Gallai'r teulu hwn ddywedyd eu bod yn dal yn ddi-dor diroedd yn yr un ardal o 1317, pan ddywedir' i David ap Meilir brynu maenor Stansty, hyd 1783 pan ddaeth ei linach uniongyrchol ef i ben. Sefydlwyd y cyfenw yn gyntaf gan JOHN EDWARDS (1573 - 1635), mab David ab Edward; y mae'r ffaith iddo fod yn ysgutor o dan ewyllys a wnaeth ei gymydog, Syr William Meredith, i dalu cyflog pregethwr yn Wrecsam, yn awgrymu tueddiadau Piwritanaidd - ymddengys yr un tueddiadau yn rhai o'i ddisgynyddion. Ychwanegodd ei fab hynaf, DAVID EDWARDS (bu farw 1635), at yr ystad ac adeiladodd Plasisa yn 1567 yn gartref y teulu; gwnaeth dau frawd iau nag ef enw da iddynt eu hunain yn Rhydychen. Cafodd JOHN EDWARDS (yr ail fab; ganwyd 1612) ei addysg yn Westminster (1629) a Christ Church, ymaelododd yn y brifysgol 26 Hydref 1632, graddiodd yn B.A. ar 6 Rhagfyr 1633, M.B. 1635, a daeth yn feddyg llys i Siarl I. Yn gymrawd o Christ Church gwrthododd ymostwng i ymwelwyr y Piwritaniaid yn 1648 (10 Mai) eithr nid oes gofnod yn dangos ei fwrw allan. Aeth JONATHAN EDWARDS (3ydd mab, ganwyd 1615) i Goleg Iesu, Rhydychen, gan ymaelodi 3 Chwefror 1633; graddiodd yn B.A. yn 1634 (9 Mehefin), a dyfod yn M.A. ac yn gymrawd yn 1637 (24 Ebrill) ac yn D.D. yn 1642 (Tachwedd). Erbyn 1679 yr oedd yn archddiacon Londonderry ac yn gohebu mewn modd cyfeillgar â'i chwaer MARGARET (bu farw 1651), disgybl eiddgar i Morgan Llwyd o Wynedd a gwraig John Jones y breninladdwr. Priododd chwaer arall, CATHERINE, Watkin Kyffin, cynrychiolydd Syr Thomas Myddelton ar ystad Castell y Waun; wedi iddo gael ei ethol yn gymrawd, ceisiodd Jonathan, trwy gyfrwng ei chwaer, eithr yn ofer, ddarbwyllo Syr Thomas Myddelton i anfon ei fab i Goleg Iesu gyda meibion iarll Pembroke a 'the best gentry of South Wales.' Y mae Foster (Alumni Oxonienses) wedi cymysgu wrth roddi hanes y John Edwards a wthiwyd gan y Profwyr i fywoliaeth Llangorse, sir Frycheiniog, ac a fwriwyd allan ohoni yn 1660 (gweler T. Richards, Rel. Devts., 45, 51, 386); ni ellir ei ffitio ef i mewn i ach teulu Stansty.
Bu JOHN EDWARDS (1619 - 1673), mab ac aer David Edwards, yn dderbynnydd ('Receiver') arglwyddiaeth Chirk o dan Syr Thomas Myddelton eithr dywedir iddo ymladd dros Siarl I. Y mae'n sicr iddo briodi gweddw Brenhinwr o Lancashire - merch Syr Thomas Powell, Horsley; pan hawliodd hi stad ei gŵr cyntaf, ystad yr oedd y Werinlywodraeth am ei gwerthu, daeth John Jones y breninladdwr ymlaen a dywedyd gair o'i phlaid gan dystio bod ei gŵr (a oedd yn nai iddo trwy briodas) 'of an honest, harmless, sweet disposition.' Ar ôl yr Adferiad achwynwyd ar Edwards gan y wardeniaid (a'i frawd David yn un ohonynt) am beidio a mynychu gwasanaeth yr eglwys. Ychwanegodd ef at y stad nes ei bod yn cynnwys tref-ddegwm Stansty bron i gyd ac yn ymestyn i dre Gwersyllt. Pan fu ei or-orŵyr, PETER EDWARDS, farw yn 1783, yn ddiblant, aeth y stad i deulu Llwydiaid Pengwern ac yn nes ymlaen gwerthwyd hi i Richard Thompson, meistr gwaith haearn, a adeiladodd Stansty Hall yn 1830-2.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.