MAURICE, HENRY (1634 - 1682), 'apostol Brycheiniog'

Enw: Henry Maurice
Dyddiad geni: 1634
Dyddiad marw: 1682
Priod: Elin Maurice (née Glyn)
Rhiant: Griffith Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'apostol Brycheiniog'
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Mab Griffith Morris o Fethlan, plwyf Aberdaron, ac yn berthynas pur agos i Wyniaid Boduan ac Edwardiaid Nanhoron. Addysgwyd ef yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Nid oes digon o sicrwydd mai ef oedd yr Henry Morris a ddaeth i'r amlwg yn 1656 fel gŵr a bleidiai symud ysgol Botwnnog i Bwllheli, ond y mae mwy na digon mai ef a benodwyd gan y 'Triers' yn 1658 i fugeilio Piwritaniaid Llannor a Deneio; ef hefyd oedd yr Henry Maurice a gyfleodd eiriau ar ymyl y ddalen yn ail ran Cannwyll y Cymry a gyhoeddwyd yn niwedd 1659 neu ddechrau 1660, sef geiriau i egluro i bobl y Gogledd ystyr rhai o ymadroddion rhy Ddeheuol y Ficer Prichard. Pan ddaeth yr Adferiad, cydymffurfiodd ag Eglwys Loegr; ym Mawrth 1661 penodwyd ef yn ficer Bromfield ger Llwydlo; ym Mehefin 1668 codwyd ef yn rheithor Church Stretton. Cyn Mehefin 1671, fodd bynnag, digwyddodd y dröedigaeth fawr; ymddihatrodd Maurice o'i urddau eglwysig a daeth yn bregethwr Anghydffurfiol, a hynny gyda llwyr gydymdeimlad ei wraig Elin, unig ferch y Brenhinwr cyndyn Sieffre Glyn o'r Gwynfryn ger Pwllheli. Pan ddaeth rhyddid bychan 1672 o dan yr 'Indulgence,' yr oedd yn byw yn Much Wenlock, a gofynnodd am dair trwydded i bregethu, un yn ei dŷ ei hun, un arall yn yr un pentref a thrydedd yn Acton Round. Nid oedd ysbryd na llythyren y Declarasiwn yn caniatáu i bregethwr weithio y tu allan i gylch ei drwyddedau, ond aeth Maurice ar daith (Mehefin 1672) i siroedd Trefaldwyn a Maesyfed, ar daith arall ddechrau Awst i sir Frycheiniog, ac yn niwedd yr un mis ar y daith enwog i Lŷn ei ddyddiau bore, gan bregethu mewn lleoedd heb drwydded ganddynt, annerch tyrfaoedd mewn mynwentydd, a myned mor hy â cheisio pregethu yn eglwysi'r wlad. Yn naturiol ddigon ymwelodd â John Williams yn Llangian, ac â'r sgwïer Richard Edwards yn Nanhoron. Yn union wedi iddo ddychwelyd i Wenlock, gwahoddwyd ef i fod yn fugail ar eglwys gynnull Annibynwyr Brycheiniog, gyda'i bencadlys (yn ôl pob tebyg) yn Llaneigon. Yn ystod ei yrfa o 10 mlynedd yn y sir honno datblygodd yn un o bwerau mwyaf grymus yr ail genhedlaeth o Biwritaniaid, fel y prawf y cyfeiriad arbennig ato yn 1673 mewn llythyr oddi wrth yr esgob Lucy at yr archesgob; y nifer mawr (682) o Anghydffurfwyr (y rhan fwyaf o lawer yn Annibynwyr) a ymddangosodd yng ngholofnau 'census' 1676; a'r eglwysi gwahanedig o Annibynwyr â'u henwau yn 'Lists' Dr. John Evans yn 1715 ac ymlaen, a darddodd allan o eglwys fawr y sir. Y mae lle amlwg iddo yn An Account of the minsiters... ejected Calamy; un o brif ddiddordebau llyfr hanes y Dr. Thomas Rees o Abertawe ar Anghydffurfiaeth Cymru yw'r dyfyniadau o ddyddiadur Maurice am 1672; iddo ef y gofynnodd un o henuriaid Broadmead ym Mryste am roddi (yn 1675) grynodeb bras o hanes a tharddiad achosion Ymneilltuol Cymru, heb anghofio enwau eu pregethwyr a'u gwahanol swyddogion - llafn o oleuni o ganol tywyllwch dyddiau'r erlid. Rhagfarnau Maurice yn bur amlwg ynddo: Calfin ac Annibynnwr uniongred ydoedd, heb rithyn o gydymdeimlad ag Arminiaid a Chrynwyr. Nid oedd fodd, ychwaith, anghofio ei stremp aristocrataidd, ond graddol larieiddiwyd hi gan y grasusau Cristnogol. Bu farw 30 Gorffennaf 1682, yn 48 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.