wedi mudo o John Miles i America; brodor o Fargam. Bedyddiwyd ef yn Ilston yn Nhachwedd 1650, a daeth yn bregethwr pur amlwg yn ôl y trefniadau cymhleth a wnaed gan Miles yn 1657. Yn ddiweddarach sefydlodd ei gartref yn y Mŵr ger Trenewydd Notais; yno yr oedd pan ddisgrifir ef yn 1669 yn pregethu yn anghyfreithlon yng nghwmni Richard Cradock yr Annibynnwr, ac yn nhŷ hwnnw. O dan Ddeclarasiwn 1672 wele ef yn cael trwydded i bregethu yn Abertawe yn nhŷ William Dykes. Dioddefodd lawer oddi wrth ddeddfau Clarendon a gwritiau siryfon. Ond pan ddaeth y Goddefiad gwelir mai maes ei arolwg oedd Bedyddwyr y gorllewin o Benybont-ar-Ogwr i dref Caerfyrddin, 'eglwys Abertawe,' er bod cyfeiriadau ato'n pregethu, a hynny'n bur rheolaidd, cyn belled i'r dwyrain â Hengoed a Blaenau Gwent. Gwelir ei enw ar gofnodion cymanfaoedd Llundain (1689, 1692), ac yn amlycach fyth yng nghymanfa Cymru o 1700 ymlaen. Yr oedd yn bresennol yng nghymanfa Llanwenarth, 1703; yn Abertawe, 1704, gwnaed coffad syml, ond huawdl, o'i farw. Ychydig cyn hynny talwyd teyrnged arbennig iddo; ef oedd y cyntaf i bregethu yn nhŷ cwrdd newydd Rhydwilym 1701, y cyntaf i'w godi gan y Bedyddwyr yng ngorllewin Cymru. ' Mwyn fel oen, llafurus fel ych, ac eofn fel llew.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.