TREVOR (TEULU), Brynkynallt, sir Ddinbych

Y mae canghennau lluosog Treforiaid sir Ddinbych yn disgyn o Tudur Trevor (fl. 940), mab-yng-nghyfraith Hywel Dda a 'brenin' honedig tir y gororau o'r ddwy Faelor i lawr hyd Gaerloyw; etifeddodd ei ail fab ef, a fu farw yn 1037, diroedd yng nghyffiniau y Waun (Chirk) a gynhwysir yn awr o dan enw stad Brynkynallt; sefydlwyd y cyfenw yn amser ei ddisgynnydd ef 'John Trevor hên' (a fu farw 1453). Daeth aelodau'r teulu yn adnabyddus oherwydd eu cwerylon parhaus gyda'u cymdogion - teulu Kyffin, ac, yn ddiweddarach, teulu Myddelton; parhaodd y cwerylon â'r Miltwniaid hyd ddechrau'r 18fed ganrif (Wynn, The history of the Gwydir family , arg. 1927, 41-5; Edwards, Star Chamber Proceedings, 68; Myddelton, Chirk Castle Accts., 1605-66, 14 and n.; Cust, Chronicles of Erthig, i, 51, 57).

Cychwynnydd cyfnod blodeuog y teulu oedd

Syr EDWARD TREVOR (bu farw 1642)

Aeth i Iwerddon gydag Edward Blayney, Gregynog yn gapten yn y cyrch a wnaethpwyd i geisio gwella pethau ar ôl trychineb Blackwater (c. 11 Medi 1598). Arhosodd yno yn rhan o'r gwarchodlu; cafodd ei glwyfo a'i ganmol am wrhydri personol yn 1600; a phriododd Rose Ussher, merch yr archesgob; cafodd stad yn County Down (a'i galw yn Rostrevor) a bu'n cynorthwyo i 'blannu' Ulster. Rhoddwyd pensiwn iddo (c. 1605), urddwyd ef yn farchog gan yr arglwydd-ddirprwy (5 Tachwedd 1617), a'i wneuthur yn aelod o Gyfrin Gyngor Iwerddon (c. 1623) gan Iago I, cynrychiolodd Newtown (Co. Down) yn Senedd 1634, eithr syrthiodd i ddwylo'r gwrthryfelwyr ym mis Tachwedd 1641 a bu farw yn fuan wedi ei ryddhau y flwyddyn ddilynol. Yn 1619 yr oedd wedi adeiladu plasty presennol Brynkynallt (yn ôl cynlluniau a baratôdd Inigo Jones, medd traddodiad); ychwanegwyd at y tŷ yn y dull Gothig yn ddiweddarach gan ail is-iarll Dungannon (1763 - 1837).

Ei aer oedd

JOHN TREVOR (bu farw c. 1643)

Priododd lysferch Syr Edward, sef Margaret, merch John Jeffreys, Acton (taid y barnwr Jeffreys), ac a gafodd ei addysg yn y Middle Temple (1620). Cafodd y bodlonrwydd, yn rhinwedd ei swydd fel comisiynwr casglu milwyr ac offer rhyfel yng ngwasanaeth Siarl I, o helpu i gyd-gynnull pobl dwyrain sir Ddinbych yn erbyn ei hen elyn, Syr Thomas Myddelton (1586 - 1666).

ARTHUR TREVOR (bu farw c. 1666), barnwr

Mab iau Syr Edward a'i wraig gyntaf. Dygwyd ef i fyny yn y gyfraith - aeth i'r Middle Temple ar 3 Tachwedd 1624 a daeth yn fargyfreithiwr ar 10 Chwefror 1633. Yn 1641 ymddangosodd ar ran y 13 esgob a gyhuddwyd ('impeached') gan Dŷ'r Cyffredin; ym mis Chwefror y flwyddyn ddilynol anfonodd betisiwn i'r Senedd i geisio cael rhyddhau ei dad yn Iwerddon; ac ym mis Ebrill 1642 yr oedd yn cyfarwyddo Edward Herbert (a fu farw 1657) pan oedd hwnnw yn ateb cyhuddiad ('impeachment') yn Nhŷ'r Cyffredin. Pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan, ymunodd â phlaid y brenin yn Rhydychen fel cyfreithiwr. Oddi yno anfonwyd ef ar negesau amrywiol; ei waith ar un neges oedd ceisio distewi anghydwelediadau a achoswyd yn Ne Cymru (Rhagfyr 1642) gan natur yr awdurdod milwrol annibynnol a roesid i'r arglwydd Herbert (iarll Glamorgan wedi hynny; gweler dan Somerset). Ddeuddeng mis yn ddiweddarach daeth yn gynrychiolydd cyflogedig yn y llys, dros Ormond, arglwydd-raglaw Iwerddon, ac erbyn Chwefror 1644 yr oedd yng ngwasanaeth y tywysog Rupert; pwysodd ar y llys i ddewis Rupert yn llywydd cyngor y goror, gan ei ddilyn yno i ddechrau ar ei swydd newydd ym mis Ebrill, a'i gynorthwyo i gadw mewn cyswllt â'r archesgob John Williams. Ysgrifennodd adroddiadau llygad-dyst o amryw o'r cyrchoedd yn y rhyfel, a maes o law cymerth ran ei hunan fel lifftenant-cyrnol yng nghyrchoedd 1645-6 yn y de-orllewin, lle y cymerwyd ef i'r ddalfa a'i garcharu ym Mryste (o Ebrill hyd Rhagfyr 1646) hyd nes y bu iddo dalu ('compounded') yn ôl y degfed, £40. Wedi iddo gael ei garcharu unwaith yn rhagor ym mis Ionawr 1648, gadawyd iddo ei ryddid ac ailgydiodd yn ei waith fel cyfreithiwr yn 1659. Ar ôl yr Adferiad cafodd ei enwi ymhlith y rhai a oedd i gael eu gwneuthur yn farchogion urdd (erthyl) y 'Royal Oak' ac ym mis Gorffennaf 1661 fe'i dewiswyd yn farnwr yng nghylchdaith Brycheiniog. Bu'n noddwr i fab iau ei frawd John, sef y gŵr a ddaeth wedi hynny yn Syr John Trevor (1637 - 1717; isod), gan ei wneuthur yn aer iddo'i hun, eithr cyhuddwyd ef o weinyddu stad Brynkynallt yn anghyfreithlon a chamddefnyddio'r incwm a ddeuai ohoni (ystyrid fod yr eiddo yn sir Ddinbych yn werth £400 a'r stad yn Iwerddon yn werth £1,000) yn ystod yr amser yr oedd yr aer lloerig, Edward Trevor, o dan oed.

MARCUS (MARK) TREVOR is-iarll 1af Dungannon a barwn Trevor o Rostrevor (1618 - 1670)

Mab Syr Edward Trevor o'r ail wraig. Ganed ef yn Iwerddon, lle y bu'n gwasnaethu fel capten yn erbyn y gwrthryfelwyr yn Co. Down o fis Tachwedd 1641, eithr yn fuan ar ôl y ' Cessation ' a gafwyd ym mis Medi 1643 aeth i Loegr gyda chatrawd a ryddhawyd er mwyn iddo fod at wasanaeth y brenin ac a fu'n ymladd ar ororau Cymru (Ionawr 1644); bu gofal catrawd o wŷr meirch arno o dan Rupert, ym mrwydr Marston Moor ac yn amddiffyn Bryste (Gorffennaf-Awst); ceir ef yng Nghymru ym mis Hydref yn llywiawdr Rhuthyn; yno gorchfygwyd ei wŷr meirch (19 Hydref), eithr llwyddodd ei ddirprwy i ddal y castell a gorfodi ei berchennog, Syr Thomas Myddelton, i encilio. Wedi peth gwasanaeth yn Lloegr hyd yr amser y gorchfygwyd lluoedd y brenin yn derfynol dychwelodd i Iwerddon (c. 1647) i ymladd o dan Monck, a'i gwnaeth yn llywiawdr Carlingford (Mawrth 1648). Gwireddwyd diffyg ymddiriedaeth hen Bengryniaid ynddo pan aeth drosodd ac ymuno ag Ormond ym mis Mehefin 1649, eithr yr oedd wedi newid ochr unwaith yn rhagor erbyn Ionawr 1652 pryd yr amddiffynnwyd ef rhag ei ddifrïwyr gan John Jones o Faesygarnedd. Ym mis Chwefror y flwyddyn ddilynol, cynigiodd John Jones helpu Trevor (a oedd ar y pryd yn Brynkynallt) i dalu'n ôl symiau mawr o arian a fenthyciasid (ar wystl) ar eiddo Brynkynallt - baich trwm a etifeddasai Trevor ar ôl ei ewythr, Syr Edward. Bu'n cynorthwyo (eithr mewn modd hanerog yn unig) Llywodraeth Cromwell yn Iwerddon hyd fis Tachwedd 1659, sef hyd pan gafodd gymorth yn Iwerddon i'r Adferiad, a rhoddwyd iddo yn dâl diroedd a swydd yn Iwerddon, sedd yng Nghyfrin Gyngor Iwerddon, a'i wneuthur yn is-iarll Dungannon a barwn Trevor (22 Awst 1662). Priododd, yn ail wraig, ag Ann, ferch John Lewis, Presaddfed, sir Fôn, a gweddw Syr John Owen, Orielton, Sir Benfro, a dilynwyd ef fel barwn gan ei dau fab hi, Lewis a Mark; pan fu'r ddau hyn farw'n ddi-blant darfu am y teitl (8 Tachwedd 1706).

Ail fab y John Trevor a fu farw tua 1643 oedd

Syr JOHN TREVOR (1637 - 1717), Llefarydd Tŷ'r Cyffredin a barnwr

Gan i'w dad farw ac yntau'r mab yn ieuanc, cafodd garedigrwydd gan ei ewythr Arthur Trevor (uchod), a'i paratôdd ar gyfer mynd i'r Middle Temple (Tachwedd 1654); oddi yno galwyd ef i'r Bar ym mis Mai 1661. Chwe blynedd yn ddiweddarach aeth gyda'i berthynas o'r un enw, a ddaeth yn ysgrifennydd y Wladwriaeth (bu farw 1672), ar neges lys-genhadol i Ffrainc. Gwnaethpwyd ef yn farchog, 29 Ionawr 1671, ac yn 1673 aeth i'r Senedd, gan eistedd dros fwrdeisdrefi poced yn Lloegr hyd 1681; methodd â chael ei ethol dros Drefaldwyn yn 1679. Llwyddodd i gyfuno a'i gilydd gymorth gwenieithus i freiniau cynhenid y brenin ('the royal prerogative'), ac amddiffyniad (heb gymorth neb arall) i'w gefnder amhoblogaidd a'i noddwr, Jeffreys, gyda chred Brotestannaidd filwriaethus a barodd iddo gael ei ddewis yn gadeirydd pwyllgorau megis y pwyllgor ar gynnydd Pabyddiaeth, 29 Ebrill 1678 (a ysbrydolwyd gan John Arnold ac a arweiniodd i ferthyrdod David Lewis a Phabyddion eraill yn Ne Cymru), a'r pwyllgor yn delio â'r achwyniad ('impeachment') yn erbyn yr arglwydd Powis a'r arglwyddi Pabyddol eraill (Mai 1679). Yr oedd yn byw yn Llundain gan mwyaf a phrynodd blasty yn Pulford, yn nes i lawr ar Ddyfrdwy na chartref y teulu, hyd nes y bu i farw ei frawd hyn ei wneuthur ef ei hunan yn aer i Brynkynallt, y mae'n debyg cyn etholiad seneddol terfysglyd y sir ym mis Mawrth 1681; yr adeg honno ailgynheuodd hen gweryl y teulu trwy gipio sir Ddinbych oddi ar y Myddeltoniaid, a oedd yn Chwigiaid ac yn llawer mwy nerthol yn herwydd eu heiddo tiriogaethol; heriodd y Myddeltoniaid ef i ymladd gornest ('duel') am iddo alw Syr Thomas yn fradwr. Daeth yn faer tre Holt yn y flwyddyn ddilynol, ac yn 1684 dodwyd ef ar gomisiwn ymchwil tiroedd cudd y goron yn sir Ddinbych. Wedi i Iago II esgyn i'r orsedd, gwnaeth Beaufort (gweler dan Somerset) ei hun yn gyfryngwr, ar awgrym y brenin a Jeffreys, gyda'r amcan o ddifodi'r cweryl; canlyniad hyn oedd i Myddelton gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad dros y sir a Trevor dros y fwrdeisdref; gwnaethpwyd ef hefyd, ar unwaith, yn un o fwrdeiswyr tref Ddinbych. Llwyddodd Trevor i ddial ar ei elynion chwarter canrif wedi hynny pan fu'n cynorthwyo i beri drygu teulu Edisbury, a oedd yn fath o weision i'r Myddeltoniaid, trwy alw'n ôl yr arian a roesid yn fenthyg ar stad Erthig gan mai ef oedd yr un a fenthyciasai fwyaf o arian i'r stad.

Yn 1685 dewiswyd Trevor yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin (19 Mai), yn ' Master of the Rolls ' (20 Hydref), ac ar 6 Gorffennaf 1688 daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor; dewiswyd yr un pryd ddau Anghydffurfiwr er mwyn iddynt allu gwrthweithio ei ymlyniad di-ildio ef wrth yr Eglwys Anglicanaidd. Dewiswyd ef hefyd yn gyd-gwnstabl castell y Fflint (1687) ac yn 'custos rotulorum' Sir y Fflint (Rhagfyr 1688); parhaodd yn deyrngar i Iago II hyd yn oed pan ffoes hwnnw y tro cyntaf. O'r herwydd, collodd ei swyddi pan ddaeth y Chwyldroad, eithr dychwelodd i'r Senedd yn gynrychiolydd bwrdeisdref boced ac ailgydiodd yn ei waith fel Llefarydd (Mai 1690). Gan iddo ennill ffafr William III trwy lwyddo i 'drin' y Torïaid, cafodd ei sedd yn y Cyfrin Gyngor yn ei hôl (1 Ionawr 1691); gwnaethpwyd ef yn gomisiynwr cyntaf y 'Sêl Fawr' yn ystod y cyfnod pan nad oedd geidwad, 1690-3, ac ailddewiswyd ef yn ' Master of the Rolls ' ar 13 Ionawr 1693. Yn 1695, fodd bynnag, collodd ei swydd fel Llefarydd (12 Mawrth) a'i alltudio o'r Tŷ (16 Mawrth) am lwgr-wobrwyo - ychydig o wythnosau wedi iddo fod bron â chael ei ddewis yn arglwydd-ganghellor (Luttrell, Brief Relation, ii, 326, 350). Cafodd ei swyddi Cymreig yn ôl yn 1705. Bu farw yn Llundain, 20 Mai 1717, gan adael ar ei ôl enw da oblegid ei wybodaeth o'r gyfraith a'i ddi-dueddrwydd fel barnwr - y ddeupeth hyn yn gwahaniaethu'n fawr oddi wrth ei barodrwydd, fel gwleidydd, i ymwerthu. Bu'n hael tuag at lawer o achosion da yn ei sir - ysgol ramadeg Dinbych yn eu plith. Cedwir darlun olew ohono yn Brynkynallt. Priododd â Jane, ferch Syr Roger Mostyn a gweddw Roger Puleston, Emral. Pan fu ei mab hynaf hi farw (1762) daeth y llinell wrywol i'w therfyn a phasiodd y stadau (a'r cyfenw gyda hwynt) yn gyntaf i ARTHUR HILL (-TREVOR) (bu farw 1771), is-iarll 1af Dungannon o'r ail greadigaeth, ail fab Ann, merch Jane, eithr yn etifeddu trwy hanner-brawd ei dad, ŵyr, o ochr ei fam, i'r is-iarll Dungannon 1af (uchod). Pan na chafwyd etifeddion gwryw yr eiltro (1862) aeth y stad i ARTHUR EDWIN HILL (-TREVOR) (1819 - 1894), y barwn 1af Trevor o Brynkinallt (1880), mab iau 3ydd ardalydd Downshire a gor-ŵyr chwaer hŷn Ann Trevor. Y mae'r teulu wedi parhau i ddefnyddio Brynkynallt (neu Brynkinalt) fel plasty'r teulu, ac i roddi ustusiaid heddwch a dirprwy-raglawiaid i'r sir.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.