Ganwyd 15 Mawrth 1878 yn nhyddyn Maes-glas, ger Tal-y-bont, Ceredigion, yn fab i Isaac a Jane (ganwyd Mason) Richards. Symudodd y teulu wedyn i Ynystudur, ger Tre'rddôl. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgolion Tal-y-bont a Thaliesin. Bu'n ddisgybl-athro am bedair blynydd ac yna, yn 1897, aeth yn athro i Ysgol Alexandra, Aberystwyth, am ddwy flynedd. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1899-1903) lle y graddiodd gydag anrhydedd mewn hanes dan Syr John Edward Lloyd. Bu'n athro ysgol yn Nhywyn (1903-5), Bootle (1905-11), a Maesteg (1912-26).
Ar anogaeth Thomas Shankland ymgymerodd ag ymchwil i hanes Piwritaniaeth yng Nghymru yn Llyfrgell Palas Lambeth, yr Amgueddfa Brydeinig, Swyddfa'r Cofrestrau Cyhoeddus, a Llyfrgell Bodley. Ffrwyth yr ymchwil oedd nifer o lyfrau swmpus, A history of the Puritan Movement in Wales, 1639-53 (1920), Religious developments in Wales, 1654-62 (1923), Wales under the Penal Code, 1662-87 (1925), a Wales under the Indulgence, 1672-5 (1928). Fel canlyniad i'r gwaith ymchwil hwn cafodd ei gydnabod yr awdurdod pennaf ar ddechreuadau Ymneilltuaeth yng Nghymru. Enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru yn 1914 a D.Litt. yn 1924.
Yn 1926 dychwelodd i Fangor i fod yn llyfrgellydd ei hen goleg. Parhaodd â'r gwaith a ddechreuwyd gan Shankland o gasglu llyfrau a chylchgronau Cymraeg, ac ymroes i'w dosbarthu a'u catalogio. Yna dechreuodd ar faes newydd, sef cywain i'r llyfrgell lawysgrifau ystadau gogledd Cymru a llunio iddynt gatalogau cynhwysfawr a hynod ddarllenadwy. Trwy lafur enfawr Thomas Shankland a Thomas Richards daeth llyfrgell coleg Bangor yn ganolfan ymchwil o'r radd flaenaf i hanes Cymru.
Meddai Thomas Richards y ddawn o sylwi ar hynodion pobl a gweld digrifwch sefyllfa. Yr oedd yn storïwr heb ei ail ac yn ddarlithydd a darlledwr poblogaidd. Cyhoeddodd amryw o lyfrau ar wahân i'r rhai a enwyd a chyfrannodd ysgrifau i eraill (cafwyd 77 ysgrif o'i eiddo yn Y Bywgraffiadur Cymreig). Ysgrifennodd lu o erthyglau i gyfnodolion ar hanes eglwysi ac unigolion, chwaraeon a phynciau eraill. Yr oedd yn ddiacon ym Mhenuel (B), Bangor, ac anrhydeddwyd ef â chadair Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1957. Derbyniodd Fathodyn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1958 a gradd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1959. Priododd Mary Roberts o Nantlle yn 1912; bu iddynt ddwy ferch. Bu farw 24 Mehefin 1962 a chladdwyd ef ym Mynwent Dinas Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.