dinbych yn 1681. Eithr daeth y teitl i'w derfyn - o'r hyn lleiaf i fath o drymgwsg - pan fu Syr HUGH MYDDELTON, y 6ed barwnig a gwr drwg ei foesau, farw yn 1723, mewn tlodi ac aflendid mawr, serch na ddaeth y teitl i'w derfyn yn gyfreithiol hyd 1828. Bu HENRY MYDDELTON (1607 -?), mab iau y Syr Hugh Myddelton cyntaf, a chyfran-ddaliwr yn y ' New River Company,' yn ymladd ym mhlaid y Senedd serch ei fod yn dal swyddi proffidiol o dan y Goron, a bu'n un o warcheidwaid y brenin Siarl yn Holmby.

Syr THOMAS MYDDELTON (1586 - 1667), pennaeth ym myddin y Senedd

Mab hynaf (a oroesodd ei dad) Syr Thomas Myddelton, arglwydd faer Llundain (uchod) ydoedd ef. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen (ymaelododd 22 Chwefror 1605), ac yn Gray's Inn (1607). Priododd, 1612, ferch i deulu Savile, Yorkshire; ymsefydlodd yng Nghastell y Waun; cymerodd ei ran mewn llywodraeth leol ac mewn cwerylon gyda chymdogion megis teulu Trevor, ' Brynkynallt ', ac Edwards o'r Waun - cwerylon a'i dug (1625) i ateb achwynion iddo beri cythrwfl yn ei dy. Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1617 (10 Chwefror) a thua'r un adeg priododd ei ail wraig Mary Napier, a oedd i ddyfod yn chwaer-yng-nghyfraith i Thomas Mytton. Pan olynodd ei dad yn arglwydd y Waun, chwanegodd at ei diroedd yng Ngogledd Cymru gan brynu castell Rhuthyn (1632) a chael stiwardiaeth arglwyddiaeth Rhuthyn (20 Hydref 1635). Aeth i'r Senedd gan ddilyn ei ewythr Robert (uchod) fel aelod seneddol dros fwrdeisdref 'boced' Weymouth (1624), ond ar ôl cael ei ailethol yno (1625) darbwyllodd Syr Eubule Thelwall (yr aelod seneddol dros sir Ddinbych yn 1624) i gyfnewid seddau ag ef. Pan ailetholwyd ef dros y sir, i'r Senedd Faith, ceisiodd dymheru sêl ei gyd- Biwritaniaid er mwyn cau'r rhengoedd yn wyneb y galluoedd pabyddol ar y Cyfandir, ac eisteddodd ar amryw bwyllgorau yn delio â materion crefyddol, eithr nid oedd yn amlwg yn nadleuon Ty'r Cyffredin. Ym mis Mehefin 1642 fe'i danfonwyd i roddi'r gorchmynion a'r trefniadau ynglyn â'r milisia mewn grym yn sir Ddinbych; yno cafodd ei wrthwynebu gan deulu Salusbury, Llewenni a Trevor, Brynkynallt; o dan ddylanwad y rhain mynegodd y sir o blaid y brenin, gorfodwyd tenantiaid Syr Thomas i ymrwymo mewn llw yn ei erbyn, rhwystrwyd ef i fynd i gastell y Waun, a gymerasid gan Robert Ellice ac a ddelid gan Syr Thomas Hanmer, ac anfonwyd ei stiward Watkin Kyffin yn garcharor i gastell Caer.

Ar 12 Gorffennaf 1643 gwnaethpwyd Syr Thomas Myddelton gan y Senedd yn ' sergeant major general ' dros Ogledd Cymru; yn ôl y comisiwn ('ordinance') a dderbyniodd (fe'i hadnewyddwyd ac ychwanegu ato yn 1644 ac yn 1645) awdurdodid ef i godi byddinoedd ac, i'r pwrpas hwnnw, i gymryd eiddo oddi ar y rhai a wrthodai gydweithio â phlaid y Senedd. Gwarantodd y Senedd y £5,000 a roes ef yn fenthyg wrth gychwyn ar y gwaith, ac ychwanegu addewid am ad-dalu unrhyw symiau eraill y gallai eu benthyca yn rhinwedd ei enw da ei hun. Rhoddwyd iddo hefyd, yn ddiweddarach, werth eiddo a gymerwyd oddi ar rai yn Llundain a'r cylch a wrthodai gydweithio â'r Senedd, gan gynnwys eiddo rhai o'r cyfran-ddalwyr yn ' New River Company ' ei ewythr. Yr oedd yr holl drefniadau ariannol hyn i'w rhoddi mewn grym, ar gost 'delinquents' lleol, cyn gynted ag y gorchfygid Gogledd Cymru gan fyddin y Senedd (gweler dogfen 10 Chwefror 1646 yng nghasgliad Brogyntyn yn y Llyfrgell Genedlaethol), eithr honnai Myddelton iddo golli £35,000 o'i arian ei hun. Yn y cyfamser, ar ôl cyrch llwyddiannus ar oror Cymru (25 Gorffennaf - 7 Tachwedd 1643) mewn cydweithrediad â Thomas Mytton a Syr William Brereton, amharwyd ar ei dreiddiad cyntaf i Ogledd Cymru (dros bont Holt) gan wrthsafiad William Salusbury yn Ninbych a glanio milwyr o Iwerddon ar lan y môr yn Sir y Fflint (18 Tachwedd); yr unig ennill parhaol a gafodd ydoedd ychydig filwyr o Gymry i'w hychwanegu at ei fyddin, a'r bwledi a wnaethpwyd o bibellau organ eglwys Wrecsam, lle yr oedd ei bencadlys. Fodd bynnag, wedi'r coll amser (hyd Mai 1644) a achosid gan orfod ailgodi milwyr a chael adnoddau milwrol newydd, gan wrthryfel mewnol ymhlith y milwyr, a chan ymarferiadau milwrol byddin y tywysog Rupert (a barai i Syr Thomas orfod aros braidd yn anniddig ar y goror hyd fis Awst), treiddiodd i Sir Drefaldwyn, daeth i delerau â Edward Herbert, Cherbury, (a oedd yn amddiffyn castell Trefaldwyn), ynglyn â chymryd y castell hwnnw drosodd, cafodd fuddugoliaeth fawr (17 Medi), daeth yn sydyn at y Castell Coch ym Mhowys a chymryd yr arglwydd Powis yn garcharor (2 Hydref); rhoes y Castell Coch yng ngofal Syr John Price, trechodd yn Machynlleth (27 Tachwedd) ymdrech a wnaethpwyd i atal atgyfnerthion o Dde Cymru rhag cyrraedd hyd ato, a llwyddodd yn ei dreiddiad cyntaf i sir Faesyfed (Rhagfyr). Methodd ennill ei gestyll ef ei hun, sef Rhuthyn a Chastell y Waun, ac adennill ei safle yn sir Ddinbych. Fe'i galwyd yn ôl gan y ' Self-Denying Ordinance ' (3 Ebrill 1645) i Westminster a throsglwyddodd ei swydd fel pennaeth y fyddin i Thomas Mytton (12 Mai) - er na adawodd faes y gad hyd fis Mehefin.

Parhaodd Syr Thomas i gydweithio â'r adran Biwritanaidd a oedd yn ddylanwadol ar y pryd; yn ôl yr archesgob John Williams yr oedd yn ymddwyn braidd yn greulon yn y gwaith o fwrw allan offeiriaid yng Nghymru a wrthodai gymryd y 'Cyfamod' (a gymerasai ef ei hun ar 22 Medi 1643), hyd yn oed pan nad oedd rhai i'w cael i gymryd eu lle. Rhoddwyd iddo'r gorchwyl (unwaith yn rhagor) o amddiffyn Gogledd Cymru (16 Mehefin 1648) yn yr ail Ryfel Cartrefol er mai yng ngofal Mytton yr oedd y milwrio. Eithr yr oedd yn erbyn gosod y brenin ar ei brawf ac fe'i hanfonwyd o'r Ty gan ' Pride's Purge ' (Rhagfyr 1648) ac ymneilltuodd i gastell y Waun. Bu adroddiadau (ym mis Mawrth 1651) ei fod yn delio â Siarl II trwy iarll Derby, a pharodd hyn i'r Senedd anfon gwarchodlu i'w gastell; nid aethpwyd â'r gwarchodlu hwn ymaith nes iddo ef brofi, mewn modd a'i tlododd, ei fod yn deyrngarol i'r Werinlywodraeth (18 Mai). Parodd hyn iddo wrthod gwahoddiad Siarl (o Stoke, ar 17 Awst) i ymuno ag ef ar ei daith i lawr ar hyd y goror (Whitelock, Memorials, iii, 335). Bu'n ymguddio am gyfnod yn Lloegr cyn dyfod i fyw bywyd bonheddwr tiriog yng nghastell y Waun - yn datblygu gwaith glo ar ei stad a mynd i ambell redegfa geffylau neu ymladd ceiliogod. Arwyddodd y ddeiseb o Ogledd Cymru yn erbyn y ' Propagation Act ' ym mis Gorffennaf 1652 (Cal. Wynn Papers, 1988), ond safodd wrth gefn y Diffynwriaeth yn erbyn cynllwynion Breniniaethwyr yng Ngogledd Cymru yng ngwanwyn 1655 (Thurloe State Papers, iii, 209, 298. Eithr ar 7 Awst 1659 ymunodd â Syr George Booth i gael cymorth yng Ngogledd Cymru a sir Gaer i Siarl, cyhoeddodd Siarl yn frenin, yn Wrecsam (C.J., vii, 753; cf. Calendar of State Papers, Domestic Series, 1659-60, 162); datganwyd, ar 9 Awst, ei fod yn fradwr, cafodd ei orchfygu (gyda Booth) gan Lambert gerllaw Nantwich (18 Awst), eithr dihangodd rhag cael ei gymryd yn garcharor, a chondemniwyd ef i orfod dioddef colli ei eiddo. Cyn i'r gorchymyn ynglyn â'i eiddo gael ei roddi mewn grym fe'i gwysiwyd ef yn ôl i Westminster gyda'r aelodau eraill a alltudiwyd o Senedd y 'Rump' (21 Chwefror 1660) ac ar 27 Chwefror gohiriwyd y penderfyniad ynglyn â'i eiddo. Eithr yr oedd y gwaith o ddatgaeru ei gastell wedi mynd rhagddo gymaint nes peri na ellid byw ynddo hyd 1672 - bu'r teulu'n byw yn y cyfamser yng Nghefn-y-wern. Rhoddwyd Myddelton yn ôl ar gomisiwn milisia ei sir ym mis Mawrth 1660 a dewiswyd ef i'w chynrychioli yn Senedd y 'Convention' ym mis Ebrill, a gwrthwynebodd roddi dyrchafiad i John Glynne am i hwnnw dderbyn swydd o dan y rhai a laddodd y brenin (Cal. Wynn Papers, 2240). Gwrthwynebwyd gan y rhydd-ddeiliaid ei gais i brynu arglwyddiaeth Rhuthyn gan y Goron ym mis Medi 1660 a bu raid iddo aros hyd 1677 cyn llwyddo i'w phrynu. Bu farw yng Nghefn-y-wern 22 Ionawr 1667. Fe'i cyfrifai ei hun yn Gymro er mai prin, efallai, y medrai siarad Cymraeg.

Syr THOMAS MYDDELTON (c. 1624 - 1663), y barwnig 1af

Mab Syr Thomas Myddelton (1586 - 1667). Bu ef yn Rhydychen (ymaelododd yng Ngholeg Oriel, 20 Mawrth 1640), a gadael y brifysgol mewn pryd i weithredu fel dolen gydiol rhwng Ty'r Cyffredin a phencadlys ei dad pan oedd hwnnw ar oror Cymru. Yn 1646 fe'i gwnaethpwyd yn llywiawdr castell y Waun (7 Mawrth), yn ddirprwy-raglaw sir Ddinbych (2 Gorffennaf), ac yn aelod seneddol dros sir y Fflint yn lle Syr John Salusbury, Bachegraig, y gomeddid iddo fynd i'r Ty oherwydd ei fod yn Frenhinwr. Yr oedd, fel ei dad, yn gomisiynwr trethi, etc., yn y sir yn 1647, ac o dan y ' North Wales Association ' yn 1648 (21 Awst), eithr eto fel ei dad, fe'i hanfonwyd o Dy'r Cyffredin ym mis Rhagfyr. Pan wrthryfelodd Booth bu'n dal castell y Waun dros Siarl II (hyd yn oed wedi i Booth gael ei orchfygu) hyd 24 Awst 1659, pryd y caniatawyd iddo hyd ddeufis i ymadael â'r wlad os na châi bardwn gan y Senedd yn y cyfamser. Anfonodd ef a thri brawd a oedd gydag ef yn y castell betisiwn i Senedd (adnewyddedig) y 'Rump ' ar 5 Hydref, eithr ni chafwyd dyfarniad cyn i Senedd y 'Rump' roddi'r ffordd i Senedd y 'Convention'; yn y Senedd honno yr oedd yn cynrychioli Trefaldwyn (yr oedd wedi curo Charles Lloyd, Leighton) ac yr oedd yn un o'r saith aelod a ddewiswyd i godi £50,000 i'w hanfon i Siarl II ym Mharis (26 Ebrill). Yn yr un mis dewiswyd ef yn bennaeth milisia siroedd Dinbych, Meirionnydd, a Threfaldwyn (N.L.W. Llanfair and Brynodol MSS., b. 94). Cafodd ei anrhegu am ei wasanaeth trwy gael ei wneuthur yn farwnig (4 Gorffennaf 1660) ac etholwyd ef dros sir Ddinbych i'r ' Senedd Gafalîr' yn erbyn peth gwrthwynebiad o orllewin y sir a arweinid gan dad Robert Price, Giler - a gweler Cal. Wynn Papers, 2294. Priododd, yn ail wraig, chwaer Syr John Trevor (1637 - 1717), Brynkynallt. Bu farw yn ystod sesiwn y Senedd. O 1679 hyd 1715 ei deulu ef yn unig a fu'n cynrychioli'r sir yn y Senedd oddieithr yn 1681 pan lwyddodd y Tori, Syr John Trevor (1637 - 1717), i orchfygu Richard Myddelton, Chwig (y 3ydd barwnig yn ddiweddarach); heriodd brawd hyn Richard, sef Syr Thomas Myddelton, yr ail farwnig, Syr John Trevor, i ymladd gornest ag ef oherwydd i hwnnw alw eu taid yn fradwr (N.L.W. Chirk Castle MS. E. 53; Cust, Chronicles of Erthig, i, 51). Trwy gydol rhan fwyaf y 18fed ganrif bu aelodau teulu'r Mydltoniaid yn cynrychioli'r fwrdeisdref hefyd yn y Senedd. Yn y cyfnod hwn buont hefyd yn datblygu eu gweithydd glo yn Black Park, a'u ffwrnais toddi haearn ym Mhont-y-blew. Daeth y farwnigiaeth i'w therfyn gyda marw Syr WILLIAM MYDDELTON, 4ydd barwnig, yn 1718 (yn 24 oed); aeth y stad, yn olynol, i ROBERT MYDDELTON (bu farw 1733) a JOHN MYDDELTON (bu farw 1747), dau fab brawd iau i'r barwnig 1af. Buasai John Myddelton, gan ddilyn traddodiad cynnar y teulu, yn farsiandwr yn ninas Llundain. Pan fu Richard Myddelton, wyr John, farw yn 1796, aeth yr eiddo i'w chwaer hynaf Charlotte (sef chwaer Richard Myddelton) a thrwyddi hi i'w gor-or-wyr, y perchennog presennol.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.