Ganwyd yn Newton Clifford yn y rhan Gymraeg o sir Henffordd. Ymaelododd yng Ngholeg Brasenose, Rhydychen, 18 Mawrth 1635-6, ond ni wyddys pa mor hir yr arhosodd yno. Ansicr hefyd yw ei yrfa o 1636 i 1649; pur debyg iddo weithredu fel caplan ym myddin y Senedd, a gwneud ei gartref yng ngorynys Browyr i'r gorllewin o Abertawe. Yng ngwanwyn 1649 aeth i Lundain, lle y cafodd ei fedyddio drwy drochiad yn eglwys y Glass House yn Broad Street; calonogwyd ef gan yr arweinwyr yno i ddychwelyd i Gymru a phregethu egwyddorion y Bedyddwyr. Cododd ei bencadlys yn Ilston; bedyddiwyd y dychweledigion cyntaf (yn ôl yr hen lyfr eglwys) ym mis Hydref 1649; y rhai olaf ar 12 Awst 1660, cyfanrif 261. Profodd Miles ei hun yn drefnydd trwyadl, casglodd ddisgyblion o dref Caerfyrddin i'r Gelli ym Mrycheiniog, ffurfiodd hwy yn eglwysi adrannol, trefnodd gylchdeithiau i'w bregethwyr, a galw cyfarfodydd cyffredinol o gynrychiolwyr i ddelio â materion cred a buchedd ymarferol. Yr oedd ei ddaliadau yn bendant y tu hwnt i gymrodedd: bedydd i'r crediniol yn unig, drwy drochiad yn unig, dim ffordd arall i ddod at Fwrdd yr Arglwydd, a'r cwbl yn unol â chefndir o uchel Galfiniaeth fel y disgrifir hi yng nghyffes ffydd Saith Eglwys Llundain yn 1644, a phawb o'r aelodau o dan wyliadwriaeth mor gaeth â phe buasent Bresbyteriaid. Nid oedd berygl i wr mor bendant ei argyhoeddiadau dderbyn efengylau dieithr yr oes Biwritanaidd fel Arminiaeth Bedyddwyr Maesyfed, theori Erbery am y Drydedd Oruchwyliaeth, barn proffwydi ffyddiog am Ail Ddyfodiad yr Arglwydd, a chred y Crynwyr yn y goleuni oddi mewn (nid oedd dim a fynnai Miles â'r Crynwyr, nid oeddynt iddo ond ' gwenwyn yr amseroedd,' a chyfansoddodd Antidote yn eu herbyn yn 1656). Yr oedd yn rheng flaenaf yr arweinwyr Piwritanaidd yng Nghymru, enwyd ef yn un o'r 25 profwyr yn Neddf y Taeniad, penodwyd ef yn 1656 yn 'ddarlithydd' Piwritanaidd yn Llanelli gan y 'Triers,' a disgrifir ef fel 'minister of Ilston' o 1657 i 1660 yn llawysgrifau Lambeth. Nid diwygiwr huawdl oedd Miles, yn rhoddi dwy ochr y wlad ar dân; yn hytrach propagandïwr dygn dwys yn gosod pennau i lawr fel gwirionedd a thynnu casgliadau diwrthdro oddi wrth y gosodiadau hynny, ffordd effeithiol o fagu disgyblion. Y disgyblion mwyaf arbennig oedd Lewis Thomas, a gadwai olwg ar Fedyddwyr y wlad o Gaerfyrddin i Benybont-ar-Ogwr, a William Prichard, pennaeth y parthau dwyreiniol a'u canolfan yn y Fenni, a gwr, drwy fedyddio William Jones , Rhydwilym tua 1667, a agorodd y ffordd i grwsâd Fedyddiedig yn y gorllewin a fygythiai roddi yr hen Ilston yn y cysgod.
Nid oedd obaith i Miles a'i bregethwyr ar ôl Adferiad 1660; yr oedd pob Bedyddiwr a ddaliai fywoliaeth i ymadael â hi yn ôl Deddf mis Medi'r flwyddyn honno (12 Chas. II, c. 17). Ymfudodd i America; nid oes brawf, ar wahân i'r ffaith nad ymddengys ei enw yng nghofnodion llys 'consistory' Caerfyrddin, iddo fyned o'r wlad hon cyn 1663, na dim prawf ychwaith iddo ddychwelyd i Gymru dros dro yn 1665. Y mae perffaith sicrwydd iddo gyrraedd Rehoboth yn Massachusetts cyn diwedd 1663, iddo sefydlu eglwys i'r Bedyddwyr yno (a Nicholas Tanner a fedyddiwyd ganddo yn Ilston yn 1652 yn un o'r prif aelodau), fod teimladau angharedig at y Bedyddwyr gan sectau eraill wedi arwain Miles yn 1667 i agor sefydliad newydd hollol (eto yn Mass.) a'i alw'n Swansey, a chodi achos arall i'r Bedyddwyr ynddo gyda chyfansoddiad tipyn llacach na rheolau'r hen Ilston gynt yng Nghymru. Adroddir i Miles weithredu fel ysgolfeistr yn Swansey yn 1673, a gorfod dianc am ei fywyd i Boston yn ystod y Rhyfel Metacom ('Rhyfel y Brenin Philip') yn 1675, ar ôl i Swansey droi'n fflachbwynt yn yr ymladd rhwng y gwladychwyr a'r Wampanoag Brodorol. Ymhen hir a hwyr fe ddychwelodd i Swansey, a marw yno ar 3 Chwefror 1682/3. Ei fab JOHN MILES oedd y cyntaf un i fod yn glerc tref Swansey; am y mab arall, SAMUEL MILES, trodd ef at Eglwys Loegr, graddio yn Harvard yn 1684 ac yn Rhydychen (drwy ddiploma) yn 1693, a bu'n rheithor y Kings Chapel (Esgobol) yn Boston yn ymyl 40 mlynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.