SHANKLAND, THOMAS (1858 - 1927), llyfryddwr a hanesydd

Enw: Thomas Shankland
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1927
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfryddwr a hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd ym mhlwyf Llangynin, Sir Gaerfyrddin, 14 Hydref 1858, a chafodd ei addysg fore yn ysgol Pwlltrap. Yn 1876 wele ef yn grydd yn y Bala, a dod i gyswllt â chymeriadau mawrion y fro fel y prifathrawon Lewis Edwards a Michael D. Jones. Yn 1879 bedyddiwyd ef drwy drochiad; yn 1882 dechreuodd bregethu gyda'r Bedyddwyr; aeth yn ei ôl i'r De am gyfnod i ysgol ramadeg S. Clears; yn 1885 derbyniwyd ef yn fyfyriwr i goleg y Bedyddwyr yn Llangollen ond (yn ôl y trefniant newydd) cafodd ef a dau arall fyned i Goleg y Gogledd a oedd newydd ei agor ym Mangor; ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf yno gwelir ei enw ymhlith y ‘prizemen.’ O 1888 i 1891 bu'n weinidog yn yr Wyddgrug, ac o 1891 i 1904 yn y Rhyl. Yn ystod ei dymor coleg ymwelai'n aml ag Ynys Seiriol, a bu perygl iddo ymgolli ym myd adar, abwydion, ‘mollusca,’ a physgod; efallai mai'r trobwynt mawr oedd ei ymweliad (Hydref 1900) â hen gartref Joshua Thomas yr hanesydd yn Llanllieni, ac archwilio'r hen lawysgrifau a arhosai yno. Cyn hynny, 1898-9 yn wir, ymddangosodd pedair ysgrif o'i eiddo yn Seren Cymru ar Morgan John Rhys; dilynwyd hwy gan dair ysgrif yn y Cymru am 1902 ar ddechreuadau'r ysgol Sul yn y Dywysogaeth; ond ei waith mwyaf safonol oedd 16 ysgrif yn Seren Gomer (Medi 1900 — Ionawr 1904) fel adolygiad ar Ddiwygwyr Cymru Beriah Evans, ysgrifau a ddadlennodd gyfoeth trysorau llyfrgell Palas Lambeth ar hanes crefyddol Cymru, ac a gyhoeddai fod hanesydd manwl wyddonol wrth y gwaith. Yn 1904 gwahoddwyd ef i Fangor i arolygu llyfrgell Gymraeg Coleg y Brifysgol, ac yn 1905 dechreuodd ar ei waith o ddosbarthu a threfnu, casglu a phrynu. Yr oedd Shankland yn llyfryddwr wrth reddf; ffroenai lyfrau prin o bell; gwyddai am eu tras a'u treigl, am eu hen berchenogion a'u cartrefi tebygol; doniwyd ef yn llawn â rhinweddau anhepgor y casglwr breiniol, sef gwybodaeth, amynedd, a hiwmor iach. Yr oedd yn fawr ym myd llyfrau, mwy ym myd cyfnodolion; yr oedd yn ei afiaith yn brasgamu dros dwmpathau llychlyd ohonynt yn chwilio am rifynnau coll cyn eu rhwymo'n gyfresi er mwyn llanw'r ystafell ymchwil Gymraeg — ei gyfraniad mawr arhosol i drysorau Goleg y Gogledd. Nid arolygu'r llyfrgell yn unig a wnâi Shankland; yr oedd ei stôr o wybodaeth at wasanaeth athrawon, myfyrwyr, a phobl o'r wlad; nid oedd ball ar ei garedigrwydd a'i gymwynasgarwch.

Rhan o'i gymwynasau oedd rhyfeddodau o waith i enwad y Bedyddwyr. Yr oedd yn aelod byw o bwyllgor eu coleg ym Mangor ac o gymanfa Arfon; anfonodd gryn 60 o ysgrifau i Seren Cymru, rhai yn hirion, i gyd yn sylweddol; bu'n golygu Seren Gomer yn 1905-6, ef oedd golygydd Trafodion y Gymdeithas Hanes o'i chychwyn hyd ddydd ei barlysdod, a chyfrannodd iddynt wybodaethau pwysig a diddorol, yn enwedig yr ymchwil ar John Miles ac ar gychwyniad llenyddiaeth gyfnodol yng Nghymru; ef, hefyd, a olygodd adargraffiadau o Antidote Miles yn 1904, rhannau o'r Harleian MS. 6898 yn 1908-9, a Llythyrau Cymanfa 1760-5 yn 1910. Cyfraniadau pwysfawr oedd y bennod (x) ar weithiau cynnar Morgan John Rhys i'r Cofiant gan Dr. J. T. Griffith, a'r bennod (xxxvi) ar oes Jones o Ramoth i'r Cofiant gan David Williams. Ond nid oedd cloddiau enwad yn derfyn i feddwl chwim Shankland; ymhlith ei bethau gorau y mae'r ysgrif i'r Cofiadur Annibynnol ar Evan Roberts o Lanbadarn, ei ysgrifau ar Stephen Hughes i'r Beirniad, ar y Crynwr John ap John i'r Cymru, a'i lu ysgrifau ar awduraeth emynau a hanes tonau perthynol i bob enwad crefyddol, a mynnodd wneud llawn gyfiawnder ag ymdrechion pobl dda Eglwys Loegr i gyfleu addysg i werin Cymru cyn bod sôn am y Diwygiad Methodistaidd, fel y prawf ei bapur llafurfawr ar Syr John Philipps a'r ysgolion elusen yn Trans. Cymm., 1904-5; gwyddai fwy, ond odid, nag unrhyw Gymro arall am adwaith y Chwyldro Ffrengig ar lawer o Gymry enwog; nid oedd neb mwy blaengar nag ef gyda Chymdeithas Llawysgrifau Bangor a sefydlwyd yn 1907 (ef oedd yr ysgrifennydd). Torrodd lawer o ddelwau, mae'n wir, ond rhoddodd ail fywyd i lu o enwogion anghofiedig, a dwyn i'r golau wasanaeth cymwynaswyr na wyddai'r byd ddim amdanynt. Yn wyneb ei swm enfawr o gynnyrch, ac fel teyrnged i'w gampau llyfryddol a'i fawr gymwynasgarwch, cyflwynwyd iddo yn 1917 gan Brifysgol Cymru y radd o M.A. ‘er anrhydedd.’ Collodd ei unig fab ym mrwydr Bourlon Wood, yn Nhachwedd yr un flwyddyn. Yn gynnar yn 1925 cafodd ergyd o'r parlys, ac amryw fân ergydion wedi hyn, a daeth ei gystudd trwm i ben ar 20 Chwefror 1927. Ni ellid gwell enghraifft o ysgolheictod fanwl mewn dynoliaeth braf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/