PRICHARD, WILLIAM (bu farw 1713), Bedyddiwr Neilltuol

Enw: William Prichard
Dyddiad marw: 1713
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Bedyddiwr Neilltuol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

un o brif ddisgyblion John Miles. Serch hynny, ym mlynyddoedd y Weriniaeth, prin y gellir dywedyd ei fod yn ddisgybl cyson ac ufudd iawn i ddelfrydau'r pennaeth; yn fuan wedi ei ordeinio fel gweinidog i'r Bedyddwyr caeth yn y Fenni yn 1653 bu ef (a dau arall o'r eglwys) yn euog o anfon llythyr o ewyllys da at Henry Jessey, prif arweinydd y Bedyddwyr rhydd-gymunol yn y wlad, i'w anfon yn ei dro at eglwys rydd-gymunol Hexham, yr hyn a gyfrif am orchymyn oddi wrth gyfarfod cyffredinol Aberafan (ddechrau 1654) nad oedd Bedyddwyr Gogledd Mynwy ar unrhyw gyfrif i gyd-gymuno â phobl heb eu bedyddio drwy drochiad. Nid oes brawf bod William Prichard wedi derbyn dim tâl erioed oddi wrth yr awdurdodau Piwritanaidd - fel y bu yn hanes John Miles a'i brif gynorthwywyr - er y geirid rhai penderfyniadau fel pe buasai yn euog o hynny; ac felly naturiol yw credu ei fod yn cydfyned a pholisi eglwys y Fenni i ymgroesi'n bendant rhag unrhyw bregethwyr a dderbyniai y fath dâl (penderfyniad 11 Gorffennaf 1655). Nid oes brawf bod Miles yn credu dim mewn arddodiad dwylo ar aelodau unigol, ond sicr yw i William Prichard ac arweinwyr eglwys y Fenni (ac eglwysi'r goror yn gyffredinol) dderbyn yr arfer yn frwdfrydig, er i hynny, medd Henry Maurice yn 1675, achosi peth rhwyg yn eu plith. Oherwydd colli llyfrau llys 'consistony' Llandaf, ni wyddom fawr am helynt Prichard fel Anghydffurfiwr yn nyddiau'r Adferiad; ond gwyddom i William Jones o Rydwilym ddod i'r dwyrain yn 1666 neu 1667, cael ei fedyddio gan William Prichard, a derbyn arddodiad dwylo, ac yna ddychwelyd i'r gorllewin gyda'r efengyl driphlyg o fedydd troch, arddodi dwylo, a'r Swper caeth cyfyngedig. Teithiodd William Prichard yng nghwmni Thomas Watkins i dueddau Rhydwilym i sefydlu'r eglwys newydd ar ddydd Sul, 12 Gorffennaf 1668, ac ni ellir pwysleisio gormod ar y ffaith iddo fod yn ddolen gydiol rhwng Bedyddwyr Ilston a Bedyddwyr y de-orllewin: gorffwys llawer iawn o bwys traddodiad organig y Bedyddwyr Neilltuol ar ysgwyddau William Prichard. Yn 1672, ar 10 Awst, cafodd drwydded i bregethu yn dŷ ei hun, erbyn hynny yn Llandeilo Pertholau, ychydig i'r dwyrain o'r Fenni; ond sicr yw mai dilynwyr William Prichard oedd y rhan fwyaf o'r 27 Ymneilltuwr a gyfrifwyd yn Llanwenarth yn 1676 a'r 41 yn y Fenni ei hun. Bu farw 27 Tachwedd 1713 yn weinidog ar eglwys y Fenni ers 60 mlynedd. Cyn ei farw yr oedd wedi gweled Deddf Goddefiad yn dod i rym, myned i gymanfa fawr Llundain yn 1689, swcro arweinwyr newyddion a sefydlu cangen eglwysi yn Llanwenarth a'r Trosgoed, gweled cymanfa gyntaf Cymru yn dod i Lanwenarth yn 1700 i lanw'r capel cyntaf a godwyd gan Fedyddwyr Cymru yn 1695.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.