JONES, JOHN, Maesygarnedd, Sir Feirionnydd, a'i deulu, 'y brenin-leiddiad'

Enw: John Jones
Priod: Katherine Jones (née Cromwell)
Priod: Margaret Jones (née Edwards)
Plentyn: John Jones
Rhiant: Elin Jones (née Wynn)
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'y brenin-leiddiad'
Cartref: Maesygarnedd
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

John Jones (1597? - 1660), ' y brenin-leiddiad ' ('regicide'); mab iau Thomas Jones, Maes-y-garnedd, Sir Feirionnydd, yn disgyn yn unionsyth o Ynyr Fychan (arglwydd Nannau a chyndad teulu Nanney) trwy fab iau a oedd hefyd yn gyndad teulu Vaughan, Hengwrt. Yr oedd ei fam, Elin, merch Robert Wynn, Taltreuddyn, plwyf Llanenddwyn, yn disgyn o ochr ei mam o Syr Gruffydd Vaughan (a roddwyd i farwolaeth yn 1447 - gweler o dan Lloyd o Leighton), ac ar ochr y tad o ferch Gruffydd Derwas, ' knight of the body ' i Harri VI - yr oedd Tudur Vaughan, mab Gruffydd Derwas, yn gyndad llinach enwog yn Iwerddon yn dwyn yr enw Jones (gweler o dan Michael Jones, bu farw 1649). Gan nad oedd yn fab hynaf anfonwyd John Jones i Lundain i wneud ei ffordd drosto'i hun yng ngwasanaeth teulu Myddelton, a oedd yn perthyn o bell i'w fam gan eu bod yn disgyn, fel hithau, o Syr John Done; erbyn 1639 yr oedd John yng ngwasanaeth Syr William, mab Syr Hugh Myddelton. Cafodd addysg dda, yr oedd yn gwybod Lladin yn bur dda, a chafodd beth addysg yn y gyfraith er bod y modd y bu iddo wrthod ymgymryd â mater o gyfraith ar gais Syr Owen Wynn, Gwydir, 2 Ebrill 1642, yn awgrymu nad oedd wedi gorffen ei gwrs yn y gyfraith. Priododd, cyn 1639, Margaret, merch John Edwards, Stansty, a setlo arni hi diroedd ym mhlwyfi Llanenddwyn, Llanddwywe, a Llanfair (y tri yn Sir Feirionnydd), tiroedd a gawsai ef gan Myddelton yn 1633 (8 Mehefin) ynghyd â thŷ annedd yn nhref Wrecsam - Bryn-y-ffynnon, mae'n debyg. Buont yn byw, yn olynol, yn Stansty, Uwchlaw'r Coed, Llanenddwyn (a etifeddasai ar ôl ei dad), a Phlas uchaf Eliseg, gerllaw Llangollen, hyd yr ymunodd fel capten gwŷr traed ym myddin y Senedd; y mae'n debyg ei fod ymysg milwyr newydd ('recruits') yr ail Syr Thomas Myddelton a anfonwyd mewn llongau i sir Fôn yn 1644, eithr a chwythwyd gan ystorm i Benfro ac a ddefnyddiwyd yn Ne Cymru o dan arweiniad Rowland Laugharne - yr oedd Jones yn aelod o'r llu a fu'n ymosod ar gastell Lacharn ym mis Tachwedd 1644 (gweler Phillips, Civil War, i, 274-5; Hist. MSS. Comm., 9th R., ii, 443). Erbyn 1646 yr oedd yn gwasnaethu yng Ngogledd Cymru o dan Syr Thomas Mytton fel cyrnol llu o wŷr meirch; yr oedd yn un o'r tri chennad a anfonwyd i drefnu telerau cymryd sir Fôn trosodd (30 Mai-14 Mehefin). Y flwyddyn wedyn (23 Medi) dilynodd un o'i gyd-genhadon (a oedd wedi marw erbyn hyn) fel aelod seneddol dros sir Feirionnydd. Pan dorrodd yr ail Ryfel Cartrefol allan daeth yn ôl i frwydro (ym mis Mehefin 1648), a bu'n helpu i arbed cymryd castell Dinbych yn sydyn (4 Gorffennaf) ac i orchfygu sir Fôn am yr ail waith (2 Hydref).

Wedi iddo ddychwelyd i Westminster bu'n aelod cyson o'r 'court of justice' a fu'n profi Siarl I, y gŵr a oedd yn gyfrifol, ym marn Jones, am y colli bywydau yn Iwerddon yn 1641; torrodd ei enw ar warant gosod Siarl i farwolaeth; ac fe'i dewiswyd 13 Chwefror 1649 yn aelod o'r cyngor o chwe gŵr a ddewiswyd gan y ' Rump.' Fe'i dewiswyd hefyd yn gomisiynwr Taeniad yr Efengyl yng Nghymru (22 Chwefror) ac yn aldramon Dinbych (ym mis Medi). Dathlodd yr amgylchiad trwy gael ei gâr, Robert Vaughan, Hengwrt, i baratoi ach-res fanwl o'i deulu a phaentio'r arfbeisiau arni. Yr oedd yn ddiwyd fel aelod o'r cyngor chwech hyd y dewiswyd ef (2 Gorffennaf 1650) i fynd gyda Ludlow i Iwerddon yn gomisiynwr cyntaf (o dri) a oedd yn gyfrifol am weinyddu'r wlad honno mewn ystyr wladol, ac felly gorfu iddo drefnu i gyflawni ei orchwylion Cymreig pan nad oedd yn gorfod teithio i Iwerddon ac yn ôl; yn y blynyddoedd 1651-4 y bu mwyaf o alw am ei bresenoldeb yn Iwerddon. Yn 1655 gwnaethpwyd ef yn gomisiynwr dros Ogledd Cymru o dan y Major-General Berry. Bu ei wraig gyntaf (a oedd yn ddisgybl eiddgar i Morgan Llwyd, ac o'r hon y cawsai wyth o blant - er mai un yn unig a oroesodd y fam) farw yn Iwerddon ar 19 Tachwedd 1651; yn gynnar yn 1656 priododd Katherine Whetstone (ganwyd 1606), chwaer Oliver Cromwell; yr oedd hi'n weddw swyddog ym myddin y Senedd (a'i cymerodd hi gydag ef i un o ryfeloedd yr Iseldiroedd), eithr fe'i cyfrifid hi'n un o blaid y brenin am fod lladd y brenin yn wrthun ganddi (Notes and Queries, VII, ix, 303). Sefydlodd John Jones £ 300 y flwyddyn ar ei wraig newydd, ac ychwanegodd Oliver Cromwell flwydd-dal o £150. Dewisodd y Protector ei frawd-yng-nghyfraith ar ei gyngor newydd (Mehefin), ac ym mis Awst etholwyd ef i gynrychioli siroedd Dinbych a Meirionnydd yn ail Senedd y Protectorate; siaradai yn y Senedd honno yn fynych, yn enwedig yn y drafodaeth a ragflaenodd yr ' Humble Petition and Advice.' Y flwyddyn ganlynol fe'i symudwyd i 'Other House' Cromwell, a chafodd y teitl ' Lord Jones ' (nas arferid ond yn anaml); ychydig o amser cyn i Oliver farw fe'i dewiswyd unwaith yn rhagor yn gomisiynwr dros Iwerddon.

Pan ddaeth y 'Protectorate' i ben gydag ymddiswyddiad Richard Cromwell, yr oedd Jones yn flaenllaw pan ymgymerodd y 'Rump' â llywodraeth unwaith yn rhagor; bu'n gwasnaethu ar y 'Committee of Seven' (7 Mai 1659) ac ar olynydd hwnnw - sef y cyngor a gynhwysai 21 o aelodau (14 Mai). Yn Iwerddon yn bennaf y gwneid defnydd ohono, er ei fod yn gorfod gwasnaethu yr un pryd fel llywiawdr sir Fôn, lle yr ymdrechodd, trwy gadw hen Biwritaniaid a gwerin-lywodraethwyr mewn awdurdod, i wrthweithio dyheadau y rhai a hoffai adfer y drefn frenhinol. Ar 18 Awst gadawyd ef gan Ludlow yng ngofal y fyddin yn Iwerddon. Yno yr oedd mewn anhawster; gwyddai rywbeth am gynlluniau'r cadfridog Monck, eithr ni allai wneuthur dim i'w gwrthweithio oherwydd fod ystormydd yn peri bod newyddion o Loegr yn hwyr yn cyrraedd, ac nad oedd ganddo ddigon o awdurdod ar swyddogion y fyddin. Ar 19 Ionawr 1660 cymerwyd ef i'r ddalfa gan ddilynwyr Monck yno, ac fe'i gwysiwyd ef o deyrnfradwriaeth ynghyd â'r comisiynwyr eraill yn Iwerddon. Cafodd ei ryddhau 'on parole' a chaniatâd i fynd i Gaer (5 Mai). Aeth i ymweld â'i fab, setlodd ei eiddo arno (trwy 11 o ymddiriedolwyr), a rhoes ei bapurau i'w cadw'n ddiogel cyn dychwelyd i Lundain; yno fe'i cymerwyd i'r ddalfa pan oedd allan ar yr heol (2 Mehefin), a chan nad oedd ei enw ymhlith y rhai a enwid yn yr ' Indemnity Act ' (20 Awst) gorfu iddo sefyll ei brawf fel breninleiddiad. Ymddygodd yn ystod y prawf gydag urddas. Torrwyd ei ben ar 17 Hydref 1660.

Barn yr archesgob John Williams yn 1647 am John Jones oedd ei fod ' the most universally hated man ' yng Ngogledd Cymru, eithr nid oes dystiolaeth yn llythyrau'r cyfnod yn cadarnhau hyn yn yr amser (1656) pan oedd yn ymgeisydd seneddol (Cal. Wynn Papers, 1834, 2108, 2116, 2118-9, 2122-3). Cyhuddwyd Jones gan Henry Cromwell a ddywedai iddo ' acted very corruptly ' yn Iwerddon; nid oedd Henry yn hoffi ei syniadau gwerin-lywodraethol, ac y mae'n debyg mai efe a ddylanwadodd ar Richard i beri i hwnnw atal talu blwydd-dâl ei wraig ym mis Mawrth 1660. Nid oes sail i achwyniad Henry. Yr oedd yr hyn a wnâi Jones ynglŷn â thiroedd, etc., yn gyffredin ac yn gyfreithiol - e.e. prynu a gwerthu tir gyda'r addewidion-tâl a benthyciadau (pan oedd yn disgwyl y cyflog a oedd yn ddyledus iddo), ynghyd â chyfran yn Bromfield a Yale (a oedd yn arglwyddiaeth y Goron, ac â'r hon y ceisiodd ddenu Henry Cromwell) ym maenor eglwysig Gogarth (y cynigiodd ei hailwerthu i'r Mostyn iaid), ac ym maenorau Llandegla, Gwytherin, a Meliden (a brynwyd gan gwmni am £ 3,797 yn 1650), ac Uwchterfyn (c. 1652), a chynnig ganddo i brynu'r arian a roddasid yn fenthyg ar Brynkinallt (1653) - yr oedd y rhain i gyd, fel y dywedwyd, yn gyffredin ac yn hollol gyfreithiol. Am ei fod allan o'r wlad (yn Iwerddon) pan oedd cymaint o'r gwerthu tiroedd yn cymryd lle, y pasiwyd gan y Senedd fod iddo gael gwerth £3,000 yn rhagor o dir yn Iwerddon yn lle'r cyflog a'r arian arall a oedd yn ddyledus iddo. Pa faint o'r cyflog, mewn enw, o £ 1,000 a oedd i'w gael fel comisiynwr yn Iwerddon, a ddaeth i'w feddiant ni ellir gwybod; fe wyddys ei fod yn aml yn fyr o arian parod pan oedd yn Iwerddon. Siaradai Berry a Ludlow yn dda amdano, ac y mae hyd yn oed y ddychangerdd, 1657, ar 'arglwyddi' Cromwell (a geir yn Harleian Miscellany, iii, 470) yn trin Jones yn weddol garedig.

Y mae dyfnder ei argyhoeddiadau crefyddol i'w ganfod yn ei lythyrau i gyd. Gohebai'n gyson o Iwerddon â Morgan Llwyd, Vavasor Powell, ac arweinwyr Piwritanaidd eraill yng Nghymru; trefnodd i argraffu peth o waith Llwyd yn Iwerddon, serch ei fod yn teimlo ei fod yn rhy 'parabolicall' i'r dyn cyffredin a bod Powell yn rhy chwannog i hollti blew a 'disputeing' - megis Cromwell yr oedd Jones yn casáu honiadaeth, ac eto fel Cromwell yn ofni anarchiaeth, boed honno'n grefyddol neu'n wleidyddol. Yr oedd yn ofni rhag cymryd etholiad rydd ('free vote') cyn i'r werinlywodraeth gael amser i dyfu gwreiddiau, ac yr oedd yn barod i amddiffyn dulliau-dros-dro a oedd yn peri syndod mawr i werin-lywodraethwyr delfrydol. Yr oedd ei gasineb tuag at ormes ffiwdalaidd yn codi o'i awydd am gael rhoddi mesur o sicrwydd i'r rhydd-ddeiliad bychain yn hytrach nag o unrhyw egwyddor a gredid gan y ' Levellers.' Serch ei ddwyn i fyny yn Llundain, fe barhaodd yn 'ddyn o'r wlad' o ran ei galon - yr oedd ganddo gariad y Cymro at ei deulu, clyfrwch y Cymro wrth fargeinio, a'i hoffter o gymariaethau yn codi o fywyd y wlad. Yr oedd hyd yn oed ei newyn am dir yn perthyn iddo am ei fod yn fwy o werinwr nag o ddyn tref neu ddringwr mewn cymdeithas; wrth werthu, gwell ganddo bris rhesymol y deiliad na phris ffansi a gynigid iddo gan brynwr a fyddai am ail-osod y lle am bris llawer uwch. Yr oedd yn gas ganddo y bobl a geisiai wneuthur elw mawr wrth brynu yn rhad gan filwyr y 'debentures' a oedd yn eiddo iddynt yn lle cyflog; a phan fethodd ei denantaid ef ei hun yn Sir Feirionnydd yn 1653 dalu eu cyfran hwynt oherwydd tymor gwael a bod eu gwartheg o'r herwydd yn anwerthadwy, cynigiodd gymryd yn lle rhent wartheg teneuon a oedd i ddod dros y môr trwy Gaergybi i gael eu pesgi yn Iwerddon. Yn Iwerddon ei hunan yr oedd yn fwy gobeithiol o'r gwerinwr nag o'r meistr tir; eithr yma cymylid ar ei olygon a'i syniadau gan hen ystraeon am y lladd a fu yn y gorffennol, a'r unig awgrymiadau ymarferol a wnaeth oedd y dylai'r wlad gael ei hefengyleiddio (o Gymru yn hytrach nag o unman arall), a chael hefyd lywodraeth gref a dilwgr. Fel gweinyddwr yr oedd yn ddiflino ac yn drefnus, eithr cyfrifai fod ei gymwysterau ef ei hun yn 'too narrow' for the Ministers of any Commonwealth but sir Th. Moore's.'

Cadwai gyswllt â'i deulu gan addo gwneuthur dros ei 'berthynasau tlawd' yn Ardudwy cyn gynted ag y deuai pethai'n well. Gofalai am amgylchiadau ysbrydol a thymhorol ei nith Lowri (1623 - 1694), merch ei frawd hynaf EDWARD JONES, a fuasai farw ymhen blwyddyn ar ôl priodi, ac am amgylchiadau ei phlant (daeth un o'r plant hyn yn dad Ellis Wynne o'r Lasynys (y ' Bardd Cwsc') - pan fu eu tad, Ellis Wynne, Glyn (a briododd â'r nith yn 1639) farw c. 1653). Trwy ei hail ŵr, a oedd yn ŵyr Edmund Prys, daeth Lowri yn fam i Edmund Price (1662 - 1718), a dderbyniwyd (fel 'pauper') i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1682, ac a raddiodd yn 1685; daeth ef yn ficer Clynnog yn 1692, etifeddodd Maes-y-garnedd, eithr gwerthodd Gerddi Bluog (stad teulu'r Prys iaid) yn 1710. Yr oedd brawd arall, HUMPHREY JONES (bu farw c. 1690), yn farsiandwr ('mercer') yn Paternoster Row; efe oedd bancer, cynrychiolydd busnes, ac ysgutor ei frawd John, a bu'n gynghorwr ffyddlon i'w fab. Aeth THOMAS JONES, mab Humphrey Jones, i Rydychen yn 1666, a daeth (yn olynol) yn ficer Croesoswallt 1680, rheithor Darowen 1684, a ficer Llangollen 1702. Daeth HENRY JONES, trydydd brawd John, yn ddirprwy-lywiawdr Dulyn o dan Syr Theophilus Jones (gweler o dan Michael Jones, bu farw 1649) yn 1653 - yr oedd yn Iwerddon yn 1659 eithr bu farw cyn 1664. Arhosodd y brawd ieuengaf, RICHARD JONES, a'i chwaer Lowry, yn Ardudwy, ac ysgrifennai John atynt (er nad yn rhy rwydd) yn Gymraeg.

JOHN JONES (bu farw c. 1717)

Unig blentyn y 'regicide' a oroesodd, a chaniatâwyd iddo (o dan y weithred seneddol, 12 Car. II, c. 30 - sef deddf yr 'attainder') etifeddu'r eiddo a oedd gan ei dad cyn y flwyddyn 1646. Fe'i dygwyd i fyny o dan addysg Morgan Llwyd yn Bryn-y-ffynnon, Wrecsam, wedi i'w fam farw, ac ymsefydlodd yno pan briododd, 2 Mawrth 1663, Mary Paine, Woolwich, llysferch ei ewythr Humphrey Jones. Cafodd ei ysgymuno yr un flwyddyn (13 Mehefin) am anghydffurfiaeth, ond cydymffurfiodd yn ddiweddarach. Eithr y mae ei gydymdeimlad ag Anghydffurfiaeth i'w weled yn glir mewn dau beth - caniatáu defnyddio Bryn-y-ffynnon fel tŷ annedd i'r gweinidog Annibynnol John Evans (1628 - 1700) - yr oedd wedi cadw meddiant mewn rhan ('leasehold interest') yn Bryn-y-ffynnon ar ôl ei werthu i'w berthynas, Syr William Williams (1634 - 1700), yn 1692 - a llawenhau yn ddirfawr pan wrthodwyd yr ' Occasional Conformity Bill ' yn 1703. Bu'n is-siryf Meirionnydd yn 1679-80 ac fe'i 'pigwyd' yn siryf ym mis Rhagfyr 1687 (pan oedd Iago II yn ceisio cael cymorth y ' Dissenting interest' mewn llywodraeth leol), eithr cymerwyd ei le wythnos yn ddiweddarach gan y Tori anhyblyg hwnnw, Syr Robert Owen, Porkington (gweler o dan Syr John Owen). Bu'n gwasanaethu fel siryf, fodd bynnag, ar ôl y Chwyldroad (25 Tachwedd 1689). Gwerthodd ei stadau yn Sir Feirionnydd yn raddol, gan fyw yn Wrecsam y rhan fwyaf o'i amser, eithr yn Cilhendre, Sir Amwythig, y bu farw (c. 1717), cartref ei nith Ann Edwards (gweler o dan Edwards, Cilhendre, Sir Amwythig). Bu iddo unig ferch; ohoni hi y disgyn y rhai sydd yn cynrychioli teulu'r 'regicide' heddiw.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.